Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn wedi'u gwahardd o gemau pêl droed yn sgil digwyddiadau ar ddiwrnod gêm.
Ymddangosodd David Jones, 37, o Wersyllt a Ryan James Lloyd, 40, o Farchwiel, ger bron Llys Ynadon Wrecsam ar ddydd Llun, 15 Awst. Cafodd y ddau Orchymyn Gwahardd Pêl-droed (FBO) am dair blynedd.
Daeth hyn ond ddyddiau ar ôl i ddau ddyn arall dderbyn yr un gorchmynion yn dilyn cyrch ar gae pêl droed Wrecsam yn y gêm yn erbyn CPD Dover ar 26 Mawrth.
Cafwyd Jones yn euog o gyrch cae pêl droed yn gêm Wrecsam yn erbyn Eastleigh ar 9 Ebrill eleni, tra cafwyd Lloyd yn euog o'r un drosedd yn gêm Tlws yr FA yn erbyn Stockport ar 2 Ebrill.
Lansiwyd ymchwiliad gan yr heddlu ar ôl i gefnogwyr Wrecsam fynd ar y cae yn ystod y gêm.
Bydd y gorchmynion a roddwyd i'r diffynyddion yn eu hatal rŵan rhag mynd i unrhyw gemau pêl droed yn y DU am gyfnod y gorchymyn.
Byddant hefyd yn cael eu gwahardd rhag bod 2.5km o unrhyw gêm bel droed a reoleiddir, gan gynnwys y Cae Ras ar ddyddiau gêm. Maent hefyd wedi'u gwahardd rhag mynd i unrhyw dref/dinas lle mae CPDC Wrecsam neu dîm cenedlaethol Cymru yn chwarae gêm i ffwrdd. Gall methu â chydymffurfio â'r gorchymyn arwain at ddirwy neu chwe mis o garchar.
Mae Adran 4 o Ddeddf Troseddau Pêl Droed yn gwneud hi'n glir y gwahoddir unrhyw gefnogwr sy'n meddiannu’r cae yn cael ei wahardd.
Nodir: 'Mae'n drosedd i berson mewn gem bêl-droed i fynd ar y cae neu unrhyw ardal wrth ymyl y cae chwarae lle nad yw cefnogwyr fel arfer yn cael mynediad, heb awdurdod cyfreithiol neu reswm cyfreithiol.
Mae'r gorchmynion yn gwahardd ac yn sicrhau bod y rhai sy'n euog o greu anhrefn mewn gem bêl-droed yn cael eu gwahardd o'r gêm.
Dywedodd Dave Evans, Swyddog Penodol ar gyfer Pêl-droed: "Am yr eildro o fewn dyddiau, mae unigolion wedi derbyn Gorchmynion Gwahardd Pêl-Droed.
"Rydym yn croesawu'r gefnogaeth gynyddol yn y Cae Ras yn fawr iawn. Ond mae'r Clwb wedi bod yn glir iawn y bydd unrhyw un sy'n troseddu mewn gemau yn cael eu herlyn, ac fe wnawn eu cynorthwyo gyda hyn.
"Cyn gem fawr i ffwrdd yn Chesterfield heno, mae'n werth cydnabod fod yr unigolion hyn yn lleiafrif bach o gefnogwyr CPDC Wrecsam sydd fel arall yn wych ac sy'n glynu at y gyfraith.
"Gyda'r clwb, fe wnawn barhau i sicrhau fod y profiad ar ddiwrnod y gêm yn ddiogel ac yn bleserus i gefnogwyr o bob oed y tu mewn a thu allan i'r cae."
Dywedodd Fleur Robinson, PSG Wrecsam: "Fel y gwnaethom amlinellu yn natganiad y Clwb yr wythnos ddiwethaf, rydym yn deall angerdd ac emosiwn gwylio pêl droed, ond nid yw'n esgusodi ymddygiad annerbyniol. Mae'n ymddygiad sydd â chanlyniadau i'r Clwb Pêl Droed oherwydd cosbau ariannol, costau uwch, a'r bygythiad o gau'r stadiwm.
"Mae'r Gorchmynion Gwahardd Pêl Droed hyn yn ailadrodd y canlyniadau i unigolion sy'n euog o'r troseddau hyn hefyd. Rydym yn parhau i annog pawb sy'n dod i gemau Wrecsam i ystyried canlyniadau posibl eu gweithrediadau'n gryf.
"Hoffwn ddiolch i Heddlu Gogledd Cymru am eu cymorth unwaith yn rhagor. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda'n gilydd i sicrhau fod y Cae Ras yn parhau'n amgylchfyd diogel, croesawgar a chynhwysol i bawb."