Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae plismones ddewr a enillodd wobr am gamu i'r adwy ar ei phen ei hun i atal gang rhag curo dyn diamddiffyn yn arwain ymgyrch recriwtio'r heddlu.
Roedd Clare Larkey-Jones, 48 oed, sy’n fam i dri o blant, ar ei phen ei hun ar ôl dod oddi ar ddyletswydd un noson pan gamodd i’r adwy i dorri fyny’r ymosodiad ar y Maes yng Nghaernarfon, gweithred sydd wedi ei gweld yn cael ei hanrhydeddu mewn derbyniad yn 10 Stryd Downing.
Meddai: “Ro’n i newydd orffen shifft 11 awr ac yn pigo fy mrawd a’i gariad i fyny o’r Maes yng Nghaernarfon cyn mynd adref pan glywais i lawer o weiddi a thwrw.
“Dywedais wrth fy mrawd am aros yn y car a cherddais draw ac roedd criw o hogiau yn pigo ar ddyn ifanc yn ei ugeiniau.
“Roedden nhw fel haid o anifeiliaid gwyllt o’i gwmpas ac yn dechrau ei guro. Mi wnaethon nhw stopio pan es i draw ond yna mi wnaethon nhw ddechrau eto.
“Mi es i ar auto-pilot a gafael yn yr arweinydd, gweiddi arnyn nhw a’i dynnu fo i ffwrdd cyn iddyn nhw redeg i ffwrdd ac yna ffoniais yr heddlu a’r ambiwlans.”
Roedd y Cwnstabl Larkey-Jones yn siarad wrth i Heddlu Gogledd Cymru lansio eu hymgyrch diweddaraf i recriwtio mwy o swyddogion.
Mae’r ffenestr ar gyfer ceisiadau ar agor rhwng Awst 18 ac Awst 29 a cheir manylion ar wefan Heddlu Gogledd Cymru www.northwalespolice.uk.
Daeth yr achos i ben yn Llys y Goron Caernarfon pan glywodd y llys fod y Cwnstabl Clare Larkey-Jones wedi cydio yn arweinydd y gang Callum Lee Davies “wrth iddo anelu dwrn”.
Cafodd Davies ei garcharu am yr ymosodiad a chanmolwyd dewrder y Cwnstabl Larkey-Jones gan y Barnwr Nicola Jones a ddywedodd: “Diolch byth, bod y Cwnstabl Clare Larkey-Jones wedi ymyrryd, er nad oedd ar ddyletswydd y noson honno, heb feddwl am ei diogelwch ei hun, ac yn amlwg yn meddwl am ddim ond adfer trefn.
“Roedd hi yng nghanol yr holl ddynion hyn a oedd yn ymddwyn yn dreisgar.
“Fe anfonodd hi bawb oddi yno mewn ffordd glir a chadarn iawn.”
Enillodd y Cwnstabl Larkey-Jones a'i gŵr, Gareth, sy’n beiriannydd trydanol, daith i Lundain ac enwebiad am Wobr Dewrder Ffederasiwn yr Heddlu hefyd.
Wrth gofio’r digwyddiad, ychwanegodd: “Roeddwn i’n gwybod bod rhywbeth nad oedd yn iawn yn digwydd yno ac mi wnes i feddwl pe bai un o’m hogiau i’n cael ei guro y baswn i’n hoffi meddwl y basai rhywun yn gwneud yr un peth â mi. A dweud y gwir doeddwn i ddim yn meddwl dim am y peth ar y pryd.
“Dydw i ddim yn hoffi gweld pobl yn cael eu bwlio. Gofynnodd fy ngŵr i mi pam wnes i hynny ac roedd hynny oherwydd mai dyna oedd y peth iawn i’w wneud.”
Nid yw hyd yn oed camu i mewn i ddigwyddiad treisgar fel yna wedi gwneud i’r Cwnstabl Larkey-Jones o Nefyn, ger Pwllheli, ddifaru ymuno â’r heddlu, lle mae hi bellach yn gweithio gyda dioddefwyr bregus trais rhywiol fel Swyddog Cyswllt Troseddau Rhywiol fel aelod o dîm arbenigol Amethyst Heddlu Gogledd Cymru.
Cyn hynny treuliodd 22 mlynedd mewn iwnifform yn plismona rheng flaen yng Ngwynedd, gan ymuno yn 25 oed ar ôl ennill BA mewn Troseddeg ym Mhrifysgol Bangor er mwyn helpu ei chais i ymuno â’r heddlu.
Mae hi allan o’i lifrai bellach ac yn gweithio fel rhan o dîm Amethyst lle mae’n mwynhau ei rôl newydd, ac meddai’r Cwnstabl Larkey-Jones, a wirfoddolodd gyda Chymorth i Ferched fel myfyriwr: “Rydym yn delio â threisio ac ymosodiadau rhywiol difrifol - mae’r ditectif yn delio efo’r sawl sydd dan amheuaeth ac rwy'n delio ac yn cefnogi'r dioddefwr.
“Byddaf wedi bod ar y tîm am ddwy flynedd ym mis Hydref ac mae fy ngwaith yn golygu meithrin perthynas efo’r dioddefwyr a chynnal cyfweliadau fideo.
“Maen nhw'n dweud wrthych am bethau sy'n bersonol iawn ac sy'n gallu bod yn embaras mawr ac weithiau mae'r rhain yn ddigwyddiadau sy'n mynd yn ôl 20 mlynedd neu fwy sy'n eithaf erchyll ac efallai nad ydyn nhw erioed wedi dweud wrth neb amdanyn nhw o'r blaen.
“Mae'n ymwneud â threulio amser efo dioddefwr, cael sgyrsiau hir efo nhw a gallu eu helpu - yn y diwedd rydych chi'n gobeithio eich bod chi wedi gallu gwneud gwahaniaeth.
“Yn aml maen nhw’n nabod y dioddefwr oherwydd bod yr ymosodiadau hyn yn digwydd yn y cartref, o fewn y briodas neu’r berthynas neu hyd yn oed ar noson allan.
“Pan fydd y dioddefwr yn mynd i’r llys, rydan ni’n mynd efo nhw ac yn eu cefnogi - mae’n rhan hanfodol o waith tîm Amethyst.”
Mae'n her newydd i Clare a ddywedodd: “Rydw i bob amser wedi mwynhau'r amrywiaeth o fod yn blismon, mae pob diwrnod yn wahanol ac rwyf bob amser wedi mwynhau dod i'r gwaith a gwneud cymaint o ffrindiau.
“Rwy’n hoffi bod allan a delio efo’r cyhoedd ac mi wnes i fwynhau’n arw bod ar alwad a delio efo popeth o ddamweiniau ffordd i ymosodiadau ac mae’r holl amrywiaeth o bethau y gofynnir i ni ddelio efo nhw a bod efo tîm Amethyst yn werth chweil hefyd.
“Mae hefyd wedi bod yn swydd hyblyg ac wedi caniatáu i mi fod yn rhan amser tra roedd fy mhlant yn tyfu i fyny ond roeddwn i bob amser yn barod i weithio penwythnosau ac mewn gwirionedd mae'r blynyddoedd wedi gwibio heibio'n gyflym ofnadwy.
“Dw i wedi methu sawl dathliad teuluol, penblwyddi ac wedi gorfod gweithio’n hwyr a gweithio ar ddiwrnod Dolig ac ati, ond mae’r heddlu’n waith 24-7, fedrwn ni ddim cau achos bod hi’n Ŵyl y Banc.”
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Sian Beck: “Mae hwn yn wasanaeth 24 awr felly dydyn ni ddim yn gweithio 9 tan 5. Dydych chi ddim bob amser yn mynd adref pan fyddwch chi eisiau a dydych chi ddim bob amser gartref pan fydd eich teulu yn dathlu gwyliau banc.
“Rydych chi'n gweld pobl pan maen nhw ar eu mwyaf bregus ac yn yr amser gwaethaf yn eu bywydau ac mae hynny'n gallu peri gofid.
“Ond ar y llaw arall, bod yn heddwas yw’r yrfa fwyaf anhygoel gyda nifer fawr o gyfleoedd gwahanol.
“Fel Clare, gallwch gael gyrfa hir a llwyddiannus iawn fel swyddog patrôl, gan feithrin cyfoeth o brofiad a gwybodaeth am y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
“Os yw'n well gennych gallwch fynd am ystod eang o arbenigeddau. Mae'r cyfleoedd yn ddiddiwedd a gallwch gael amrywiaeth eang o yrfaoedd o fewn yr heddlu.
“Pa bynnag lwybr a ddewiswch, byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr anhygoel ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl o ddydd i ddydd.
“Mae’n gyfrifoldeb enfawr ond hefyd yn fraint fawr.”
I gael mwy o fanylion am sut i wneud cais ewch i www.northwalespolice.uk
Capsiwn: Cwnstabl Clare Larkey-Jones, aelod o Dîm Amethyst Heddlu Gogledd Cymru sy’n delio â threisio ac ymosodiadau rhywiol difrifol, gyda’i Gwobr Dewrder.
Lluniau gan Mandy Jones Photography.