Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Lansiwyd cynllun peilot ym Mangor a Chaernarfon mewn partneriaeth gydag elusen CAP (Christians Against Poverty).
Elusen yw CAP sy'n rhoi cyngor proffesiynol ar reoli dyled a dyma'r unig wasanaeth sy'n gwneud hyn yn lleol. Mae eu grwpiau cymunedol yn cynnig help gyda rheoli arian, torri arferion drwg a chanfod gwaith. Nid yw eu gwasanaeth yn gyfyngedig i Gristnogion ac mae yno i unrhyw un sydd angen cymorth i fod yn rhydd o ddyled.
Rydym yn cydnabod y gall pobl sy'n fregus yn ariannol droseddu mewn ymgais i dalu dyledion. Mae hyn yn eu gwneud yn fregus ac yn darged i fenthycwyr arian anghyfreithiol sy’n disgwyl iddynt dalu symiau mawr yn ôl.
Drwy weithio mewn partneriaeth gyda CAP, mae gennym gyfle i gefnogi rhai sy'n troseddi'n barhaus i dorri'r cylch dieflig, gan helpu lleihau troseddu yn yr ardal.
Dywedodd Rhingyll Arwel Hughes: “Rydym yn hapus i weithio mewn partneriaeth gyda Christians Against Poverty gyda'r fenter er mwyn cefnogi’r rhai sydd mewn dyled a allai droseddu mewn ymgais i dalu eu dyledion.
“Drwy wneud hyn, byddwn yn lleihau troseddau yn yr ardal drwy atal yr amgylchiadau sy'n arwain at droseddu yn y lle cyntaf. Mae hyn yn lleihau'r galw ar yr heddlu, yn atal unigolion rhag cael cofnod troseddol ac yn creu amgylchedd mwy diogel yn y gymuned."
Os ydych yn chwilio am gymorth gyda rheoli eich dyledion gallwch gysylltu â CAP drwy alw 0800 328 0006 neu ewch i'r wefan.