Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Arweiniwyd y seremoni gan y Dirprwy Brif Gwnstabl Richard Debicki gyda chaplan aml-ffydd gwirfoddol yr heddlu, Ant Howe a darlleniad dwyieithog gan Lowri Roberts.
Cafwyd munud o dawelwch am 11yb i gofio swyddogion heddlu, cyfeillion a chydweithwyr sydd wedi'u lladd neu wedi marw tra ar ddyletswydd.
Dywedodd DI Katie Ellis: "Heddiw, mewn gwasanaeth lleol, gwnaethom nodi Diwrnod Cenedlaethol Cofio'r Heddlu i'r rhai hynny a fethodd ddod i'r gwasanaeth cenedlaethol yn Lincoln. Yn ystod y gwasanaeth rydym yn oedi i gofio ein cydweithwyr a wnaeth yr aberth mwyaf, a aeth i'r gwaith ond na ddaeth adref. Mae hefyd yn amser i feddwl am y rhai hynny y gwnaethant eu gadael ar ôl a fydd yn parhau'n rhan o deulu plismona am byth."
Yn bresennol oedd gweddw, mam a thad PC Andrew Parker, a laddwyd mewn gwrthdrawiad traffig ffordd wrth deithio adref o ddyletswydd ar 23 Medi 2005. Hefyd yn bresennol oedd mab Richard Charles Gostage, a fu farw yn 206 tra ar ddyletswydd pan wnaeth ei feic modur heddlu heb farc arno fod mewn gwrthdrawiad ar yr A5. Gwnaeth y ddau deulu oleuo cannwyll er cof am eu hanwyliaid.
Un o amcanion Diwrnod Cenedlaethol Cofio'r Heddlu ydy dangos i berthnasau, ffrindiau a chydweithwyr swyddogion sydd wedi marw nad yw eu haberth wedi'i anghofio. Roeddem yn fodlon i deuluoedd Andrew a Richard ymuno â ni heddiw i'w cofio nhw, ynghyd a'n cydweithwyr eraill sydd wedi colli eu bywydau ar ddyletswydd.