Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rhoddwyd arian Trechu Trosedd yn ddiweddar i West End Academy ar gyfer prosiect celf stryd ym Mangor.
Roedd y prosiect yn cynnwys plant 6 oed a hŷn yn dysgu am gelf stryd, yn dylunio eu darnau eu hunain ac yn cymryd rôl weithredol mewn creu murlun graffiti yn eu clwb ieuenctid.
Ymwelodd yr Uchel Siryf, Gwyn Owen, a'r cyn Uchel Siryf, Eryl Williams, â'r prosiect. Cafodd y gwaith a wnaed gyda phobl ifanc lleol argraff fawr ar y ddau.
Gwnaeth Andy Birch, yr arlunydd graffiti adnabyddus, a adwaenir hefyd fel 'Dime One', ddysgu sgiliau celf stryd i'r bobl ifanc. Gwnaeth eu dysgu i greu eu dyluniadau eu hunain a gweithio ar furlun mwy hefyd. Aeth y murlun ar focs storio'r clwb ieuenctid a welir gan bawb sy'n defnyddio'r clwb.
Dywedodd y Rhingyll Dana Baxter: "Mae mentrau fel hyn yn ffordd wych o ddod â sefydliadau at ei gilydd i ymdrin ag unrhyw broblemau lleol a chreu ymdeimlad o falchder cymunedol.
"Mae wedi bod yn wych gweld ymrwymiad pobl ifanc yn yr ardal leol sydd wedi gweithio'n galed i gyd i greu'r murlun. Mae hyn wedi rhoi prosiect hwyliog iddynt gymryd rhan ynddo dros wyliau'r haf ynghyd â'r cyfle i arddangos eu creadigrwydd."
Dywedodd Dave Evans, ar ran Trechu Trosedd: "Roedd yn wych cael y cyfle i fynd â'r Uchel Siryf i weld y prosiect hwn a chyfarfod â'r bobl ifanc oedd yn cymryd rhan. Roeddent mor frwdfrydig ynghylch eu cysylltiad. Gwnaethant hefyd fachu ar y cyfle i siarad â'r Uchel Siryf am ei waith ef hefyd!
"Ar ran Trechu Trosedd, hoffwn ddiolch i'r bobl ifanc am eu brwdfrydedd ac i Natalie Robb, y Rhingyll Dana Baxter ac Andy Birch am eu gwaith gwerthfawr yn cynorthwyo'r bobl ifanc."