Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar ddydd Iau, 9 Medi, byddwn yn ymuno â phobl ar draws y Deyrnas Unedig er mwyn dathlu Diwrnod y Gwasanaethau Brys (neu Diwrnod 999) – sef digwyddiad cenedlaethol sy’n talu teyrnged i’r miliynau o bobl sy’n gweithio a’n gwirfoddoli ar draws y gwasanaethau brys a’r GIG.
Ar ddydd Iau, 9 Medi, byddwn yn ymuno â phobl ar draws y Deyrnas Unedig er mwyn dathlu Diwrnod y Gwasanaethau Brys (neu Diwrnod 999) – sef digwyddiad cenedlaethol sy’n talu teyrnged i’r miliynau o bobl sy’n gweithio a’n gwirfoddoli ar draws y gwasanaethau brys a’r GIG.
Wedi’i greu yn 2016 gan Tom Scholes-Fogg, mae Diwrnod 999 wedi cael cefnogaeth gan Ei Mawrhydi Y Frenhines, Tywysog Cymru, Duges Cernyw a Dug Caergrawnt. Mae hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan y Prif Weinidog, a Phrif Weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Nod Diwrnod 999 hefyd ydi hybu effeithlonrwydd ac addysgu’r cyhoedd ar sut i ddefnyddio’r gwasanaethau’n ddoeth. Mae hefyd yn gyfle i hybu elusennau sy’n gysylltiedig â’r gwasanaethau brys ac amlygu’r cyfleodd recriwtio a gwirfoddoli sydd ar gael.
Meddai Carl Foulkes, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru: “Mae Diwrnod 999 yn gyfle i ni gydnabod ymrwymiad pawb sy’n gweithio’n galed ar draws y gwasanaethau brys a’r GIG, gan gynnwys y nifer sy’n gwirfoddoli eu hamser, ac ni fyddai’r gwasanaethau brys yn gallu gweithio cystal hebddynt.
“Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod yn heriol iawn i bawb, felly hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i bawb yn Heddlu Gogledd Cymru – swyddogion, staff a gwirfoddolwyr – am eu hymdrechion enfawr a’u gwaith tîm dros y cyfnod.
“Er bod yr ymgyrch yma yn ymgyrch diwrnod cyfan, fe fyddwn ni’n bachu ar y cyfle er mwyn hybu’r waith yr ydym yn ei wneud dros gyfnod o wythnos ar ein cyfryngau cymdeithasol. Felly rhwng y 9 a 16 Medi, fe fyddwn yn amlygu’r gwaith da drwy edrych ar yr adrannau gwahanol, megis plismona lleol ac wrth gwrs ein cŵn arbennig iawn, ac fe fyddwn ni hefyd yn hybu unrhyw gyfleoedd recriwtio.
“Fe fyddwn ni hefyd yn hybu rhai o’n hymgyrchoedd a gall defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol ddilyn yr hashnod #999Day er mwyn darganfod mwy.”
Meddai Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Fel y Comisiynydd dwi’n ymwybodol fod ein cymunedau ni yn cefnogi’r gwasanaethau brys a dwi’n hynod o falch o fod yn cefnogi’r diwrnod a dangos fy ngwerthfawrogiad i’r rhai sy’n chwarae rhan holl bwysig er mwyn diogelu Gogledd Cymru.
“Dros yr 18 mis ddiwethaf mae ein swyddogion, staff a gwirfoddolwyr wedi dod i’w gwaith er mwyn gwarchod a gwasanaethu’r cyhoedd, ac maent wedi gwneud hynny dan amodau anodd er mwyn gwarchod cymunedau. Maent i gyd wedi dangos nerth a dewrder a hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch iddynt am bopeth maent wedi eu wneud, ac yn parhau i’w wneud er mwyn ein diogelu.”
Mi fydd Heddlu Gogledd Cymru yn hybu gwaith eu swyddogion, staff a gwirfoddolwyr fel rhan o Ddiwrnod 999 rhwng y 9 a 16 Medi. Plis dilynwch yr hashnod swyddogol #999Day.