Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mewn ychydig dros mis bydd yr haf yn dod i ben yn swyddogol a hoffai Heddlu Gogledd Cymru atgoffa defnyddwyr y ffyrdd i gymryd gofal a bod yn wyliadwrus pan fyddant allan.
Gyda’r clociau yn cael eu troi awr yn ôl mae’r newidiadau yn golygu y bydd y dyddiau’n byrhau ac y bydd yn tywyllu’n gynt. Golyga hyn felly y bydd plant, cerddwyr a beicwyr yn fwy bregus ac yn llai gweladwy i fodurwyr.
Rhingyll Liam Morris o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “Gyda’r clociau yn cael eu troi awr yn ôl a gan ei bod hi bellach yn tywyllu’n gynharach, mae’n eithriadol o bwysig bod pobl yn gallu eich gweld pan fyddwch allan. Mae’r cyfnodau hirach o dywyllwch yn y bore ac yn y nos, ynghyd ag amodau tywydd gwael yn golygu fod yna fwy o siawns bod pobl am fod mewn gwrthdrawiad.
“Dylai gyrwyr gymryd gofal ychwanegol yn y tywyllwch ac yn ystod tywydd drwg ac ystyried diogelwch eu hunain ac eraill. Dylid sicrhau bod cerbydau mewn cyflwr da i fod ar y ffordd, yn enwedig mewn cyfnod lle gall y tywydd newid heb rybudd. Drwy arafu pan fydd hi’n wlyb neu’n niwlog ac ystyried gyrwyr eraill, cerddwyr a beicwyr gall gyrwyr wneud gwir wahaniaeth o ran cynorthwyo i leihau’r nifer sy’n cael eu hanafu a’u lladd ar ein ffyrdd.
“Hefyd mae angen i feicwyr a beicwyr modur gymryd cyfrifoldeb a sicrhau eu bod yn weladwy drwy wisgo dillad llachar ac adlewyrchol. Yn aml rydym yn gweld beicwyr allan ar y ffyrdd yn gwisgo dillad du, sydd nid yn unig yn anaddas ond mae hefyd yn hynod o beryglus. Atgoffir beicwyr eu bod angen golau gwyn ar ffrynt y beic a golau coch ar y cefn.
“Fe ddylai rhieni hefyd wneud yn siŵr bod modd i bobl weld eu plant, ac eto dylent wisgo dillad llachar ac adlewyrchol pan fyddant yn cerdded i ac adref o’r ysgol.”
Ychwanegodd: “Mae hwn i gyd yn rhan o’n hymrwymiad er mwyn gwella diogelwch y ffyrdd ac atal mwy o drasiedïau ar ein ffyrdd. Rydym yn erfyn ar bawb i rannu’r cyfrifoldeb er mwyn cadw ein ffyrdd yn ddiogel.
“Yn ychwanegol at hyn fe fyddwn yn gwirio cerbydau ar ochr y ffyrdd er mwyn sicrhau eu bod mewn cyflwr da dros fisoedd y gaeaf. Dwi’n erfyn ar fodurwyr sicrhau fod y teiars yn iawn, fod y golau yn gweithio a bod digon o ddŵr er mwyn cadw eich ffenestr ffrynt yn glir. Cymrwch ofal ac arhoswch yn ddiogel.”
Dyma ychydig o gyngor i ddefnyddwyr y ffyrdd:
Gyrwyr
Beicwyr
Cerddwyr
Bydd swyddogion yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ryddhau negeseuon am ddiogelwch y ffordd, felly dilynwch yr hashnodau #BrightenUp a #BeSafeBeSeen.