Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymgyrch wythnos o hyd sy’n dathlu gwaith anweledig arwyr rheng flaen y gwasanaethau brys yn cychwyn heddiw (18 Hydref).
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Ryngwladol yr Ystafell Reoli – sef ymgyrch sy’n amlygu ac yn dathlu gwaith hanfodol ac amrywiol swyddogion a staff sy’n gweithio mewn canolfannau cyfathrebu ar draws y byd.
Mae’r Ganolfan Gyfathrebiadau ar y Cyd wrth galon y gwasanaeth. Mae wedi’i rhannu efo’r Gwasanaeth Tân ac Achub ac mae wedi’i lleoli yn Llanelwy, gyda’r trinwyr galwadau yn bwynt cyswllt cyntaf i nifer sydd eu hangen.
O hyd ar gael, ac yn ateb y galwadau mwyaf difrifol, mae’r ganolfan ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Ar gyfartaledd maent yn derbyn 84, 235 o alwadau ‘999’ a 216,160 o alwadau di-argyfwng drwy 101 bob blwyddyn.
O ymdrin â phobl ar goll, pobl mewn argyfwng iechyd meddwl sy’n bygwth hunanladdiad, adroddiadau o ymosodiadau difrifol a threisgar, gwrthdrawiadau angheuol, ac ar adegau, yn cael eu sarhau ar lafar – does dim ‘diwrnod arferol’ yn yr ystafell reoli. Felly drwy gydol yr wythnos bydd y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio er mwyn hybu rhai o’r staff sy’n gweithio o’r ganolfan.
Dywed y Prif Uwcharolygydd Alex Goss o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae ein timau ymroddedig yno ddydd a nos a nhw yw’r pwynt cyswllt cyntaf i’n cymunedau pan fo’r angen fwyaf. Mae llawer sydd angen ein cymorth, sy’n fregus neu efallai wedi dioddef trosedd.
“Cyfrifoldeb sgiliau’r staff ydy rheoli’r alwad gyntaf, tawelu meddwl y galwr a chymryd y manylion a’r ffeithiau sydd eu hangen er mwyn galluogi’r ymateb cywir i’r digwyddiad.
“Rydym yn gwbl gefnogol o’r wythnos yma sy’n rhoi cyfle i ni gydnabod a diolch i’n timau, sy’n gwneud gwaith arbennig drwy gefnogi ein cymunedau, yn gyhoeddus.
“Mae ystafell reoli'r gwasanaethau brys yn lle unigryw i weithio. Nid yw byth yn stopio ac mae’n her gyson lle mae’n cymryd unigolyn arbennig i weithio ynddi. Rhywun cadarn sy’n dangos empathi, sy’n gallu meddwl yn sydyn a chymryd rheolaeth dros sefyllfa sy’n gallu bod yn heriol.
“Maent yn aml yn ymdrin â sefyllfaoedd na wnaiff y rhan fwyaf o bobl fyth eu gweld, ac rwyf yn hynod o falch o bob un ohonynt. Mae’r gefnogaeth maent yn eu rhoi i’n cymunedau a’n cydweithwyr yn sylweddol ac nid yw byth yn stopio. Y nhw sy’n darparu’r llais cyntaf i nifer sydd mewn gofid, gan gynnwyd y rhai sydd angen ein cymorth, maent yn danfon ein swyddogion ac adnoddau arbenigol, yn gwneud penderfyniadau o fewn munudau o alw am gymorth. Y nhw yw’r rhai sy’n sicrhau fod yr heddlu yno pan fydd y cymunedau eu hangen.”
Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn annog aelodau o’r cyhoedd i ddefnyddio eu gwasanaethau yn ddoeth ac adrodd am faterion di-frys drwy ein gwefan – lle mae llu o wybodaeth a chyngor a ffurflenni er mwyn adrodd am drosedd, gwneud cais am dystysgrif dryll tanio, diweddaru am drosedd a llawer iawn mwy.
Mae’r wythnos yma yn gyfle i ni ddweud diolch iddynt ac fe fyddwn yn cefnogi’r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio #ArwyrYrYstafellReoli.
Mae rhagor o wybodaeth am yr wythnos ar gael drwy www.internationalcontrolroomweek.com