Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:17 07/10/2021
Mae Swyddog Heddlu o Ogledd Cymru a oedd yn gyfrifol am greu Uned Diogelwch Ffyrdd ar gyfer yr Heddlu Gwirfoddol, wedi derbyn gwobr genedlaethol am ei ymrwymiad i blismona ffyrdd.
Yn ogystal â’i waith bob dydd, gwnaeth PC Martin nodi fod diffyg gwybodaeth o fewn rhai ardaloedd plismona am blismona ffyrdd. Fe greodd becyn hyfforddiant y mae nawr yn ei ddysgu i swyddogion newydd sy’n ymuno â’r heddlu. Mae hyn yn golygu mewnbwn mewn dosbarth ganddo, ynghyd ag asesiad ymarferol gydag adborth. Mae’r mewnbwn yma wedi bod yn llwyddiant ac mae’n parhau i ddarparu hyfforddiant i bob criw newydd o swyddogion, sydd hefyd yn rhoi cyswllt allweddol yn yr uned ar gyfer y swyddogion yma.
Fe wnaeth PC Martin hefyd ddarparu cynlluniau er mwyn cael uned diogelwch ffyrdd pwrpasol o fewn yr Heddlu Gwirfoddol yng ngorllewin yr heddlu. Roedd hyn yn cynnwys siarad ag uwch swyddogion o fewn yr Heddlu Gwirfoddol er mwyn dewis ymgeiswyr ar gyfer y swydd.
Roedd hefyd yn allweddol yn hyfforddi’r swyddogion gwirfoddol ynghyd â dewis cerbydau addas ar eu cyfer.
Fe ymunodd PC Martin â Heddlu Gogledd Cymru yn 2002. Mae wedi gweithio ym Mae Colwyn fel rhan o’r tîm plismona lleol, fel Rheolwr Rhawd Gymunedol. Roedd yn Diwtor Gwnstabl ac mae hefyd wedi gweithio ar y Car Trosedd. Fe ymunodd â’r Uned Plismona Ffyrdd yn 2012. Mae’n gweithio hefo tîm bach o swyddogion sydd yn gyfrifol am ymchwilio gwrthdrawiadau angheuol a difrifol – sydd fel arfer yn golygu 20 i 30 bob blwyddyn.
Cyflwynwyd ei wobr gan Mark Jones, Ysgrifennydd a Thrysorydd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru: “Yma yn Ffederasiwn yr Heddlu rydym yn teimlo’n angerddol am ddathlu llwyddiannau ein haelodau, ac mae Scott yn sicr yn esiampl wych o hyn.
“Mae Scott wedi gwneud popeth yn ei allu er mwyn hyrwyddo proffil yr Uned Plismona Ffyrdd ac wedi defnyddio ffyrdd gwahanol er mwyn sicrhau fod ffyrdd y rhanbarth mor ddiogel â phosib. Gyda’r gwaith parhaol er mwyn dod â’r Heddlu Gwirfoddol i mewn i aelodaeth y Ffederasiwn, mae Scott wedi dangos y ffordd drwy ddod â swyddogion a’r Heddlu Gwirfoddol yn agosach o fewn un adran. Llongyfarchiadau enfawr i Scott gennym ni gyd yma yn y Ffederasiwn ar ei lwyddiant.”
Dywedodd y Prif Gwnstabl Carl Foulkes: “Mae’n amlwg fod PC Martin yn angerddol am blismona ffyrdd. Rwyf yn hynod o falch ei fod wedi cael ei gydnabod am ei waith yn y maes pwysig iawn yma. Mae o’n gaffaeliad i’r uned ac i Heddlu Gogledd Cymru.”