Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gyda dathliadau Calan Gaeaf a Thân Gwyllt yma, mae Heddlu Gogledd Cymru unwaith eto’n ymuno â phartneriaid gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru er mwyn sicrhau fod pawb yn mwynhau ond mewn modd diogel.
Mae cerfio pwmpenni, gwisg ffansi a gwylio tân gwyllt yn aml yn uchafbwynt yng nghalendr y teulu. Fodd bynnag, nid ydy cyfnod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn hwyl i bawb a gall llawer o bobl yn ein cymunedau deimlo’n ofidus, yn ofnus ac yn bryderus yn ystod y cyfnod hwn.
Gyda lleiafrif yn defnyddio Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt fel esgus i gyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae Heddlu Gogledd Cymru yn erfyn ar rieni a gofalwyr i gymryd sylw o gynlluniau eu plant er mwyn sicrhau eu bod yn ymddwyn yn gyfrifol ac nid yn torri’r gyfraith. Gall ymddwyn yn wrthgymdeithasol a throseddol effeithio ar fywyd un ifanc, ynghyd â’r rhai sy’n cael eu heffeithio oherwydd eu hymddygiad.
Fel arfer, mae hwn yn gyfnod prysur iawn i'r gwasanaethau brys. Bydd ein swyddogion, swyddogion cefnogi cymuned a’r heddlu gwirfoddol yn parhau i fod yn weladwy yn ein cymunedau yn ystod y dathliadau a chyn hynny er mwyn cynorthwyo i atal a chanfod achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anhrefn.
I’r henoed a phobl fregus yn ein cymdeithas, gall y cyfnod yma fod yn frawychus a gofidus. Felly unwaith eto rydym wedi creu dau boster Calan Gaeaf i’w rhoi ar eu ffenestr, sy’n un ai atal neu’n croesawu plant sy’n chwarae cast neu geiniog. Mae’r posteri yma ar gael i’w lawrlwytho a’u hargraffu oddi ar wefan Heddlu Gogledd Cymru. Mi fydd rhai hefyd yn cael eu dosbarthu i’n cymunedau mwyaf bregus gan ein timau cymunedol.
Unwaith eto mae ein timau plismona cymunedol yn gweithio'n agos gyda phartneriaid awdurdod lleol a mân-werthwyr hefyd yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Bydd ein Swyddogion Cyswllt Ysgolion ac asiantaethau partner yn ymweld ag ysgolion ym mhob rhan o ardal yr heddlu i addysgu disgyblion am beryglon tân gwyllt, coelcerthi a chanlyniadau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Rydym hefyd wedi creu amrywiaeth o weithgareddau ar sut i ddathlu’r Calan Gaeaf adref y gall pobl eu lawrlwytho er mwyn diddanu pobl ifanc.
Dywed yr Uwcharolygydd Helen Corcoran o Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn gobeithio eleni, fel oedd yr hi 12 mis yn ôl, y bydd pobl yn cymryd agwedd gyfrifol at Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt. Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd iawn i bawb, ac rydym yn deall y bydd llawer o bobl yn edrych ymlaen at ddathlu’r cyfnod gyda’u teuluoedd.
“Rydym yn gwybod fod y mwyafrif o bobl yn mwynhau’r adeg yma o’r flwyddyn yn gall. Nid ydym eisiau difetha eu hwyl, ond yn anffodus mae lleiafrif yn defnyddio’r cyfnod fel esgus i ymddwyn yn wrthgymdeithasol ac aflonyddu. Rydym eisiau gweithio hefo’n cymunedau er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel, felly mi fydd swyddogion allan ar batrôl ar draws y rhanbarth – yn cynorthwyo i addysgu, tawelu meddwl a diogelu cymunedau.
“Unwaith eto rydym wedi creu posteri defnyddiol i bobl osod yn eu ffenestri, ac rwyf yn eich annog chi gyd i lawrlwytho ac argraffu ar gyfer y teulu neu gymdogion oedrannus. Os welwch chi boster sy’n gofyn am lonydd, parchwch eu dymuniad.”
Mae'r pwysau ar y gwasanaethau brys yn cynyddu'n sylweddol yn ystod cyfnod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt. Er mwyn ein cynorthwyo i sicrhau bod ein llinellau ar gael i'r rhai sydd ein hangen fwyaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â'r asiantaeth fwyaf perthnasol ac yn defnyddio'r dull cysylltu mwyaf priodol.
Mater i'r heddlu yw pryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelwch y cyhoedd. Os nad yw'n argyfwng, gallwch gysylltu â ni drwy’r wefan. Mewn argyfwng ffoniwch 999 bob tro.
Dylid cyfeirio pryderon am sŵn, gwerthu tân gwyllt ac eitemau cysylltiedig eraill, a thaflu sbwriel / tipio anghyfreithlon at eich awdurdod lleol. Mae'r manylion ar gael yma Ein partneriaid | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)
Cyngor i bobl ifanc sy’n mynd i chwarae Cast neu Geiniog: