Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:17 19/10/2021
Ymunwch â'r Arolygydd Gwirfoddol Joseph Daly ar sifft yn plismona economi nos Llandudno ar nos Sadwrn.
Mae ein Heddlu Gwirfoddol yn cynorthwyo'r heddlu mewn sawl ffordd a ledled amrywiol adrannau. Mae eu hymroddiad a'u hymrwymiad i wirfoddoli eu hamser, yn aml ochr yn ochr â gyrfaoedd neu addysg lawn amser, yn gwneud gwahaniaeth mawr i Heddlu Gogledd Cymru ac rydym yn hynod ddiolchgar am eu gwasanaeth.
Mewn un sifft, gwelwch sut mae'r Swyddogion Gwirfoddol yn cysylltu'n uniongyrchol gyda busnesau lleol ac aelodau o'r cyhoedd ac ymateb i unrhyw bryderon neu broblemau a all godi. Ar ddiwedd y noson, maent yn sicrhau fod clybiau a bariau yn gallu cau heb unrhyw drafferth a bod aelodau o'r cyhoedd yn gadael lleoliadau'n ddiogel.
Mae eu patrolau rhagweithiol ar y penwythnos yn rhoi sicrwydd i aelodau o'r cyhoedd ac aelodau staff sy'n gweithio mewn busnesau sydd ar agor yn y nos. Gwyliwch y fideos er mwyn cyfarfod rhai o'r tîm a chlywed am sifft nos Sadwrn arferol.
Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio Swyddogion Gwirfoddol. Ewch i wybod mwy am y rôl ac ymgeisiwch rŵan ar ein gwefan.