Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd Nigel Harrison â'r Heddlu fel Swyddog Gwirfoddol yn 1995 cyn ymuno fel swyddog arferol yn 1997. Mae wedi gweithio ym mhob maes plismona ledled Gogledd Cymru.
Mae wedi gweithio ei hun i fyny'r rhengoedd at swydd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro, gan lenwi'r rôl a adawyd gan Sacha Hatchett sydd wedi gadael Gogledd Cymru i fod yn Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Sir Gaerhirfryn.
Mae ganddo brofiad fel Pennaeth Drylliau Tanio, Trefn Gyhoeddus ac Argyfyngau Sifil. Yn ddiweddar, ymgymerodd â'r rôl o fod yn gydlynydd Aur ar gyfer ymateb COVID yr heddlu ledled Cymru, ynghyd ag arwain y parodrwydd rhanbarthol i Ymadael â'r UE.
Mae'r PGC/DD Harrison hefyd wedi treulio amser fel Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi Gweithredol. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb am Blismona Ffyrdd, Ymgyrchoedd Drylliau Tanio, Cynllunio Gweithredol, Gwasanaethau Cyfiawnder a Chanolfan Cyfathrebiadau'r Heddlu.
Fel Prif Uwcharolygydd, roedd ganddo gyfrifoldeb am Wasanaethau Plismona Lleol a oedd yn cynnwys holl swyddogion rheng flaen mewn lifrai, Ditectifs a staff yr heddlu. Mae hefyd yn flaenorol wedi bod yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol cenedlaethol yn goruchwylio cydweithrediadau ledled Cymru.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Harrison: "Fy uchelgais bob amser oedd dod yn swyddog heddlu. Rwyf wedi bod yn ddigon lwcus i allu gwneud cymaint o wahanol rolau yn ystod fy nghyfnod gyda'r Heddlu.
"Rwyf yn falch o ymuno â Thîm y Prif Swyddogion yma yn Heddlu Gogledd Cymru. Rwyf yn edrych ymlaen at yr heriau sydd i ddod.
"Ymunais â'r Heddlu Gwirfoddol yn 1995 er mwyn cael cip ar blismona ac roedd y profiad mwyaf gwerthfawr. Ym Mangor yr oeddwn i ac roedd y tîm yno'n ffantastig a gwnaeth osod y sylfaen ar gyfer fy ngyrfa. Byddaf bob amser yn ddiolchgar i Roly Schwartz yr Arolygydd ar y pryd a wnaeth fy nghynorthwyo i gyflawni fy uchelgais. Gwnaeth y profiad a gefais yno fy nghynorthwyo i ymuno â'r heddlu fel Swyddog Heddlu yn 1997.
"Mae bod yn Swyddog Gwirfoddol yn rhoi cipolwg iawn i chi o blismona. Mae'n gyfle i asesu os mai hon yw'r yrfa i chi neu i lawer mae'n ffordd o roi'n ôl i'ch cymuned."
Mae Swyddogion Gwirfoddol yn bobl o bob cefndir sy'n dewis treulio eu hamser sbâr yn ein cynorthwyo ni i gynorthwyo pobl eraill. Ein cynorthwyo ni i wella'r cymunedau lle rydym yn byw ac yn gweithio. Ein cynorthwyo i gyflawni ein gweledigaeth o wneud Gogledd Cymru mwy diogel.
Maent yn gweithio gyda swyddogion rheolaidd ac mae disgwyl iddynt gyflawni o leiaf un awr ar bymtheg o wasanaeth y mis. Maent yn derbyn hyfforddiant a lifrai. Er mwyn eu cynorthwyo i blismona eu cymunedau, mae ganddynt holl rymoedd ac awdurdod swyddogion rheolaidd.
Gyda'n ffenest recriwtio ar agor ar hyn o bryd ar gyfer Swyddogion Gwirfoddol newydd, mae rŵan yn amser gwych i ymgeisio. Byddwch yn datblygu sgiliau newydd, yn magu hyder, yn cadw'n heini ac iach ac yn gweithio fel rhan o dîm clos
Am fwy o wybodaeth ar sut i ymgeisio, ewch ar ein tudalen recriwtio > Swyddog gwirfoddol | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)