Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Wrth inni nesáu at y Nadolig, efallai y bydd rhai ohonom yn ystyried prynu e-sgwter fel rhodd. Ond, mae nifer o bobl yn dal i fod yn anymwybodol ei bod yn anghyfreithlon defnyddio e-sgwter preifat ar ffyrdd, palmentydd neu lwybrau beicio cyhoeddus. Yn wir, yr unig le i reidio e-sgwter yn gyfreithlon yng Nghymru yw ar dir preifat gyda chaniatâd y tirfeddiannwr – ym mhobman arall mae yn erbyn y gyfraith.
Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn annog manwerthwyr i sicrhau bod darpar gwsmeriaid yn gwbl ymwybodol, os caiff e-sgwter ei brynu a'i ddefnyddio'n anghyfreithlon wedyn, fod y reidiwr yn mentro cael dirwy o £300, chwe phwynt cosb ar ei drwydded yrru ac y gallai ei e-sgwter newydd gael ei gipio hefyd.
Mae siopau manwerthu ledled y wlad ar flaen y gad o ran rhoi cyngor arbenigol i'r cyhoedd a gwerthu cynhyrchion sy'n ddiogel i'w defnyddio. Bydd ymrwymiad i wneud cwsmeriaid yn ymwybodol o'r rheoliadau presennol ynghylch e-sgwteri yn gwella enw da'r manwerthwr ac yn helpu'n fawr i leddfu'r risg o ran diogelwch ar y ffyrdd.
Yn anffodus, mae mwy o bobl yn dechrau gweld e-sgwteri'n cael eu defnyddio yn eu cymunedau ar ffyrdd a phalmentydd cyhoeddus.
Dywedodd Teresa Ciano, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru: "Efallai na fydd defnyddwyr yn sylweddoli y gallen nhw fod yn effeithio ar neb drwy reidio e-sgwter yn anghyfreithlon, ond maen nhw'n cael eu defnyddio’n fwyfwy ar y briffordd ac ar lwybrau troed a phalmentydd, sy’n peri pryder yn arbennig.
"I gerddwyr o bob oed, mae'n annerbyniol eu bod yn cael eu rhoi mewn perygl o gael eu bwrw drosodd am fod rhywun yn dewis reidio e-sgwter yn anghyfreithlon, heb fawr o ystyriaeth i'r gyfraith nac i bobl eraill. I rywun sydd â cholled ar eu golwg neu eu clyw, gallai dod ar draws e-sgwter sy'n cael ei reidio ar y palmant gael cymaint o effaith arnyn nhw nes eu bod yn teimlo na allan nhw fynd allan ar eu pennau eu hunain, gan golli eu hannibyniaeth."
Dywedodd y Prif Arolygydd Jon Aspinall o Heddlu Gogledd Cymru: "Rydyn ni'n gwybod y gall e-sgwteri fod yn anrhegion Nadolig poblogaidd ond mae'n bwysig bod unrhyw un sy'n ystyried prynu e-sgwter yn gwbl ymwybodol ei bod yn anghyfreithlon eu reidio nhw ar ffyrdd cyhoeddus.
"Os caiff aelod o'r cyhoedd ei ddal yn reidio e-sgwter ar ffordd, palmant neu lwybr beicio cyhoeddus, yna bydd eich e-sgwter yn cael ei gipio, ac efallai y cewch chi ddirwy. Gall rhieni plant sy'n defnyddio e-sgwteri fod yn gyfrifol hefyd am unrhyw ddirwyon sy’n cael eu rhoi am reidio’n anghyfreithlon.
"Gallai e-sgwteri ymddangos fel anrheg wych, ond maen nhw’n gallu cyrraedd cyflymder o fwy na 30mya a gall hyn achosi risg i gerddwyr ac aelodau eraill o'r cyhoedd. Rydyn ni eisoes wedi cipio nifer o e-sgwteri yn y misoedd diwethaf a byddwn yn dal i weithredu yn erbyn unrhyw un sy'n reidio e-sgwter yn anghyfreithlon yn ein cymunedau.
"Mae angen i fanwerthwyr weithio gyda ni i ddysgu'r cyhoedd am ddefnyddio e-sgwteri’n gyfreithiol a sicrhau nad oes neb yn torri'r gyfraith yn anfwriadol."
Byddwn yn gofyn i unrhyw aelod o'r cyhoedd sydd â phryderon am y mater yma, neu sy'n gweld e-sgwter yn cael ei yrru'n beryglus, roi gwybod inni drwy gyfrwng 101. Hefyd gallwch anfon neges aton ni’n uniongyrchol i'n tudalen Facebook, neu fel arall gallwch roi gwybod yn ddienw i Crimestoppers ar 0800 555 111."
Felly, mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn gofyn i fanwerthwyr fod yn gwbl dryloyw gyda chwsmeriaid, i gydnabod hynny os na fyddai e-sgwter yn addas ar gyfer y fan lle maen nhw’n bwriadu ei ddefnyddio, a lle bo'n briodol trafod a fyddai beic traddodiadol neu e-feic yn gweddu'n well i anghenion eu cwsmeriaid