Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bob blwyddyn mae bron i 2 filiwn o bobl yn y DU yn dioddef o ryw fath o gam-drin domestig. 1.3 miliwn o ddioddefwyr benywaidd (8.2% o'r boblogaeth) a 600,000 o ddioddefwyr gwrywaidd (4% o'r boblogaeth). Drwy'r DU, mae 130,000 o blant yn byw mewn cartrefi gyda cham-drin domestig risg uchel. Mae ein neges yn syml. Rydym eisiau hyn i stopio.
Mae achosion o gam-drin domestig yn codi'n sylweddol dros wyliau'r Nadolig. Eleni, rydym yn codi ymwybyddiaeth drwy ein hymgyrch 'Llais Dros Drais' gan weithio gyda Byw Heb Ofn – Llinell Gymorth Cam-drin Domestig a Rhywiol Cymru Gyfan sy'n rhoi cymorth a chyngor ynghylch cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Gan ddechrau gyda gwylnosau "goleuo" yn digwydd ledled Gogledd Cymru ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn (25 Tachwedd), byddwn yna'n defnyddio'r ymgyrch ryngwladol "16 Diwrnod o Weithredu yn Erbyn Cam-drin Domestig" i ddod â thrais yn erbyn merched i ben i godi ymwybyddiaeth am bob math o gam-drin domestig. Byddwn yn defnyddio ein sianelau ar y cyfryngau cymdeithasol a'r hashnod #LlaisDrosDrais drwy gydol y cyfnod hwn er mwyn addysgu pobl am wahanol fathau o gam-drin domestig, arwyddion i chwilio amdanynt o ran dioddefwyr a throseddwyr, pwy all fod o gymorth a sut i'n hysbysu am achosion.
Ar 25 Tachwedd, cynhelir tair gwylnos "goleuo" ym Mangor, Y Rhyl a Wrecsam i anrhydeddu Diwrnod y Rhuban Gwyn ac i gofio Sarah Everard, a herwgipiwyd ac a lofruddiwyd wrth iddi gerdded adref yn Ne Llundain ym mis Mawrth eleni. Rydym yn gofyn i unrhyw aelodau o'r cyhoedd ddod, gan wisgo rhubanau gwyn a defnyddio’r goleuadau ar eu ffonau symudol neu dortshis i ddangos eu cefnogaeth i ddarfod trais yn erbyn merched a cham-drin domestig, am byth. Cynhelir y seremonïau am 7pm ym Mhontio ym Mhrifysgol Bangor, Arena Digwyddiadau'r Rhyl a Sgwâr y Frenhines, Wrecsam. Mae disgwyl iddynt barhau am 30-60 munud. Mae croeso i bawb.
Mae PC Mike Taggart yn Swyddog Cam-drin Domestig Strategol yn Uned Gwarchod Pobl Fregus Heddlu Gogledd Cymru. Mae hwn yn dîm ymroddedig sy'n ymdrin yn benodol gyda phethau fel cam-drin domestig, gwarchod plant, camfanteisio'n rhywiol ar blant, cam-drin ar sail anrhydedd, caethwasiaeth fodern a stelcian neu aflonyddu – i enwi dim ond rhai. Dywedodd: "Mae Cam-drin Domestig yn digwydd unrhyw adeg o'r flwyddyn, ond gall y Nadolig ddod â ffactorau eraill i'r amlwg, a all gyfrannu at drosedd bellach, fel straen ariannol ac yfed alcohol. Cofiwch nad hwn ydy achos cam-drin domestig ac nid yw troseddwr yn dweud pethau fel "yr alcohol wnaeth i mi ei wneud" yn lliniaru hynny. Nid yw unrhyw fath o gam-drin, ar unrhyw adeg, yn dderbyniol ac yn iawn. Os ydy hyn yn rhywbeth rydych wedi'i brofi neu rydych yn gwybod rhywun sydd wedi, cysylltwch gyda ni yn Heddlu Gogledd Cymru, neu linell gymorth Byw Heb Ofn."
Beth yw cam-drin domestig?
Cam-drin domestig ydy cam-drin un cymar o fewn perthynas agos neu deuluol. Mae'n cynnwys bygwth mynych, ar hap neu gyson er mwyn rheoli neu ddychryn cymar neu aelod o'r teulu. Gall cam-drin domestig fod yn gorfforol, seicolegol, ariannol, emosiynol neu'n rhywiol. Mae unrhyw un sy'n cael eu gorfodi i newid eu hymddygiad oherwydd eu bod ofn sut y gwnaiff eu cymar neu aelod o'r teulu ymateb yn cael eu cam-drin.
Y math mwyaf 'amlwg' o gam-drin domestig ydy cam-drin corfforol, sy'n haws i'w weld. Nid oes rhaid iddo fod wedi achosi anaf mawr neu angen triniaeth feddygol. Gall cam-drin corfforol fod drwy wthio, cydio, ysgwyd, llosgi, dyrnu, neu frathu. Mewn achosion eithafol, gall cam-drin domestig corfforol arwain at anaf difrifol neu hyd yn oed farwolaeth.
Fodd bynnag, mae ffurfiau eraill a all fod yn fwy cynnil. Mae cam-drin emosiynol (a seicolegol) yn ffurf o ymosod ar bersonoliaeth dioddefwr. Gall hyn fod yn unrhyw beth o alw enwau, dibwyllo neu feio'r dioddefwr am y cam-drin i reoli pob symudiad maent yn ei wneud, bygwth a dychryn. Gall cam-drin emosiynol weithiau fod mor niweidiol â cham-drin corfforol.
Mae oddeutu 90% o ddioddefwyr treisio yn adnabod y troseddwr cyn i'r drosedd ddigwydd. Mae cam-drin rhywiol fel treisio, ymosodiad rhywiol neu gamfanteisio rhywiol yn cael eu defnyddio'n gyffredin gan droseddwyr trais domestig fel ffordd o reoli a cham-drin eu cymheiriaid. Mae cam-drin rhywiol yn unrhyw fath o weithgarwch rhywiol (sy'n cynnwys cyswllt corfforol, geiriau neu luniau) sy'n digwydd heb ganiatâd llawn a hysbys yr unigolyn arall)
Mae cam-drin economaidd (ac ariannol) yn cynnwys rheoli gallu unigolyn i gael, defnyddio a chynnal eu harian a'u hadnoddau. Gall hyn fod yn unrhyw beth o atal dioddefwr rhag ennill neu gael mynediad at eu harian eu hunain, eu gwahardd rhag mynd i'r gwaith i wario neu fynd ag arian dioddefwr heb ganiatâd neu greu dyledion yn eu henw. Gall cam-drin economaidd hefyd gael effaith ar ddioddefwyr wedi gwahanu a all arwain at rai dioddefwyr yn aros gyda cham-driniwr er mwyn osgoi hynny rhag digwydd.
Yr arwyddion i chwilio amdanynt
Fel rhan o'n hymgyrch 'Llais Dros Drais' rydym yn annog pobl i chwilio am arwyddion cam-drin domestig ymysg eu ffrindiau a'u teulu. Os ydych yn poeni am anwylyn, mae'n bwysig gwybod am yr hyn i edrych allan amdano. Dyma rai arwyddion cyffredin cam-drin domestig i edrych allan amdanynt.
Gall dioddefwyr cam-drin domestig ddangos symptomau o:
Wrth gwrs, mae bob achos yn wahanol, ac nid yw'r arwyddion a'r symptomau hyn bob amser yn gweddu. Fodd bynnag, mae rhai arwyddion sydd fel arfer yn pwyntio at gam-driniwr domestig:
Pwy all fod o gymorth?
Rydym yn gweithio gyda Byw Heb Ofn, Llinell Gymorth Cam-drin Domestig a Rhywiol Cymru Gyfan, gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Mae Byw Heb Ofn yn Llinell Gymorth 24/7/365 sy'n rhoi cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol, ffrindiau a theulu pryderus a gweithwyr proffesiynol sy'n chwilio am wybodaeth a chyfeiriad. Gallent gynnig cymorth a chyngor am ddim i:
Mae bob sgwrs gyda Byw Heb Ofn yn gyfrinachol ac yn cael eu derbyn gan staff sy'n hynod brofiadol ac wedi'u hyfforddi'n llawn. Am fwy o wybodaeth am Fyw Heb Ofn a'u manylion cyswllt, ewch i'w gwefan > Llinell gymorth Byw Heb Ofn | LLYW.CYMRU
Sut i riportio
Os ydych yn dioddef cam-drin domestig lle mae trosedd wedi digwydd, gallwch gysylltu drwy ein sgwrs we ar ein gwefan > Hafan | Heddlu Gogledd Cymru neu drwy 101 os nad yw'n fater brys.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser. Mae'r rhif hwn yn wasanaeth 24 awr a dylech ond ei defnyddio mewn sefyllfaoedd lle mae: perygl i fywyd, defnyddio, neu fygythiad uniongyrchol dryw ddefnyddio trais. Os ydych yn dymuno siarad â rhywun tu allan i'r heddlu am gyngor cyffredinol, cysylltwch â Byw Heb Ofn ar 080880 10 800.