Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gyrrwr lori dan waharddiad a gafodd ei stopio ar yr A55 ar Ynys Môn wedi cael ei ddedfrydu.
Fe ymddangosodd Thomas Gallagher, 33 oed o Gelanmacha, Armagh, Gogledd Iwerddon o flaen Llys Ynadon Caernarfon ddoe (dydd Mawrth, 25 Mai) ar ôl pledio’n euog i droseddau gyrru.
Cafodd ei gyhuddo ar ôl cael ei stopio gan Uned Cerbydau Masnachol, Uned Plismona’r Ffyrdd toc ar ôl 11 o’r gloch nos Fawrth, y 15 Ebrill ar y bont pwyso yn Dalar Hir.
Fe wnaeth Gallagher, a oedd yn gyrru lori Scania coch, gyflwyno cerdyn trwydded gyrru ffug, ac ar ôl i swyddogion wneud gwiriadau cafodd ei adnabod a’i gadarnhau ei fod dan waharddiad.
Ar ôl gwiriadau pellach, ni wnaeth Gallagher ddarparu cofnod tacograff neu gerdyn gyrrwr ar gyfer Ymchwilydd Traffig y DVSA (Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau).
Cafodd ei arestio a’i gludo i’r ddalfa yng Nghaernarfon i gael ei gwestiynu.
Yn ddiweddarach cafodd Gallagher ei gyhuddo, a ddoe, bu ymddangos o flaen Llys Ynadon Caernarfon lle bu iddo bledio’n euog i yrru tra dan waharddiad, defnyddio offer ffug, methu a defnyddio tacograff a gyrru heb yswiriant.
Cafodd ei ddedfryd i:
Meddai PC Eifion Jones o Uned Cerbydau Masnachol Heddlu Gogledd Cymru: “Roedd Gallagher yn gwbl ymwybodol nad oedd i fod i yrru, ac roedd mor hy a darparu trwydded ffug. Yn amlwg nid oedd o’n meddwl fod y gwaharddiad yn berthnasol iddo fo.
“Mae gyrwyr sydd heb drwydded ac yswiriant yn beryglus i ddefnyddwyr ffordd eraill. Mae ystadegau yn dangos fod gyrwyr heb yswiriant yn fwy tebygol o fod mewn gwrthdrawiad, eu bod am adael gwrthdrawiad heb stopio a bod yn gysylltiedig â throseddau eraill. Mae’r effaith ar yrwyr cyfreithlon yn ddinistriol.
“Mae targedu gyrwyr sydd heb yswiriant yn rhan hanfodol o’n gwaith er mwyn diogelu pawb ar ffyrdd gogledd Cymru. Mae’r nifer sy’n meddwl ei fod o’n iawn i yrru’n anghyfreithlon yn siomedig ac mi fyddwn yn parhau gyda’n gwaith er mwyn targedu’r rhai sy’n gyrru’n anghyfreithlon. Mae torri rheolau’r ffyrdd yn creu risg ac mae’r ddedfryd yn dangos fod goblygiadau i’r rhai sy’n gwneud hynny.
“Rydym eisiau tawelu meddwl y cyhoedd ein bod yn parhau i gydweithio hefo’n partneriaid er mwyn dod a throseddwyr o flaen y llysoedd. Dwi’n mawr obeithio fod y ddedfryd hon yn atgoffa rhai bod y gyfraith yno am reswm.”