Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Lansiwyd arolwg heddiw i wrando ar brofiadau a barn merched ar ddiogelwch personol yng Ngogledd Cymru.
Rydym am ddeall gofidion merched ar draws yr ardal a dyna pam yr ydym yn gofyn i gymaint o ferched â phosib i gymryd rhan. Bydd yr ymatebion wedyn yn cael eu defnyddio i fynd i'r afael â phroblemau a thargedu meysydd penodol i helpu merched deimlo'n fwy diogel yn eu cartrefi, yn eu cymunedau, yn y gwaith a thu allan.
Nid merched yn unig sy'n teimlo mewn peryg, wrth gwrs ond yn gyffredinol dynion sy'n cyflawni'r rhan fwyaf o droseddau trais rhywiol yn erbyn merched. Serch hynny, hoffwn sicrhau dynion ein bod yn cymryd pob adroddiad o drosedd o ddifri, beth bynnag yw eich rhyw, ac anogwn i chi gysylltu â ni os ydych wedi dioddef.
Gallwch gwblhau'r arolwg heb roi eich enw hyd at 9 Gorffennaf. Mae modd ei gwblhau yn Gymraeg neu Saesneg.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Jason Devonport: “Yn dilyn marwolaeth drasig Sarah Everard yn gynharach eleni, rydym wedi gweld merched ar draws y DU yn dod ymlaen gyda'i straeon o deimlo mewn peryg neu o gael ei haflonyddu. Mae'r ffaith bod hon wedi dod mor gyffredin yn ein cymdeithas yn annerbyniol a rhaid ei herio.
“Rydym wedi creu'r arolwg hwn i wrando ar yr hyn y mae merched a menywod yn ein cymuned yn dweud am eu profiadau personol a pha mor ddiogel maent yn teimlo yn byw yng ngogledd Cymru heddiw. Rydym yn annog cymaint o ferched â phosib i gwblhau'r arolwg fel y gallwn weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r materion hyn gan wneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel yn y DU.
"Rydym am sicrhau bod pawb sydd angen help yn gwybod ble i'w gael ac yn teimlo'n hyderus y byddwn yn gwrando ac y byddant yn cael eu trin o ddifri."
Bydd y wybodaeth a gesglir o'r arolwg yn arwain at ffurfio'r ymgyrch "Llais yn Erbyn Trais". Bydd yn rhoi golwg o'r hyn sydd angen ei daclo a ffurfio ein cynlluniau yn y dyfodol ac yn fodd i wella diogelwch yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd Jane Ruthe, Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Cymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru (RASASCNW): “Rydym yn croesawu ac yn cefnogi’r arolwg hwn sy’n rhoi cyfle i bobl Gogledd Cymru fynegi eu pryderon ac i’w lleisiau gael eu clywed. Maent yn cael cyfle i siarad am y pethau sy’n eu gwneud i deimlo’n anniogel o ran eu hunain a’u plant. Gall ac mae trais rhywiol yn digwydd i unrhyw un o unrhyw rywedd. Ond y gwirionedd ydy ei fod yn drosedd sy’n effeithio merched yn bennaf. Mae RASASCNW yn gweithio yn holl siroedd Gogledd Cymru. Mae’n darparu cymorth a chwnsela i unrhyw un o unrhyw rywedd ym mhob sir, boed bod y trais rhywiol wedi digwydd yn ddiweddar neu amser maith yn ôl, yn ystod plentyndod neu pan yn oedolyn. Mae gennym wasanaeth plant a phobl ifanc arbenigol hefyd.”
Os ydych wedi dioddef trosedd, riportiwch o i ni drwy ein sgwrs fyw neu drwy alw 101 neu 999 mewn argyfwng. Mae gennym wasanaethau a all eich cefnogi os ydych wedi riportio'r drosedd i'r heddlu neu beidio. Ceir mwy o wybodaeth yma neu yma.