Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dros £1.8 miliwn o gyffuriau wedi cael ei hatafaelu a bron i 170 o arestiadau yn gysylltiedig â Llinellau Cyffuriau wedi cael eu gwneud gan uned plismona sy’n targedu trosedd trefnedig a gangiau cyffuriau ers eu sefydlu ychydig dros flwyddyn yn nôl.
Ers lansio’r tîm yn Chwefror 2020, mae’r Tîm Rhwystro wedi adfer swm sylweddol o gyffuriau, miloedd mewn arian parod, ffonau symudol ac arfau - gan gynnwys cyllyll a Thaser. Mae dros 227 o arestiadau rhagweithiol sy’n gyfanswm o 428 o droseddau hefyd wedi cael eu gwneud.
Mae’r tîm, a gafodd eu creu diolch i gymorth ariannol gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, yn defnyddio technoleg arloesol er mwyn sicrhau eu bod yn gallu atal a stopio troseddwyr, gan wneud Gogledd Cymru yn lle digroeso iddynt.
Gan gydweithio’n agos hefo Uned Plismona’r Ffyrdd, Swyddogion Arfog, swyddogion plismona cymunedol ynghyd â heddluoedd eraill megis Heddlu Glannau Mersi, mae’r tîm rhwystro yn cael eu tasgio i ganolbwyntio ar unigolion a lleoliadau yn ddyddiol, gan gynnwys gangiau trosedd trefnedig a thargedau llinellau cyffuriau sy’n achosi problemau mewn cymunedau.
Cafodd dau unigolyn a gafodd eu stopio gan y Tîm Rhwystro ar Allt Rhuallt fis yn ôl lle darganfuwyd swm sylweddol o gyffuriau, eu carcharu’n ddiweddar.
Yn dilyn ymgyrch ar y cyd hefo Heddlu Glannau Mersi, cafodd Warren Granite, 21 oed o Alderman Road, Speke ei garcharu am dair blynedd a hanner ar ôl pledio’n euog i ddau achos o fod yn dosbarthu cyffuriau Dosbarth A. Cafodd Christy Turner, 28-oed ei garcharu am bedair blynedd ar ôl pledio’n euog i ddau achos o fod yn dosbarthu cyffuriau Dosbarth A.
Meddai’r Arolygydd Matt Geddes, sydd yn gyfrifol am y tîm: “Ein bwriad oedd amharu ar droseddwyr a gwarchod cymunedau ar draws gogledd Cymru rhag y niwed mae troseddau difrifol yn ei achosi. Mae’r rhai sy’n gweithredu mewn trosedd trefnedig yn defnyddio’r ffyrdd a rhwydweithiau teithio eraill er mwyn cynnal eu gweithgareddau troseddol. Fe wnawn wneud popeth yn ein gallu er mwyn amharu arnynt a’u rhoi o flaen eu gwell.
“Fe wnawn barhau i wneud pob dim er mwyn eu rhwystro drwy gynnal ymgyrchoedd hefo cudd-wybodaeth patrolio rhagweithiol a darparu cefnogaeth i’r Timau Cymunedol. Mae’r elfen wybodaeth yr ydym yn ei dderbyn yn tyfu’n ddyddiol, ac fe wnawn weithredu ar y wybodaeth sy’n dod atom. Rydym yn ddiolchgar i’r gymuned am rannu gwybodaeth, unai yn uniongyrchol atom neu’n ddienw drwy Crimestoppers. Mae gweithio’n aml hefo heddluoedd eraill drwy ddefnyddio tactegau gwahanol hefyd yn digwydd er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau.
“Rydym wedi cael canlyniadau gwych drwy gynnal gweithgareddau ar y cyd hefo cydweithwyr o Heddlu Glannau Mersi dros y misoedd diwethaf, ac mae hwn nawr yn rhan o’n gwaith bob dydd gyda mwy o hyn i ddod.
Meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Sacha Hatchett: “Mae’r Tîm Rhwystro yn benderfynol o fynd ar ôl gangiau trosedd trefnedig, a byddent yn parhau i amharu ar y rhai sy’n achosi problemau a gwarchod y rhai sy’n cael eu niweidio.
“Mae llinellau cyffuriau yn cael effaith mawr ar drefi ar draws y wlad ac yn ymwneud ag ecsbloetio pobl ifanc a phobl fregus. Drwy gydweithio hefo heddluoedd eraill fe wnawn barhau i weithio’n galed er mwyn gwarchod pobl fregus a phlant er mwyn sicrhau bod Gogledd Cymru’n ddiogel.”
Meddai’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Andy Dunbobbin: “Nid yw Gogledd Cymru’n lle i droseddu – rydym yn benderfynol o adnabod a dod a throseddwyr o flaen eu gwell.
“Rydym yn bwriadu gwneud Gogledd Cymru’n lle anghyffyrddus i drosedd trefnedig. Mae’r Tîm Rhwystro yn chwarae eu rhan drwy amharu ar drosedd trefnedig, atafaelu asedau ac yn eu herlyn er mwyn gwarchod cymunedau.”
Yn ystod un achos cafodd £35,000 mewn arian parod ei atafaelu. Mae’r tîm hefyd wedi atafaelu arfau, Taser, cyllyll a ffonau symudol ac maent hefyd wedi atafaelu nifer o gerbydau ac wedi delio hefo sawl achos o yrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau a gyrru heb yswiriant. Maent wedi adfer cerbydau sydd wedi’i dwyn ac eiddo ffug ac wedi helpu hefo sawl cyrch cyffuriau ar draws y rhanbarth.
Maent wedi gweithio ar sawl ymgyrch hefo partneriaid megis y ‘North West Regional Organised Crime Unit (NWROCU), y National Crime Agency a Gwaith ar y cyd rheolaidd hefo Heddlu Glannau Mersi a Phrosiect Medusa.