Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
17:37 03/06/2021
Mae enillwyr ein cystadleuaeth dylunio poster diogelwch ar y we gydag ysgolion cynradd ar draws gogledd Cymru wedi cael eu cyhoeddi.
Cafodd 578 o geisiadau ar ôl lansiad y gystadleuaeth ym mis Ionawr ac mae tri enillydd wedi cael eu dewis a fydd yn derbyn gwobr bersonol, ynghyd a gwobr ariannol ar gyfer eu hysgol.
Cafodd Eva, disgybl Blwyddyn 4 o Ysgol Edern, Pwllheli, Manulmi - disgybl Blwyddyn 5 o Ysgol Gynradd Rhosddu yn Wrecsam ac Alyssa, 8 oed a disgybl Ysgol St Brigid’s yn Ninbych eu dewis fel yr enillwyr yn dilyn panel beirniadu a oedd yn cynnwys y Prif Gwnstabl Carl Foulkes ac Uchel Siryfyfion Clwyd a Gwynedd.
Maent wedi ennill gwobr o £300 ar gyfer eu hysgolion ynghyd a thocynnau teulu Llechwedd.
Yn ôl ym mis Ionawr bu rhaglen SchoolBeat Heddlu Gogledd Cymru, y Tîm Diogelwch Seiber a PACT (Police and Community Trust) lansio’r gystadleuaeth hefo ysgolion cynradd y rhanbarth er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth o sut i fod yn ddiogel ar y we.
Oherwydd y cynnydd yn y nifer o oriau mae plant a phobl ifanc wedi bod ar y we oherwydd y pandemig, roedd swyddogion eisiau i blant gael y cyfle i fod yn greadigol er mwyn cael y cyfle i ennill gwobrau gwych ar gyfer eu hunain a'u hysgolion.
Meddai’r Prif Gwnstabl Carl Foulkes: “Roedd yr ymateb gan blant ar draws gogledd Cymru yn wych gyda dros 570 o geisiadau. Cawsom nifer fawr iawn o ddylunia creadigol ac addysgiadol ac roedd yn benderfyniad anodd iawn dewis y tri gorau.
“Hoffem ddweud diolch o galon i'r cannoedd o blant a fu’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth, a dweud llongyfarchiadau anferthol i’r rhai buddugol.”
Oherwydd y nifer fawr o geisiadau, fe ddaru’r panel ddewis rhai ar gyfer ail a thrydedd wobr, ac mi fyddent i gyd yn derbyn gwobr diolch i gefnogaeth y ddau Uchel Siryf drwy eu cynlluniau Trechu Trosedd, Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru, Rygbi’r Gweilch, Clwb Pêl droed Wrecsam, CGI, Cread a Mynydd Lechi Llechwedd.
Enillwyr a terfynwyr y rhanbarth orllewin (Gwynedd ac Ynys Môn:
Enillwyr a terfynwyr y rhanbarth Ganolog (Conwy a Sir Ddinbych):
Enillwyr a terfynwyr y rhanbarth dwyreiniol (Sir y Fflint a Wrecsam):