Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i erfyn ar gymunedau i wneud y peth iawn drwy gydymffurfio â chyfyngiadau Lefel 4 Llywodraeth Cymru.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i erfyn ar gymunedau i wneud y peth iawn drwy gydymffurfio â chyfyngiadau Lefel 4 Llywodraeth Cymru.
Mae’r neges yn cael ei chyhoeddi yn dilyn cyfnod Gŵyl y Banc prysur iawn. Bu swyddogion yn stopio a throi cannoedd o deuluoedd a grwpiau ymaith a oedd wedi teithio mewn cerbyd er mwyn gwneud ymarfer corff yn rhai o fannau mwyaf poblogaidd y rhanbarth megis Eryri, Moel Famau a Brenig.
Cafodd trigolion gogledd Cymru, ynghyd â grwpiau o lefydd megis Caint, Essex, Southampton a Milton Keynes eu cosbi am dorri cyfyngiadau Covid-19.
Dywed y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro, Nigel Harrison: “Mae Cymru o dan gyfyngiadau lefel 4 ac mae achosion yn cynyddu, felly mi fydd timau yn parhau i dargedu’r rhai sy’n anwybyddu a thorri’r rheolau.
“Dros yr ŵyl buom ar batrolau amlwg iawn gan hefyd wirio'r rhesymau pam fod pobl yn teithio. Cafodd nifer o unigolion eu stopio wrth iddynt fentro allan ar y bryniau a’r mynyddoedd er mwyn mwynhau’r eira. Fel arfer buasai hyn yn braf i’w weld – fodd bynnag, mae cyfyngiadau Lefel 4 yn nodi y dylai ymarfer corff gychwyn a gorffen o’ch cartref a ni ddylai neb fod yn teithio oni bai ei fod yn angenrheidiol.
“Mae’r cyfyngiadau yn bodoli er mwyn cynorthwyo i atal lledaenu’r feirws, gwarchod y gwasanaeth iechyd ac arbed bywydau. Maent yn berthnasol i bob un ohonom ac mae’n hynod o siomedig pan mae rhai yn meddwl nad ydy’r rheolau’n berthnasol iddynt. Maent yno er mwyn atal y nifer sy’n cael eu heintio, felly gall torri’r rheolau, dim ots pa mor ddibwys, fod yn beryglus i chi a’ch teuluoedd a ffrindiau.
"Gwnawn barhau i blismona mewn modd synhwyrol, cymesur a theg. Rydym yn gofyn i bawb barhau i gymryd cyfrifoldeb personol am reoli lledaeniad y feirws a gwarchod eu hunain a phobl eraill rhag niwed. Fodd bynnag, mae plismona’n parhau er gwaetha’r pandemig, gyda swyddogion yn ymateb i gannoedd o alwadau brys, chwilio am bobl sydd ar goll ac yn anffodus, yn ymateb i ddegau o alwadau oherwydd trais yn y cartref. Mi wnaiff plismona wneud ei rhan, ond mae’n rhaid i bawb arall gwneud eu rhan nhw hefyd.
“Ni wnawn eistedd yn ôl a gadael i bobl dorri’r rheolau yn ein cymunedau. Wrth gwrs fe wnawn barhau i ymrwymo ac esbonio’r gyfraith, ac annog pobl i gymryd cyfrifoldeb personol am ddiogelwch eu hunain ac eraill. Fodd bynnag, os bydd pobl yn parhau i anwybyddu’r cyfyngiadau ac anwybyddu’r rheolau sy’n bodoli er lles iechyd pawb gan roi straen ar ein hadnoddau, mi wnawn weithredu.
“Rydym yn ddiolchgar bod y mwyafrif helaeth o bobl yn cydnabod difrifoldeb y sefyllfa ac yn gwneud eu rhan drwy gydymffurfio â'r cyfyngiadau. Rydym eisiau parhau i weithio gyda'n cymunedau o ran yr hyn sy'n mynd i fod yn fisoedd heriol i bawb.”
Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch y cyfyngiadau Haen 4 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru https://gov.wales/alert-level-4
Er mwyn hysbysu am doriad rheolau COVID-19 ewch ar https://www.northwales.police.uk/tua/tell-us-about/c19/v6/tell-us-about-possible-breach-coronavirus-measures/