Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dydd Llun (22 Chwefror) gweithiodd Heddlu Gogledd Cymru gyda chydweithwyr o Heddlu Ffiniau'r DU i gynnal chwiliadau ym mhorthladd Caergybi a chodi ymwybyddiaeth o Drosedd Mewnfudo Trefnedig fel rhan o ymgyrch genedlaethol.
Lansiwyd yr ymgyrch 'Dywedwch Na i Smyglo Pobl' yn ddiweddar gan Crimestoppers mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU. Mae'n ymateb i Ymgyrch Melrose, a geisiodd gyfiawnder i'r 39 o ymfudwyr a fu farw mewn lori oergell yn 2019. Nod yr ymgyrch hon yw codi ymwybyddiaeth o beryglon smyglo pobl er mwyn atal trychineb arall rhag digwydd.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae 59 o unigolion wedi'u collfarnu am droseddau smyglo ac wedi cael dros 142 o flynyddoedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Richard Sidney, o'r Uned Ecsbloetio: "Yn aml, mae smyglwyr pobl sy'n yn gwerthu ymfudwyr i gaethwasiaeth fodern yn cysylltu â gyrwyr cludo nwyddau. Mae troseddwyr sy'n eu cludo'n fwriadol yn manteisio ar bobl anobeithiol a bregus sydd am ddod i mewn i'r DU, yn beryglus ac yn anghyfreithlon am arian parod.
"Rydym yn cefnogi'r ymgyrch 'Dywedwch na i smyglo pobl' yma yng Ngogledd Cymru ac yn annog gyrwyr cludo nwyddau ac aelodau o'r cyhoedd i ddysgu am arwyddion smyglo pobl. O sylwi ar weithgarwch amheus o amgylch trelars, i weld dogfennau ffug, gallwch ddysgu beth i edrych amdano. Os byddai'n well gennych beidio â siarad â'r heddlu, mae gennych yr opsiwn o anfon gwybodaeth yn gwbl ddienw atom drwy Crimestoppers."
Siaradodd cydweithwyr o'r heddlu a heddlu'r ffin, gyda chymorth cŵn chwilio gyda rhai sy'n trin a chwilio am gerbydau sy'n teithio drwy borthladd Caergybi. Yn ffodus, ni roddodd yr un o'r lorïau a chwiliwyd unrhyw reswm dros bryderu y tro hwn ac roedd gyrwyr yn hapus i dderbyn gwybodaeth am ba arwyddion i gadw llygad amdanynt yn ogystal â dysgu canlyniadau smyglo.
Yn ogystal â gyrwyr cludo nwyddau, nod yr ymgyrch hefyd yw addysgu'r cyhoedd. Mae posteri'n cael eu harddangos mewn lleoliadau allweddol ac mae taflenni'n cael eu dosbarthu sy'n cynnwys gwybodaeth am sut i adnabod smyglo.
I ddysgu mwy am arwyddion smyglo pobl ewch at wefan Crimestoppers.
Os byddwch yn sylwi ar unrhyw weithgaredd amheus neu'n meddwl y gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gysylltiedig â smyglo pobl, gallwch roi gwybodaeth i'r heddlu drwy ffonio 999 mewn argyfwng, 101 am achosion nad ydynt yn rhai brys neu drwy ein gwefan. Fel arall, gallwch roi gwybodaeth yn ddienw drwy Crimestoppers.