Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhoi rhybudd yn dilyn cynnydd sylweddol mewn hysbysu am sgamiau arian crypto dros y misoedd diwethaf gyda miloedd o bunnoedd yn cael eu colli.
Oherwydd y cynnydd diweddar yng ngwerth Bitcoin sydd wedi'i adrodd amdano'n eang, mae sgamiau buddsoddi sy'n berthnasol i arian crypto wedi cynyddu hefyd.
Mae dioddefwyr wedi hysbysu am chwilio ar-lein am gyfleoedd buddsoddi ond i gael broceriaid buddsoddi twyllodrus o gwmnïau buddsoddi ffug yn cysylltu yn addo elw mawr gyda risg isel iawn. Mae'r broceriaid yn defnyddio tactegau amrywiol i roi pwysau ar y dioddefwr i fuddsoddi'n gyflym wrth addo elw sy'n rhy dda i fod yn wir. Mae'r broceriaid yn cymell y dioddefwyr i brynu arian crypto. Maent yna'n rhoi cyfarwyddyd i ddioddefwyr drosglwyddo'r crypto gan gymryd arnynt y bydd y cronfeydd yn cael eu buddsoddi ar ran y dioddefwr.
Dywedir yn aml wrth ddioddefwyr pa mor dda mae eu buddsoddiad yn gwneud sy'n eu hannog nhw i anfon mwy o arian hyd yn oed. Mewn rhai achosion mae dioddefwyr wedi gwario eu cynilon oes ac wedi benthyg symiau mawr i wneud buddsoddiadau pellach hyd yn oed.
Dim ond pan mae'r dioddefwyr yn ceisio tynnu'r arian allan mae'r brocer un ai'n torri cyswllt gyda'r dioddefwr neu fe ddywedir wrthynt y bydd angen iddynt dalu ffioedd uchel ychwanegol i ryddhau'r buddsoddiad. Hyd yn oed pan delir y ffioedd rhyddhau, rhoddir nifer o esgusodion i ddioddefwyr ynghylch pam na allent gael eu harian yn ôl.
Mae dioddefwyr hefyd yn cael eu tynnu mewn i fuddsoddi gyda chwmnïau twyllodrus ar ôl gweld cymeradwyaethau ffug gan enwogion neu luniau deniadol o eitemau moethus ar hysbysebion. Mae'r hysbysebion yn cael eu hyrwyddo ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn aml a defnyddir yr holl dactegau hyn i wneud i'r cwmni ymddangos yn gyfreithlon.
Mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi rhybuddio bod unrhyw bryniant neu fuddsoddiad sy'n cynnwys arian crypto fel arfer yn cynnwys cymryd risgiau mawr. Os yw cwsmeriaid yn buddsoddi yn y mathau hyn o gynnyrch, dylent gael eu paratoi i golli eu harian i gyd.
Ystyrir arian crypto yn fuddsoddiad risg mawr am nifer o resymau. Mae hyn yn cynnwys diffyg rheoliad, prisiau cyfnewidiol, cymhlethdod y cynnyrch a gynigir, anhawster trosi arian crypto yn ôl i arian parod a ffioedd uchel yn cael eu codi gan gwmnïau buddsoddi.
Nid yw llawer o'r cwmnïau buddsoddi sy'n gweithredu yn y ffordd hon yn cael eu rheoleiddio gan yr FCA. Mae hyn yn golygu na fydd yr Ombwdsmon Ariannol ac unrhyw gynllun iawndal yn gallu cynorthwyo os yw'r gwaethaf yn digwydd. Ers 10 Ionawr 2021 mae rhaid i holl gwmnïau asedau crypto'r DU gofrestru gyda'r FCA. Mae unrhyw sefydliad sy'n gweithredu heb gofrestriad yn cyflawni trosedd. Hysbysir buddsoddwyr i wirio'r gofrestr FCA ar-lein yn ofalus cyn gwneud unrhyw fuddsoddiad.
Dywedodd DC Rachel Roberts, Swyddog Diogelu Rhag Cam-drin Ariannol dros Heddlu Gogledd Cymru: "Mae'r math hwn o dwyll ar gynnydd, yn enwedig yn ystod yr amserau ansicr hyn. Dylai unrhyw un sy'n edrych ar fuddsoddi ystyried y wybodaeth maent wedi'i rhoi yn ofalus. Ni ddylent dderbyn fod yr hyn sy'n cael ei ddweud wrthynt dros y ffôn yn wir. Mae'n annhebygol y byddech yn trosglwyddo eich cynilon oes pe bai rhywun yn ymddangos ar garreg eich drws yn holi am arian. Dylai broceriaid buddsoddi sy'n ffonio'n annisgwyl gael eu trin yr un ffordd."
Ceir gwybodaeth bellach ar https://www.actionfraud.police.uk/