Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn y cyhoeddiad gan y JCVI y bore yma, rydym fel Prif Gwnstabliaid ledled Cymru yn hynod siomedig gyda'u penderfyniad.
Tra rydym wedi cydnabod a chefnogi'r penderfyniadau i frechu'r rhai hynny mewn categorïau risg uchel, rydym dro ar ôl tro wedi gofyn i Blismona gael asesiad risg fel bod ein swyddogion a'n staff yn cael ystyriaeth ddyledus. Mae hyn o ystyried y risgiau maent yn eu cymryd bob dydd ar ein rhan i gyd.
Drwy natur eu rôl, mae rhaid i swyddogion heddlu fynd i leoliadau gwahanol a dod i gysylltiad â holl grwpiau risg uchel. Mae hyn ynghyd â methu hefyd â chadw pellter cymdeithasol a methu cynnal Cyfarpar Diogelu Personol sawl tro fel y lluniwyd nhw. Mae hyn o ystyried y rôl gorfforol maent yn gorfod ei hymgymryd.
Ar ben hyn, mae ganddynt yr orchwyl o orfodi trefniadau gorfodi a chwarantin ar ran y llywodraeth ar y rhai hynny maent yn gwybod sydd gan y feirws.
Rydym yn credu, rŵan bod y bobl fwyaf bregus wedi cael eu brechu, dylem geisio brechu'r bobl hynny sy'n peryglu eu diogelwch a'u hiechyd, nid drwy iechyd ond oherwydd bod rhaid er mwyn ein diogelu i gyd.
Rydym yn cydnabod yr her o nodi'r bobl hynny mewn cyflogaeth benodol. Ond o fewn plismona mae'r wybodaeth hon ar gael yn barod ac rydym yn fodlon rhoi'r wybodaeth hon.
Rydym yn credu bod gwarchod y gwarchodwyr yn allweddol os ydym i gynnal ymddiriedaeth swyddogion rheng flaen sy'n mynd yr ail filltir bob dydd.
Fel y cyfryw, gofynnwn i'r penderfyniad hwn gael ei ailystyried gan gydnabod rôl unigryw plismona. Ar ben hyn, gwnawn barhau i weithio, yng Nghymru, gyda Llywodraeth Cymru o ran y mater hwn.
Prif Gwnstabl Carl Foulkes - Heddlu Gogledd Cymru
Prif Gwnstabl Dros Dro Claire Parmenter - Heddlu Dyfed Powys
Prif Gwnstabl Pam Kelly - Heddlu Gwent
Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan - Heddlu De Cymru