Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Action Fraud a Heddlu Dinas Llundain yn gweithio gyda'r Awdurdod Gweithredu Ariannol (FCA) i gyhoeddi rhybudd i'r cyhoedd wrth i adroddiadau o sgamiau buddsoddi 'cwmnïau clôn' gynyddu gan 29 y cant yn Ebrill 2020 o gymharu â mis Mawrth, pan aeth y DU i mewn i'r cyfnod clo cyntaf.
Mae Action Fraud a Heddlu Dinas Llundain yn gweithio gyda'r Awdurdod Gweithredu Ariannol (FCA) i gyhoeddi rhybudd i'r cyhoedd wrth i adroddiadau o sgamiau buddsoddi 'cwmnïau clôn' gynyddu gan 29 y cant yn Ebrill 2020 o gymharu â mis Mawrth, pan aeth y DU i mewn i'r cyfnod clo cyntaf.
Mae Action Fraud yn adrodd data yn datgelu colledion o fwy na £78 miliwn rhwng Ionawr-Rhagfyr 2020, gyda dioddefwyr yn colli £45,242 yr un ar gyfartaledd wrth fuddsoddi gyda thwyllwyr yn dynwared cwmnïau buddsoddi dilys.
Gall effaith ariannol barhaus coronafeirws hefyd wneud pobl yn fwy agored i'r mathau hyn o sgamiau clôn. Mae 42% o fuddsoddwyr yn dweud eu bod yn bryderus am eu harian oherwydd y pandemig a dros dri chwarter (77%) yn bwriadu gwneud buddsoddiad o fewn y chwe mis nesaf i helpu gwella eu sefyllfa ariannol.
Serch hynny, gall hyd yn oed y buddsoddwr mwyaf profiadol fod mewn peryg. Dywedodd tri chwarter (75%) eu bod yn teimlo'n hyderus eu bod yn gallu adnabod sgam. Serch hynny, cyfaddefodd 77% nad oedden nhw’n gwybod, neu eu bod yn ansicr beth yw 'cwmni buddsoddiad clôn'.
Beth yw buddsoddiad sgam 'cwmni clôn'?
Mae 'cwmnïau clôn' wedi eu gosod gan dwyllwyr yn defnyddio enw, cyfeiriad a 'Rhif Cyfeirnod Cwmni' (FRN) o gwmnïau dilys wedi eu hawdurdodi gan FCA.
Mae'r gangiau sy'n rhedeg y sgamiau hyn yn gallu ymgysylltu â'r dioddefwyr drwy nifer o sianeli. Yn aml byddant yn gosod hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol a pheiriannau chwilio. Bydd dioddefwyr yn clicio ar yr hysbysebion hyn ac yn cael eu harwain at replicâu union o wefannau sy'n perthyn i gwmnïau buddsoddi dilys. Bydd y troseddwyr mwyaf soffistigedig hyd yn oed yn efelychu enw'r wefan. Wedi i'r dioddefwyr gofrestru eu diddordeb bydd y twyllwyr yn cysylltu â nhw, byddant yn aml yn cael gafael ar enwau gweithwyr mewn cwmnïau buddsoddi a chreu cyfeiriadau e-bost cwmnïau sydd i weld yn ddilys, ond sydd â gwahaniaethau cynnil iawn.
Bu digwyddiadau hefyd gyda buddsoddwyr yn mewnosod eu manylion cyswllt i mewn i wefannau cymharu prisiau dilys ac yna yn cael eu galw gan droseddwyr yn honni dod o gwmnïau buddsoddi adnabyddus a dilys. Tacteg arall a ddefnyddir gan y troseddwyr hyn i dwyllo yw anfon deunyddiau gwerthu i ddioddefwyr gyda dolenni i wefannau cwmnïau dilys.
Mae'r adenillion sy'n cael eu haddo gan y gangiau troseddol hyn yn aml yn fach er mwyn peidio ag ennyn amheuaeth, ond ychydig yn well na chyfradd y farchnad, gan apelio felly at y rhai sy'n chwilio am fuddsoddiadau hirdymor, 'diogel'.
Yn y diwedd, bydd dioddefwyr yn trosglwyddo eu cynilon yn uniongyrchol at droseddwyr gan gredu eu bod yn eu hanfon at gwmni buddsoddi dilys. Yn aml, nid yw dioddefwyr yn sylweddoli eu bod wedi cael eu twyllo am fisoedd nes byddant yn methu â derbyn adenillion chwarterol neu adroddiadau buddsoddi.
Meddai Uwcharolygydd Sanjay Andersen o Fiwro Cudd-wybodaeth Twyll Cenedlaethol Heddlu Dinas Llundain
"Mae coronafeirws wedi gwneud i nifer o bobl deimlo ansicrwydd ariannol - rhywbeth y mae troseddwyr yn ddigon parod i elwa ohono heb ddifaru dim. Yn drist iawn gwelsom gynnydd yn y nifer o adroddiadau twyll buddsoddiad yn 2020 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, gyda chynnydd mewn adroddiadau'r haf hwn ar ôl codi'r cyfnod clo cyntaf.
"Os ydych yn credu eich bod eisoes wedi buddsoddi mewn cynllun sy'n dwyll riportiwch o i Action Fraud."
Dywedodd Mark Steward, Cyfarwyddwr Gweithredol Gorfodi a Goruchwylio'r Farchnad, FCA:
Mae sgamiau buddsoddiadau clôn yn soffistigedig ac yn anodd iawn i'w hadnabod. Y llynedd mi wnaethon ni dderbyn dros 376 o adroddiadau o sgamiau clôn i'n llinell gymorth defnyddwyr. Mae twyllwyr yn defnyddio llenyddiaeth a gwefannau sy'n debyg i gwmnïau dilys, yn ogystal ag annog buddsoddwyr i wirio'r Cyfeirnod y Cwmni (FRN) ar yr FCA. Cofrestrwch i swnio mor argyhoeddedig â phosib.
“Os ydych yn ystyried buddsoddiad, ewch i Gofrestr yr FCA i wneud yn siŵr bod y cwmni yr ydych yn delio ag o wedi ei awdurdodi. Defnyddiwch y manylion cyswllt ar ein Cofrestr FCA, nid y manylion a roddir i chi gan y cwmni a gwiriwch wahaniaethau cynnil er mwyn osgoi sgamiau 'cwmnïau clôn'. Ac os ydych yn ansicr o hyd, galwch ein llinell gymorth am fwy o wybodaeth. Ni allaf bwysleisio pa mor bwysig yw hi i wirio pob manylyn pan ddaw hi i ddelio â chwmnïau clôn."
Sut i ddiogelu eich hun
Er i ddau o bob pump (38%) o fuddsoddwyr ddweud y byddent yn gwirio Rhif Cyfeirnod y cwmni (FRN), nid yw gwirio hyn yn unig yn ddigon. Bydd troseddwyr sy'n gweithredu sgamiau 'cwmnïau clôn' yn copïo rhifau FRN ac annog dioddefwyr i wirio y rhif ar Gofrestr yr FCA i brofi eu dilysrwydd.
Dylai unrhyw un sy'n ystyried buddsoddi wirio manylion cwmni yn drylwyr, nid dim ond yr FRN ar y gofrestr FCA. Mae hyn yn cynnwys y rhif ffôn ac mae'n bwysig eich bod ond yn defnyddio'r rhif ar y Gofrestr FCA i gysylltu â'r cwmni.
Cofiwch,
Gall buddsoddwyr brofi os gallant adnabod sgam buddsoddi yn hytrach na buddsoddiad da drwy gymryd rhan yn y cwis ‘Scam or Smart’, ewch i www.fca.org.uk/scamsmart i ganfod mwy.
Os credwch eich bod wedi dioddef twyll buddsoddi, rhowch wybod i Action Fraud cyn gynted â phosibl ar-lein ar www.actionfraud.police.uk neu drwy ffonio 0300 123 2040.