Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Anogir trigolion Gogledd Cymru i fod yn ofalus dros yr Ŵyl er mwyn cadw eu hunain a'u hanwyliaid yn ddiogel.
Gyda'r ansicrwydd yn parhau ynglŷn ag effaith yr amrywiolyn Omicron, mae'r gwasanaethau cyhoeddus yn monitro'r sefyllfa yn agos.
Mae Grŵp Cydlynu Strategol Gogledd Cymru (SCG) yn dod â'r gwasanaethau brys a’r gwasanaethau iechyd, awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill at ei gilydd.
Y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Nigel Harrison sy'n cadeirio'r grŵp, a dywedodd: “Wrth i ni ddysgu mwy am yr amrywiolyn COVID newydd, rydym yn gofyn i bawb gymryd gofal ychwanegol. Rhaid i bawb ohonom chwarae ein rhan drwy gadw ein gilydd yn ddiogel."
“Rydym yn annog pawb yng Ngogledd Cymru i ddilyn canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru. Os weithiwn ni gyda’n gilydd gallwn atal y lledu a helpu diogelu gwasanaethau hanfodol.”
Gwnewch y prawf llif unffordd cyn mynd allan - boed i barti Nadolig, i siopa, i weld ffrindiau neu deulu; neu wrth fynd i unrhyw le yn llawn pobl neu cyn teithio.
Os ydych yn profi'n bositif neu os oes gennych symptomau Covid-19 ni ddylech fynd allan a dylech drefnu gwneud prawf PCR a hunan-ynysu.
Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth i atal COVID rhag lledu, mae hyn yn golygu golchi dwylo, cadw pellter, gwisgo mwgwd, a chadw ffenestri ar agor os ydych yn cwrdd â phobl y tu mewn.
Y ffordd orau o gadw'n ddiogel yn erbyn COVID-19 yw cael eich brechu. Rydym am i oedolion sy'n gymwys i archebu brechiad hybu cyn gynted â phosib i ddiogelu pawb rhag i achosion Omicron ledu ar draws Gogledd Cymru yn yr wythnosau nesaf.
Gall pobl archebu ar-lein neu fynd i glinigau galw i mewn ac rydym yn annog pawb i wneud hyn cyn gynted ag y gallent a pheidio â gadael pethau tan y Flwyddyn Newydd. Os ydych eisoes wedi archebu apwyntiad ym mis Rhagfyr cadwch ato.
Gellir cael gafael ar y Gwasanaeth Archebu Lle ar: https://bipbc.gig.cymru/covid-19/brechlyn-covid-19/trefnu-apwyntiad-ar-lein-pigiad-covid-19/