Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd lorïau a oedd yn goryrru eu targedu dros y penwythnos fel rhan o’n hymrwymiad parhaol i ddiogelu’r ffyrdd.
Ar ôl i gwynion gael eu derbyn oherwydd bod lorïau yn goryrru drwy’r gwaith sy’n cael ei wneud ar y ffordd yr A55 yn Nhal y Bont ger Bangor, bu swyddogion o Uned Plismona’r Ffyrdd yn cynnal ymgyrch yno dros y penwythnos.
Cafodd 13 gyrrwr, mewn cerbydau sydd wedi’i cofrestru dramor, eu stopio a derbyn ‘'Hysbysiadau Cosb Benodedig Graddedig' – sy’n golygu eu bod yn gorfod talu dirwy yn y fan a’r lle.
Oherwydd y gwelliannau sy’n cael eu gwneud i’r ffordd, mae’r ddwy lôn wedi’i lleihau ar yr ochr ddwyreiniol a gorllewinol, ac mae cyfyngder cyflymder dros dro o 40mya yn bodoli yno.
Meddai PC Eifion Jones o’r Uned Cerbydau Masnachol: “Dewisiodd y gyrwyr a gafodd eu dal dros y penwythnos i anwybyddu’r terfyn cyflymder. Mae hwn yno er lles diogelwch y gweithwyr ac er lles modurwyr.
“Mae canlyniadau goryrru yn drychinebus, ac yn waeth os wrth lyw lori neu gerbyd mawr arall. Yn anffodus, mae profiad yn deud wrthym fod goryrru yn ffactor mewn gwrthdrawiadau sy’n lladd neu’n achosi anafiadau difrifol.
“Mae terfynau cyflymder yno am reswm a dylid cymryd sylw ohonynt. Os ydych yn teithio sicrhewch eich bod yn gyrru mewn modd cyfrifol a meddyliwch am ddiogelwch pawb arall.”
Cafodd gwiriadau hefyd eu gwneud ar rannau eraill o’r A55, gan gynnwys yn yr ardal 50mya ym Mae Colwyn ac ar Allt Rhuallt, fodd bynnag ni chafwyd unrhyw droseddau.
Hysbysiadau Cosb Benodedig Graddedig: