Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:30 23/12/2021
Yn dilyn y gwaharddiad diweddaraf a gyhoeddwyd gan Glwb Pêl-droed Wrecsam, hoffai Heddlu Gogledd Cymru a'r clwb bwysleisio na fydd ymddygiad annerbyniol mewn gemau yn cael ei oddef.
Yr wythnos diwethaf derbyniodd dyn 28 oed Orchymyn Gwahardd Pêl-droed gan ynadon yn Norfolk.
Daeth hyn yn sgil ei ymddygiad annerbyniol mewn gem oddi cartref yn erbyn King's Lynn ar 13 Tachwedd.
Dywedodd Uwcharolygydd Simon Barrasford: "Mae Heddlu Gogledd Cymru a Chlwb Pêl-droed Wrecsam yn gytûn yn eu barn ar ymddygiad cefnogwyr mewn gemau pêl-droed.
Rydym yn gwybod fod y mwyafrif o gefnogwyr yn ymddwyn yn gyfrifol ac maent yn destun balchder i'r dref a'r clwb y maent yn eu cynrychioli.
"Serch hynny, rhaid nodi y bydd unrhyw un sy'n ymwneud ag ymddygiad anghyfreithlon neu anghymdeithasol yn cael eu cosbi'n llym.
“Rydym yn cymryd pob achos o ymddygiad annerbyniol mewn gemau o ddifri ac yn gweithredu'n gadarn yn erbyn y rhai sydd yn gyfrifol.
“Rhoddir Gorchmynion Gwahardd pêl-droed i atal anhrefn a thrais mewn gemau. "Felly byddwn yn parhau i weithio gyda'r clwb i orfodi'r gorchmynion hyn lle bo'n briodol, mewn gemau cartref a rhai oddi cartref fel ei gilydd.
“Ni fydd anhrefn o fewn ac o gwmpas caeau pêl-droed yn cael ei oddef."
Yn dilyn y gorchymyn gwahardd diweddaraf, dywedodd Fleur Robinson, PSG CPDC Wrecsam: “Mae hyn yn dangos na fydd ymddygiad annerbyniol yn cael ei oddef.
"Ar y Cae Ras neu oddi cartref rydym yn cynrychioli Clwb Pêl-droed Wrecsam, ac rydym yn falch o ddarparu amgylchedd gynhwysol a chroesawgar i bawb.
“Hoffwn ddiolch i Heddlu Gogledd Cymru am weithredu'n gyflym yn yr achos hwn a chael canlyniad positif.
"Dim ond lleiafrif bach sy'n rhan o'r digwyddiadau hyn a byddwn yn parhau i weithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i sicrhau y bydd ymddygiad annerbyniol fel hyn yn cael ei gosbi yn y modd mwyaf llym posib.
"Diolch i'r mwyafrif sy'n parhau i gefnogi ni mewn niferoedd mor fawr, ac mewn modd sy'n gweddu i'n Clwb a'n cymuned - mae eich cefnogaeth yn cael ei werthfawrogi gan bawb sy'n ymwneud â'r Clwb Pêl-droed.