Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:31 01/12/2021
Ddoe, lansiwyd y trydydd Adroddiad Cydraddoldeb Rhywedd mewn Plismona yn y DU blynyddol wrth gefnogi menter cydraddoldeb rhywedd y Cenhedloedd Unedig, HeForShe.
Mae heddluoedd y DU i gyd wedi ymroi i HeForShe er mwyn gwella diffyg cydraddoldeb ar sail rhywedd ymysg lefelau uwch o fewn plismona. Maent hefyd wedi ymroi i atal cam-drin domestig a cham-drin rhywiol mewn cymdeithas.
Mae'r mudiad HeForShe yn cael ei gefnogi gan fwy na dwy filiwn o bobl, gan gynnwys arweinwyr byd, penaethiaid gwladwriaethau a Phrif Swyddogion Gweithredol byd-eang ac enwogion.
Mae'r trydydd adroddiad yn dod â data a adroddir yn genedlaethol at ei gilydd gan ddangos y rhaniad rhwng rhywedd ymysg y rhengoedd uwch o fewn y gwasanaeth heddlu ynghyd â rhannu arfer gorau ledled heddluoedd yn y DU.
Yn yr adroddiad, gwnaeth heddluoedd y DU adrodd ar eu cynnydd. Maent yn cynnwys:
Gwelodd y rhaglen 71% o'r grŵp yn llwyddo yn y prawf ffitrwydd.
Carl Foulkes, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru ydy Arweinydd HeForShe Plismona'r DU. Dywedodd: “Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi gweld effaith ddigynsail ar blismona oherwydd Covid-19. Tra rydym mewn lle llawer gwell, mae'r pandemig yn parhau. Bu llofruddiaeth drasig Sarah Everard gan swyddog heddlu hefyd eleni. Yn sgil hyn, daeth sgyrsiau i'r amlwg ynghylch ymateb yr heddlu i drais yn erbyn merched a genethod (VAWG). Mae HeForShe yn creu cyswllt clir rhwng anghydraddoldebau rhywedd a thrais ar sail rhywedd. Bydd y gwaith sy'n cael ei wneud gan heddluoedd i ddileu hyn yn parhau."
"Mae Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion Heddlu yn glir fod ymdrin â VAWG yn flaenoriaeth lwyr i blismona. Mae'n cydnabod tra bod llawer o waith yn parhau, mae llawer o waith sylweddol i'w wneud er mwyn sicrhau hyder mewn plismona a bod merched yn ddiogel yn ein cymunedau. Nid cyfrifoldeb plismona ydy hyn i gyd. Ond rydym yn chwarae rôl hanfodol mewn atal niwed a dod â throseddwyr o flaen eu gwell. Rydym yn dylanwadu'r hyn mae cymdeithas yn barod i'w ganiatáu fel ymddygiad derbyniol."
"Rwyf yn annog holl heddluoedd yn y DU i edrych dros yr adroddiad hwn. Mae hyn er mwyn gweld lle maent yn y data a dysgu o heddluoedd eraill ynghylch sut gellir gwneud gwelliannau. Mae camau mawr wedi'u cymryd i gynyddu'r nifer o ferched sy'n ymuno fel swyddogion heddlu. Ar ben hyn, rydym wedi gweld twf merched yn dod yn Brif Swyddogion. Fodd bynnag, mae'n bwysig rwan nad ydym yn colli ffocws. Mae angen i ni sicrhau fod y nifer cynyddol o ferched sydd wedi ymuno â phlismona drwy'r cynnydd yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys, eu cefnogi ac yn cael y cyfleoedd datblygu iawn. Mae hyn er mwyn ymdrin â'r bwlch o ferched sy'n cael eu tangynrychioli o fewn swyddi rheoli canol ac uwch.
"Edrychaf ymlaen at y flwyddyn i ddod, lle mae'r Cenhedloedd Unedig yn symud i'w hail gyfnod HeForShe. Bydd hyn yn caniatáu plismona yn y DU i ail-gadarnhau eu hymrwymiad a gosod amcanion ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae angen i ni rŵan, yn fwy nag erioed, barhau'r momentwm a chyflymu newid tuag at gydraddoldeb o ran rhywedd."
Mae HeForShe yn fudiad sy'n ceisio ymgysylltu dynion a phobl o bob rhywedd i ymuno â merched er mwyn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni cydraddoldeb gwirioneddol o ran rhywedd. Mae'n cael ei gefnogi gan fwy na dwy filiwn o bobl, gan gynnwys arweinwyr byd, penaethiaid gwladwriaethau a Phrif Swyddogion Gweithredol byd-eang ac enwogion.
Gallwch ganfod mwy am HeForShe a gwneud eich ymrwymiad eich hun, gan ymuno â'r miloedd o swyddogion a staff sy'n gweithio gyda'i gilydd i gymell newid y byddwn ni gyd yn elwa ohono.