Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn ôl SCCH Ryan Thomas, swyddog dwyieithog, mae cynnig gwasanaeth yn Gymraeg a Saesneg yn “ased gwerthfawr”.
Fel rhan annatod o hanes a diwylliant Cymru mae gan yr heddlu gyfrifoldeb foesol i gynnig gwasanaeth yn Gymraeg.
“Mae gwell gan rhai o’r gymuned gael dewis siarad Cymraeg a chyn gynted ag y maent yn gweld y bathodyn ar fy nillad yn dangos fy mod i’n siarad Cymraeg maent yn cynhesu ataf i ac yn ymgysylltu â mi” dywedodd SCCH Thomas.
“Mae gwasanaeth dwyieithog hefyd yn golygu ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth heddlu effeithiol a effeithlon sy’n ateb gofynion ein cymunedau.
“Mae’n braf gweld bod pobl yn gallu dibynnu arnaf i os ydynt angen rhywun sy’n gallu siarad yn Gymraeg gyda rhywun yn y gymuned a fyddai fel arall ddim yn gyfforddus yn siarad â ni.”