Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Symudodd SCCH Adelina Olaru o Romania i’r DU yn 2010.
Digwyddodd hyn yn sgil dweud wrth ei theulu ei bod hi’n hoyw.
Ers hynny, mae wedi graddio gyda gradd ym maes gwyddoniaeth fforensig ac ymchwilio troseddol o Brifysgol Sir Gaerhirfryn ac wedi gweithio fel swyddog carchar yn cadw mewnfudwyr anghyfreithlon yn mhorthladd Caergybi.
Dechreuodd ei swydd fel SCCH i Heddlu Gogledd Cymru ym mis Tachwedd 2020.
“Ro’n i eisiau gweithio i’r heddlu ers o’n i’n blentyn” meddai.
“Ro’n i am fod yn swyddog yn Romania, ond mae’n anodd cael lle yn fan yna, felly doeddwn i ddim yn ei weld fel dewis i mi.
“Yna, pan wnaeth fy nheulu ddarganfod fy mod i yn hoyw sylweddolais nad oeddwn i’n ffitio i fewn yn Romania mwyach. Doedd neb fy eisiau i yno, ro’n i’n 23 ar y pryd.
“Roedd gwahaniaeth diwylliannol mawr yno – doedd neb yn derbyn fy rhywioldeb ac nid yw priodas hoyw yn gyfreithlon. Felly yn 2010, penderfynais symud i ffwrdd.”
Dywedodd fel SCCH mae ei dealltwriaeth o wahaniaethau diwylliannol yn rhoi mantais iddi yn ei rôl ac yn ei galluogi i gyfathrebu yn effeithiol gyda phobl o ddwyrain Ewrop o fewn y gymuned.
“Rwyf yn deall y gwahaniaethau ac ymddygiad diwylliannol cenhedloedd gwahanol, ac mae hyn wedi bod yn ddefnyddiol iawn ar adegau yn fy swydd,” meddai.
“Gall rhai pobl o gefndir dwyrain Ewrop ymddangos yn fwy llym a phlaen wrth siarad.
“I rhai maent yn ymddangos yn anghwrtais, ond dw i’n sylweddoli mai eu diwylliant sydd yn wahanol.
“Ar adegau, rwyf wedi gallu torri ffiniau diwylliannol ac adeiladu ymddiriedaeth.”
Uchelgais SCCH Olaru yn y pen draw yw dod yn swyddog ac hyfforddi fel swyddog drylliau tanio.
Ewch i’n tudalen yfory i glywed mwy am stori PC Karl Allman.
Ewch draw i dudalen Facebook De Sir y Fflint bob dydd i glywed gan swyddogion yn rhannu eu straeon personol a’u profiadau sy’n nodi pwysigrwydd amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant yn Heddlu Gogledd Cymru.