Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd PC Karl Allman, swyddog cymunedol Airbus a maes awyr Penarlâg yr heddlu yn ei 30au cynnar ar ôl gweithio ar fferm laeth am 20 mlynedd.
Bellach yn 55, ei reswm dros newid gyrfa oedd ei fod am her newydd gyda chyflog gwell a phensiwn.
Drwy gydol ei yrfa, gweithiodd PC Allman fel swyddog ymateb cyn mynd i drin cŵn am 10 mlynedd – gan weithio ym maes ffrwydron, cyffuriau a drylliau tanio. Bu hefyd yn gweithio ym maes troseddau mewnfudo a’r uned awyr ac arfordir.
Yn 2013, ar ôl i gŵn PC Allman ymddeol, aeth yn ôl i blismona ymateb, cyn derbyn ei swydd gyfredol.
Mae’n dweud drwy gydol ei yrfa blismona doedd oed ddim yn rhwystr.
“Yn fy 30au cynnar, mi wnes i ddod i adnabod swyddogion heddlu drwy chwarae rygbi ac roedd y swydd yn apelio ataf i yn fawr” meddai.
“O ystyried fy mod yn dod o gefndir ffermio, roedd rhai yn meddwl ei fod yn newid enfawr – ond doeddwn i ddim yn meddwl hynny fy hunan.
“Dw i ddim yn ystyried bod oed yn rhwystr o gwbl hyd yn hyn. Mae ugain mlynedd wedi mynd heibio a dw i yma o hyd.
“Os galla i wneud hyn, gall unrhyw un ei wneud o.”
Ewch i’n tudalen yfory i glywed stori SCCH Lucy Davies.