Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:38 23/08/2021
Dywedodd SCCH Connor Freel, swyddog trawsrywiol wrthym sut y bu iddo ymuno â’r heddlu er mwyn “sefyll dros y rhai hynny sydd wedi dioddef rhagfarn a gwahaniaethu.”
Ers dod yn swyddog, mae wedi gweithio gyda nifer fawr o bobl ifanc yn y gymuned sy’n brwydro gyda’u rhywioldeb a’u hunaniaeth rhywiaethol.
“Rwyf wedi colli cyfrif o’r adegau ble rwyf wedi siarad â phobl sy’n ei chael hi’n anodd” meddai.
“Rwyf yn aml wedi mynd i ddigwyddiadau ble mae pobl ifanc mewn trwbl am bethau penodol.
“Drwy gymryd amser i eistedd i lawr gyda nhw a gofyn beth sy’n mynd ymlaen, yn aml iawn mae rhai ohonynt yn cael trafferth gyda’u rhywioldeb neu eu hunaniaeth rhywiaethol – ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn eu hymddygiad.
“Wedi i mi drafod eu problemau, maent yn aml yn teimlo’n fwy cyfforddus ac yn dechrau ymgysylltu a chefnogi’r heddlu.
“Yn y rhan fwyaf o achosion mae pryder, dicter a rhwystredigaeth wedi bod yn adeiladu y tu mewn iddynt.
“Mae’n deimlad braf gallu helpu – rydych yn ymuno â’r heddlu i wneud hynny. Rwyf bob amser yn cynnig fy manylion cyswllt iddynt ac os gallaf helpu, mi wnaf i.”
Yn dilyn ei lwyddiant mae SCCH Freel wedi cael ei benodi’n swyddog cydlynu staff LHDTC+ Heddlu Gogledd Cymru – yn hyrwyddo a chynnal rhwydwaith cefnogi staff LHDTC+.
Ychwanegodd: “Rhaid i ni herio persbectif pobl o’r hyn sy’n ‘normal’.
“Pan fyddaf yn stopio siarad am hyn dyna pryd byddaf yn gwybod bod y frwydr wedi eu hennill.”
Ewch i’n tudalen yfory i glywed mwy am stori SCCH Adelina Olaru.