Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yr wythnos yma mi fydd Heddlu Gogledd Cymru yn ymuno â heddluoedd ar draws y wlad er mwyn cefnogi Ymgyrch Sceptre – sef ymgyrch genedlaethol wedi’i hanelu i daclo troseddau yn ymwneud â chyllyll.
Rhwng Ebrill 26ain a’r ail o Fai, bydd Ymgyrch Sceptre yn gweld heddlu yn codi ymwybyddiaeth o beryglon cyllyll, ynghyd â thargedu rhai sy’n cario cyllyll.
Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn rhoi’r cyfle i bobl ildio eu cyllyll mewn modd diogel mewn biniau arbennig yng ngorsafoedd heddlu sydd â chownter blaen. Bydd biniau tebyg hefyd yn cael eu gosod mewn canolfannau ailgylchu i’r rhai sydd efallai ddim yn gyffyrddus yn mentro i orsaf heddlu.
Mae troseddau cyllyll yn unrhyw drosedd sy’n ymwneud â chyllell – wedi eu defnyddio neu beidio. Mae rhai esiamplau yn cynnwys:
Ar draws gogledd Cymru mi fydd swyddogion yn cynnal gweithgareddau yn ystod stopio a chwilio a chydweithio hefo siopau sy’n gwerthu cyllyll - gan ofyn iddynt a ydynt yn herio rhywun maent yn credu eu bod dan 18 oed, ac yn sicrhau fod cyllyll yn cael eu harddangos mewn modd diogel ac addas.
Bydd swyddogion o gynllun Schoolbeat Heddlu Gogledd Cymru yn codi ymwybyddiaeth o droseddau cyllyll yn ystod rhai o’u gwersi – gan gynnwys rhoi mewnbwn ar wers ‘Tricked and Trapped’ sy’n ymwneud â llinellau cyffuriau, sy’n dysgu disgyblion sut i weld arwyddion ecsbloetio. Mae’r gwersi hefyd yn codi ymwybyddiaeth o sut y gallent hwy a’u ffrindiau gael eu tynnu mewn i fywyd troseddol gan gangiau.
Meddai’r Rhingyll Darren Kane, sy’n cydlynu’r ymgyrch ar ran Heddlu Gogledd Cymru: “Gan nad yw rhan helaeth o’r cyhoedd yn cario cyllyll neu’n eu defnyddio mewn troseddau, rydym yn gweithio’n galed gyda phartneriaid er mwyn taclo troseddau cyllyll sydd yn digwydd er mwyn ceisio eu hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf.
“Mae cyllyll yn beryglus ac nid oes lle iddynt ar strydoedd gogledd Cymru. Tydi cario cyllell ddim yn eich cadw’n ddiogel. Rydych yn peryglu eich hun drwy gario cyllell ac rydych yn fwy tebygol o frifo mewn digwyddiad treisgar.
“Rydym hefyd eisiau codi ymwybyddiaeth y gall cario cyllell mewn lle cyhoeddus arwain at ddedfryd o hyd at bedair blynedd o garchar, yn ddibynnol ar yr amgylchiadau, a hyd at chwe mis o garchar os ydych yn cael eich dal yn cario cyllell mwy nag unwaith.
“Gall dderbyn cofnod troseddol eich effeithio am weddill eich bywyd, gall eich rhwystro rhag cael swydd a gall eich atal rhag teithio i rai gwledydd.”
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi’r cyfle i bobl roi cyllyll nad ydynt eu hangen bellach mewn biniau amnest arbennig a fydd yn cael eu cadw yng ngorsafoedd heddlu Wrecsam, Yr Wyddgrug, Y Rhyl, Llandudno, Bae Colwyn, Bangor, Caernarfon a Chaergybi. Gallant hefyd gael eu rhoi mewn biniau yng nghanolfannau ailgylchu Mochdre, Abergele, Y Rhyl a Dinbych. Gofalwch eich bod yn eu lapio mewn deunydd gwarchodol.
Ychwanegodd Rhingyll Kane: “Byddwn yn cosbi’n llym unrhyw un sy’n cael eu dal gyda chyllell neu eitem â llafn yn eu meddiant ar y stryd. Rwy’n annog pobl i gymryd y cyfle hwn i gael gwared ar arfau anghyfreithlon.
“Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth y gymuned a’n partneriaid gyda’r ymgyrch hwn. Gyda’n gilydd gallwn barhau i weithio er mwyn cael gwared ar gyllyll ac arfau peryglus a dod â’r rhai sy’n gyfrifol am gario cyllyll a’u defnyddio o flaen eu gwell.”
Os ydych yn poeni am rywun sy’n cario cyllell, neu eisiau siarad gyda rhywun am droseddau cyllyll neu am gyngor diogelwch, plîs ffoniwch 101 - ffoniwch 999 mewn argyfwng bob amser pan mae trosedd yn digwydd neu mae rhywun mewn perygl.
Gall defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol ddilyn yr ymgyrch drwy ddefnyddio’r hashnod #OpSceptre.