Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog pobl i wybod y Gyfraith yn ymwneud â sgwteri trydan neu E-sgwteri cyn prynu neu ddefnyddio un.
Mae E-sgwteri wedi cynyddu mewn poblogrwydd dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae tipyn o ddryswch ynghylch ble mae hawl eu defnyddio. Dim ond ar dir preifat mae hawl eu gyrru ar hyn o bryd gyda chaniatâd perchennog y tir, neu fel rhan o dreialon y Llywodraeth.
Mae Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yn cymryd rhan mewn treialon 'Parth Trafnidiaeth y Dyfodol' ar gyfer llogi e-sgwter, gyda'r bwriad o'u gwneud yn gyfreithlon i'w defnyddio ar y ffordd. Serch hynny, ar hyn o bryd, nid yw gogledd Cymru yn rhan o'r treialon hyn.
Mae swyddogion yn atgoffa pobl bod gyrru e-sgwteri yn gyhoeddus pan nad yw'n rhan o dreial swyddogol yn erbyn y gyfraith a gall arwain at bwyntiau cosb, dirwy ac atafaelu'r cerbyd.
Ystyrir e-sgwteri yn Gerbydau Trydanol Ysgafn Personol (PLEVs), felly maent yn yr un dosbarth â cherbyd modur ac yn atebol i'r un gofynion cyfreithiol â cherbyd modur fel MOT, trwydded, treth ac yswiriant. Gan nad oes gan e-sgwteri blatiau rhifau na’r gallu i ddangos troi i'r chwith neu'r dde, ni ellir eu defnyddio yn gyfreithlon ar y ffyrdd.
Mae'r Rhingyll Liam Ho o Uned Plismona Ffyrdd yn annog pobl leol i ddod yn ymwybodol o'r ddeddfwriaeth. Dywedodd: “Mae'n hawdd cael eich temtio i brynu e-sgwter, yn enwedig gan eu bod yn hawdd i'w prynu gan fân-werthwyr poblogaidd.
“Serch hynny, mae'r gyfraith yn glir. Mi allwch brynu un ond ni allwch ei yrru ar ffordd gyhoeddus, lôn beics neu ar y pafin. Dim ond ar dir preifat gellir defnyddio e-sgwter gyda chaniatâd perchennog y tir.
“Wrth i'r haf nesáu rydym am sicrhau bod plant a rhieni/gofalwyr yn deall pa mor beryglus yw’r peiriannau hyn i'r rhai sy'n eu gyrru ac i gerddwyr hefyd. Yn aml, gall gyrwyr e-sgwter yrru hyd at 60mya - yn aml heb wisgo helmed - felly nid yw'n anodd dychmygu beth allai ddigwydd mewn gwrthdrawiad."
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn deall bod y cyhoedd yn cefnogi dulliau trafnidiaeth sy'n garedig i'r amgylchedd ac am weithio gyda nhw i sicrhau bod y ffyrdd yn ddiogel i bawb.
Ychwanegodd Rhingyll Ho: “Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r cyhoedd i'w gwneud yn ymwybodol o'r gyfraith yn ymwneud â e-sgwteri ac rwyf yn annog rhieni a gofalwyr i sicrhau bod eu plant yn dilyn yr argymhellion yn gywir.
“Os oes gennych e-sgwter peidiwch â'i yrru mewn llefydd cyhoeddus. Cydymffurfiwch â'r gyfraith er eich diogelwch eich hun a diogelwch eraill.
“Mae Adran 59 o Ddeddf Diwygio'r Heddlu yn galluogi'r heddlu i rybuddio gyrwyr os ydynt wedi defnyddio cerbyd mewn modd sy'n achosi perygl, pryder neu annifyrrwch.
“Mae gennym y pŵer i atafaelu cerbydau - gwnewch yn siŵr eich bod cadw e-sgwteri ar dir preifat, gyda chaniatâd y perchennog, i sicrhau na fydd hyn yn digwydd i chi."
Ceir mwy o wybodaeth ar ddefnydd e-sgwteri yma https://www.gov.uk/guidance/e-scooter-trials-guidance-for-users