Stamp amser presennol: 23/06/25 04:48:04
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

North Wales Police crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi
  1. ...
  2. Newyddion

Mark Owen yn derbyn MBE

Cynnwys y prif erthygl

Newyddion
Cyhoeddwyd: 11:55 31/12/20

Mae Mark Owen, Prif Swyddog Heddlu Gwirfoddol Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn MBE yn Rhestr Anrhydeddau 2021 y Flwyddyn Newydd.

Mae Mark Owen, Prif Swyddog Heddlu Gwirfoddol Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn MBE yn Rhestr Anrhydeddau 2021 y Flwyddyn Newydd.

Derbyniodd y wobr am ei wasanaeth i Blismona ac i'r gymuned yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys yn ystod yr ymateb i Covid-19.

Ymunodd Mark, sy'n wreiddiol o Fangor ond sydd bellach yn byw ger Dinbych, â Heddlu Gogledd Cymru fel cwnstabl yn 1984. Mae wedi gwasanaethu ledled y rhan fwyaf o ardal yr heddlu o fewn ystod eang o rolau a rhengoedd. 

Ei angerdd parhaus yw diogelwch y ffordd, yn enwedig diogelwch ran beiciau modur. Roedd â chysylltiad mawr yn y cynllun Beicio Diogel yn lleol a chenedlaethol. Am sawl blwyddyn fe wnaeth wirfoddoli i gynorthwyo fel gwyliwr Beicio Diogel. Mae wedi bod yn aelod gweithgar o Sefydliad yr Uwch Fodurwyr ers blynyddoedd ac ef oedd cadeirydd Uwch Feicwyr Modur Gogledd Cymru tan yn ddiweddar.

Yn ystod ei wasanaeth fe weithiodd ar nifer o ddatblygiadau plismona cenedlaethol. Yn ystod 2008 a 2009 cafodd ei secondio i weithio dramor fel mentor ar lefel pennaeth i uwch swyddogion heddlu yn Kosovo wedi'r rhyfel yno.  

Yn fuan wedi iddo ymddeol yn 2012, dychwelodd Mark i Heddlu Gogledd Cymru fel aelod o staff yr heddlu. Dechreuodd drwy gynorthwyo i foderneiddio ymateb yr heddlu i Bobl ar Goll. Wrth fod yn y rôl hon, derbyniodd hefyd y rôl wirfoddol o fod yn Brif Swyddog yr Heddlu Gwirfoddol. Daeth yn uwch swyddog sy'n gyfrifol am holl swyddogion heddlu gwirfoddol o fewn ein Heddlu Gwirfoddol. Yn ei dro daeth yn aelod gweithgar o Uwch Dîm Arwain yr heddlu.

O dan arweinyddiaeth Mark, tyfodd yr Heddlu Gwirfoddol yn ddwywaith ei faint. Cafwyd bron i 200 o swyddogion ac mae eu gallu i gynorthwyo'r heddlu rheolaidd a'n cymunedau wedi'i broffesiynoli'n sylweddol drwy newidiadau i recriwtio a hyfforddiant.

Aeth Mark ymlaen i reoli'r maes busnes Dinasyddion mewn Plismona, sy'n gyfrifol am Wirfoddolwyr Cymorth yr Heddlu a Chadetiaid ar ben yr Heddlu Gwirfoddol. 

Mae ganddo hefyd rôl strategol ledled y DU wrth gynorthwyo arweinydd CCPSH i'r Heddlu Gwirfoddol. Ysgrifennodd hefyd y Strategaeth Genedlaethol i'r Heddlu Gwirfoddol ar ran y gwasanaeth heddlu.

Mae'n gyd-gadeirydd rhwydwaith cymorth staff LHDT+ Heddlu Gogledd Cymru a chwaraeodd rôl allweddol fel rhan o dîm a darddodd o 4 Heddlu Cymru wrth gyflwyno cynhadledd LHDT+ y DU yng Nghaerdydd.

Mae Mark yn angerddol am wirfoddol. Ar ben ei rôl wirfoddol fel Prif Swyddog yr Heddlu Gwirfoddol, mae'n cynorthwyo wrth gynllunio a rheoli nifer o ddigwyddiadau chwaraeon ac elusennol ledled yr heddlu. Mae hyn yn bennaf yn cynnwys ras flynyddol Snowdonia 7 sy'n denu rhyw 200 o gystadleuwyr o'r gwasanaeth heddlu o ledled y DU i Eryri.

Yn 2020 fe chwaraeodd rôl allweddol wrth gydlynu ymateb gwirfoddolwyr i COVID-19 ledled Gogledd Cymru yn ei rôl ddeuol fel Prif Swyddog yr Heddlu Gwirfoddol ac fel Cadeirydd Grŵp Cydnerth Cymunedol Gogledd Cymru sydd newydd ei ffurfio.

Fel cadeirydd y Grŵp Cydnerth Cymunedol, fe wnaeth gynorthwyo i gydlynu'r ymateb gwirfoddoli ehangach i'r pandemig. Gweithiodd gyda chynrychiolwyr ledled Gogledd Cymru gan gynnwys awdurdodau lleol, cynghorau gwirfoddol a sefydliadau eraill yn dod at ei gilydd i ymdrin â heriau.

Mae gorchwylion a ymgymerwyd gan wirfoddolwyr yn ystod y pandemig wedi cynnwys danfon presgripsiwn, danfon parseli bwyd, ffonio pobl fregus yn rheolaidd, danfon taflenni, cynorthwyo gyda siopa a thawelu meddwl cymunedau.

Sicrhaodd Mark fod yr Heddlu Gwirfoddol yn hynod weithgar ac amlwg yn ystod y cyfnod hwn. Gwnaeth y nifer o oriau gwaith a gwblhawyd gan Swyddogion Gwirfoddol gynyddu'n sylweddol. Gweithiodd swyddogion yr Heddlu Gwirfoddol dros 8,500 o oriau ym mis Mai yn unig. Heddlu Gwirfoddol Gogledd Cymru oedd yn arwain o ran yr ymateb gweithredol i Covid-19, gan sgwrsio, annog, addysgu a gorfodi'r ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol os oedd angen. 

Yn ddiweddar, mae Mark wedi'i ddewis i ddechrau rôl newydd i'r CCPSH fel Cydlynydd Cenedlaethol Dinasyddion mewn Plismona. Bydd hyn yn caniatáu iddo ddatblygu gwirfoddoli yn y gwasanaeth heddlu ledled Cymru a Lloegr ar lefel strategol ymhellach.  Serch hynny, bydd Mark yn parhau fel Prif Swyddog ein Heddlu Gwirfoddol.

Gan ymateb i'w gydnabyddiaeth, dywedodd Mark: "Rwyf wedi fy syfrdanu fy mod wedi cael fy enwebu. Rwyf wrth fy modd o gael derbyn yr anrhydedd hon sy'n golygu llawer i mi'n broffesiynol ac yn bersonol."

"Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn hynod anodd a heriol i lawer o'n cymunedau. Mae wedi bod yn fraint i mi fod wedi gallu gweithio ochr yn ochr â chymaint o bobl ysbrydoledig, boed eu bod wedi'u cyflogi neu'n wirfoddolwyr. Maent o ystod o sefydliadau ac maent wedi dod at ei gilydd ac wedi gweithio'n ddiflino i gynorthwyo ein cymunedau."

"Rwy'n teimlo'n falch ynghylch yr hyn mae bob gwirfoddolwr a sefydliad wedi'i gyfrannu a'r hyn rydym i gyd wedi'u gyflawni yma yng Ngogledd Cymru."

Dywedodd y Prif Gwnstabl Carl Foulkes: "Mae Mark wedi gwneud cymaint i gymunedau Gogledd Cymru, yr heddlu ac i'r Heddlu Gwirfoddol yn benodol yn ystod ei flynyddoedd o wasanaeth eithriadol. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn gwbl haeddiannol i rywun sydd wedi mynd yr ail filltir dro ar ôl tro er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn."

Ychwanegodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Richard Debicki: “Mae cydnabyddiaeth Mark yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines yn gwbl haeddiannol. Mae wedi gwneud cyfraniad mawr i'r ardal a'i chymunedau dros sawl blwyddyn. Gan siarad fel Arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion Heddlu i'r Heddlu Gwirfoddol, gallaf ddweud bod y cyfraniad mae wedi'i wneud i'r Heddlu Gwirfoddol yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol wedi bod yn hynod werthfawr. Dylai deimlo'n falch o ran y gwahaniaeth mae wedi'i wneud."

Noder:

Mae'r Heddlu Gwirfoddol yn swyddogion heddlu gwirfoddol sydd â'r un grymoedd ac yn gwisgo'r un lifrai â swyddogion heddlu cyflogedig. Maent yn cyflawni ystod eang o swyddogaethau ymateb a phlismona arbenigol yn annibynnol a chyda eu cydweithwyr cyflogedig. Maent yn darparu gallu ymchwydd ychwanegol i'r heddlu a'n cymuned yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol.

Dinasyddion mewn Plismona yw'r termau cyffredinol sy'n disgrifio gwirfoddoli o fewn y gwasanaeth heddlu yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn cynnwys yr Heddlu Gwirfoddol, Gwirfoddolwyr Cymorth yr Heddlu a Chadetiaid Heddlu.

CCPSH yw Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu.

Y Dirprwy Brif Gwnstabl Richard Debicki o Heddlu Gogledd Cymru yw arweinydd y CCPSH ar gyfer datblygu'r Heddlu Gwirfoddol ledled Cymru a Lloegr.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Gogledd Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Gwasanaeth Sgwrsio
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throsedd
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024​. Cedwir pob hawl.