Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Joshua Michael Morris, 29 oed o Hen Golwyn, ei ddedfrydu i 42 mis o garchar heddiw (dydd Mercher 9 Rhagfyr) yn Llys y Goron yr Wyddgrug am ymosod ar fabi 10 mis oed ym mis Ionawr 2018.
Cyflwynodd rheithgor eu dyfarniad o 'euog' unfrydol ar ôl achos saith diwrnod a ddaeth i ben ar yr 11 o Dachwedd 2020.
Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Sion Williams, a arweiniodd yr ymchwiliad: 'Yn anffodus ac yn onest, ni all unrhyw gosb byth wneud iawn am yr anaf i'r ymennydd sy'n newid bywydau a ddioddefodd y babi bach hwn yn ystod y digwyddiad ofnadwy yma.'
Ychwanegodd DCI Williams: 'Mae'r hyn sy'n ymddangos fel pe bai wedi bod yn weithred aruthrol o drais wedi newid dyfodol y plentyn ifanc hwn yn ddinistriol, a bydd angen gofal proffesiynol gydol oes arnynt yn awr.
'Diolch byth, mae'r un bach hwn bellach yn profi bywyd mewn amgylchedd teuluol cariadus a meithringar, gyda chefnogaeth nifer o weithwyr proffesiynol ymroddedig ac angerddol.'