Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bwrdd Moeseg
Mae Bwrdd Moeseg yn fforwm ar gyfer adolygiad annibynnol o faterion moesol yn yr heddlu. Mae'n helpu rhoi gwybodaeth i Heddlu Gogledd Cymru a'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd
(CHTh), a rhoi sicrwydd ehangach i'r cyhoedd.
Moeseg yw'r egwyddor graidd y dylai swyddogion heddlu a staff weithio i wasanaethu'r cyhoedd. Mae'r egwyddorion hyn yn ffurfio Cod Moeseg sy'n rheoli'r ffordd gywir i heddlu ymddwyn yn eu rôl.
Mae gwaith y Bwrdd Moeseg yn cynnwys:
Bydd gwaith y bwrdd yn cael ei arwain yn annibynnol gan y Cadeirydd Victoria Holbrook-Hughes gyda Phennaeth Cudd-wybodaeth Busnes HGC James Sutton fel Dirprwy Gadeirydd.
Bydd gan 10 aelod arall o HGC aelodaeth ar y bwrdd, yn cynnwys cymysgedd o unigolion wedi eu dethol o swyddi gweithredol ac anweithredol.
Bydd un aelod yn cael ei ddethol o Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Bydd y bwrdd hefyd yn cynnwys 10 aelod allanol, yn cynnwys academydd uwch mewn maes perthnasol, tri aelod o Grŵp Ymgynghorol Annibynnol, un o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Ni fydd cyfarfodydd y Panel yn amodol ar ddeddfwriaeth i Fynediad Llywodraeth Leol ond yn amodol ar Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Er mwyn sicrhau bod yn ddidwyll a thryloyw, bydd yr agenda a'r adroddiadau, sydd ddim o dan gyfyngiadau yn cael eu cyhoeddi yn dilyn y cyfarfod. Bydd adroddiad ffurfiol yn gosod canfyddiadau'r Panel yn cael ei gyflwyno i Gydbwyllgor Archwilio'r Heddlu.