Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Helo eto, y Ditectif Ringyll Paul Jones sydd yma.
Yn fy rôl fel Rhingyll yr Uned Gudd-wybodaeth, un o fy rolau ydy cydlynu'r Tystion Arbenigol Cyffuriau yn yr adran.
Gwaith Tyst Arbenigol Cyffuriau ydy adolygu tystiolaeth o safbwynt diduedd, gan edrych ar yr holl wybodaeth mewn achos, ynghyd ag adroddiadau ac amddiffyniadau rhai o dan amheuaeth.
Mae'r rôl hon ar gyfer swyddogion mwy profiadol a all roi eu hunain yn esgidiau'r un o dan ymchwiliad ac edrych ar yr holl ffeithiau yn yr achos. Mae hyn er mwyn gwerthuso a ydynt yn gyflenwr neu'n defnyddio cyffuriau rheoledig.
Mae'n waith mae sawl swyddog yn yr heddlu yn ei gyflawni. Ond wrth gyflawni'r rôl, rydych yn gweithredu fel gwas i'r llys, ac nid i'r heddlu na GEG.
Yr wythnos hon, rwyf wedi bod yn trefnu diwrnod datblygu ar gyfer yr arbenigwyr er mwyn diweddaru eu gwybodaeth a'u dysgu.
Mae'n swydd ddiddorol gan, yn anffodus, mae'r mwyafrif o droseddau â chysylltiadau mewn rhai ffyrdd i ddefnyddio cyffuriau. Boed hynny er mwyn cael cyflenwad o gyffuriau neu maent yn gwerthu cyffuriau ar gyfer pleser.
Os oes gennych wybodaeth am bobl yn eich cymuned sy'n achosi niwed, ffoniwch 101 neu ewch ar y wefan.
Gallwch hefyd gysylltu â'r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw ar-lein, neu drwy ffonio 0800 555 111.
Hefyd, yr wythnos hon gofynnwyd i mi roi cyflwyniad at ei gilydd ar ran yr Adran Ymchwiliadau Troseddol (CID) a'r Uned Gudd-wybodaeth.
Byddaf yn ei gyflwyno i swyddogion ar brawf yn fuan yn ystod eu hyfforddiant cychwynnol, rhywbeth rwyf yn edrych ymlaen ato.
Bydd y cyflwyniad o ran sawl agwedd o blismona, gan gynnwys dulliau wrth ymateb i fyrgleriaeth, troseddau rhywiol a difrod troseddol, ynghyd a gwybodaeth ar ddadlennu o fewn ffeiliau.
Un o'r prif bethau rwyf yn eu colli am ddyletswyddau rheng flaen ydy gwylio newydd ddyfodiaid yn tyfu a blodeuo i swyddogion cymwys a hyderus, ac yn eu tro, yn symud ymlaen i rolau gwahanol.
Rŵan bod y tywydd yn dechrau cynhesu ychydig, buaswn hefyd yn hoffi atgoffa trigolion i beidio gadael drysau a ffenestri'n agored. Clowch hwn cyn i chi fynd allan neu fynd i'r gwely.
Yn ffodus, mae ystadegau dioddefwyr byrgleriaeth yng Ngogledd Cymru yn isel, ond rwyf yn eich annog i fod yn wyliadwrus yn yr wythnosau nesaf.
Cofiwch cyn mynd allan – CAU / CLOI / GWIRIO.
I gloi, mae Mr Ellis Davies (llun isod) wedi bod yn osgoi'r heddlu ers peth amser bellach.
Credir bod y dyn 27 oed yn ardal sir Wrecsam. Derbynnir unrhyw gymorth gall y cyhoedd ei roi yn yr ymgais i'w ddal yn fawr.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth o ran lle mae, rhowch wybod i ni lle mae'n cuddio, gan ddyfynnu cyfeirnod 22000304947.
Cadwch yn ddiogel a than yr wythnos nesaf, diolch am ddarllen.
Paul.