Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Croeso nôl bawb. Fy enw i ydy Paul Jones. Fi ydy Ditectif Ringyll Uned Cudd-wybodaeth y Dwyrain.
Wel, mae'r wythnos hon wedi bod yn wythnos brysur o warantau.
Fel rhan o Ymgyrch Galaxy, mae cyfanswm o 13 o arestiadau wedi'u gwneud ledled y DU yr wythnos hon. Roedd yr ymgyrch yn targedu cyflenwi cyffuriau i Wrecsam a Glasgow gan yr hyn a amheuir o fod yn grŵp troseddau trefnedig lleol.
Gwelodd yr ymgyrch yn cydweithredu gyda Heddlu'r Alban, Heddlu Swydd Gaer, Heddlu Glannau Mersi, Heddlu Manceinion Fwyaf a'r Uned Troseddau Trefnedig Rhanbarthol (ROCU) er mwyn gweithredu sawl gwarant fel rhan o ymchwiliad parhaus i'r hyn a amheuir o fod yn gynllwyn cyffuriau.
Gwnaeth 120 o swyddogion gymryd rhan yn yr ymgyrch pum mis a ddigwyddodd dros ddau ddiwrnod ar ddydd Mawrth, 14 Chwefror a dydd Iau, 16 Chwefror.
Targedwyd cyfanswm o 15 eiddo mewn ardaloedd yn cynnwys Wrecsam, Glasgow, Glannau Mersi, Swydd Gaer a Manceinion, lle atafaelwyd meintiau o gyffuriau, arian parod a ffonau symudol.
Roeddwn yn bresennol ar ddau warant yn ardal Wrecsam ac er fy mod yn y cyfeiriadau, siaradodd fy nhîm a minnau â phobl leol yn y gymuned gan roi sicrwydd nad ydym yn goddef troseddu cyffuriau yng Ngogledd Cymru.
Os oes gennych ragor o wybodaeth mewn perthynas â chyflenwi cyffuriau neu linellau cyffuriau, ffoniwch HGC ar 101.
Gallwch darllen mwy amdan yr ymgyrch yma - Ymgyrch rhwng heddluoedd yn targedu cyflenwi cyffuriau i Wrecsam a Glasgow yn arwain at 13 o arestiadau | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)
Mewn newyddion arall... Rwyf wedi derbyn cyllid er mwyn arbrofi tîm ymroddedig er mwyn ymdrin â phroblemau yn ardal y Dwyrain o'r heddlu. Rwyf wedi'i enwi i ddechrau fel y 'Tîm Ymateb Cymunedol'.
Bydd yn cynnwys tîm o ddau SCCH a dau Swyddog Heddlu, gyda dim cylch gorchwyl!
Bydd y tîm yn cael eu cyfarwyddo gennyf i ac Uwch Dim Rheoli'r Dwyrain bob dydd. Nod y tîm ydy ymdrin â materion presennol sy'n niweidio ein cymunedau, ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, byrgleriaethau a phroblemau eraill. Bydd yr arbrawf dros gyfnod o ddeuddydd, lle bydd y Ditectif Arolygydd a minnau'n gwerthuso'r staff a fydd yn cymryd rhan yn yr arbrawf.
Mae'r wythnos hon wedi cynnwys cyfarfod gydag asiantaethau partner o ran ymgyrchoedd ar y cyd yn fuan.
Rwyf wedi siarad gyda'm cydweithwyr o'r Heddlu Ffiniau, yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) a Chynghorau Sir Wrecsam a'r Fflint.
Mae gweithio gyda'ch gilydd er mwyn datrys problemau yn sicrhau eich bod chi fel y cyhoedd yn cael y gwasanaeth gorau, yn targedu problemau lleol a chenedlaethol.
Hoffwn ofyn am eich cymorth gydag ymdrin â phroblem ledled yr heddlu – beiciau modur oddi ar y ffordd.
Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi cael gwybod am bobl yn achosi problemau sylweddol drwy reidio'r beiciau hyn sydd ddim i fod i'w defnyddio ar gyfer ffyrdd yn ein dinasoedd, trefi a phentrefi.
Mae SCCH wedi derbyn chwistrell DNS er mwyn tagio beicwyr oddi ar y ffordd anghyfreithlon mewn gwaharddiad newydd. Mae'r chwistrell hon yn unigryw gan y gall SCCH chwistrellu'r beiciwr. Gall hyn gynorthwyo gyda nodi'r unigolyn cyfrifol yn ddiweddarach.
Mae'n chwistrell marcio troseddwyr Elite ac fe'i defnyddir ar gyfer atal a chanfod ymddygiad troseddol.
Mae'r chwistrellau hyn yn ffordd newydd a modern o ymdrin â throseddau eraill fel lladradau, dwyn o siopau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Yr hyn hoffwn i chi ei wneud os yn bosibl ydy anfon llun neu fideo o'r beic yn cael ei reidio. Gellir defnyddio'r lluniau hyn er mwyn atafaelu'r beiciau hyn o dan ddeddfau amrywiol gan gynnwys Adran 59 o Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2014 os ydynt yn achosi aflonyddu, braw a gofid. Ar ben hyn, mae gan yr heddlu rymoedd i atafaelu cerbydau a beiciau heb eu hyswirio sy'n cael eu reidio ar y ffordd o dan Adran 165 Deddf Traffig Ffyrdd 1988.
Gan fod y beiciau hyn ar gyfer eu defnyddio oddi ar ffyrdd, NID OES gan y bobl sy'n gyfrifol am reidio'r beiciau hyn yswiriant. Yn y mwyafrif o achosion, NID OES ganddynt drwydded yrru ddilys. Eto, mae hyn yn rheswm clir i atafaelu'r beic. Mewn rhai achosion, mae'r beiciau hyn yn aml wedi'u dwyn ac yn cael eu defnyddio er mwyn cyflawni troseddau eraill.
A allaf ofyn, os ydych yn gwybod pwy yn eich cymuned sy'n reidio'r beiciau oddi ar y ffordd hyn, ffoniwch 101.
Gallwch hefyd gysylltu â'r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw.
Gogledd Cymru ydy un o'r llefydd mwyaf diogel yn y DU. Gofalwch am eich gilydd a'ch cymuned.
Tan yr wythnos nesaf.
Diolch, Paul.