Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Gogledd Cymru'n Siarad yn fenter sy'n cael ei ddefnyddio gan Heddlu Gogledd Cymru, i gynorthwyo ein Timau Plismona’r Cymdogaethau i ddeall y pryderon mwyaf pwysig yn ein cymunedau lleol.
Mae eich adborth a dderbynnir drwy Gogledd Cymru'n Siarad yn galluogi Timau Plismona’r Cymdogaethau, ynghyd ag asiantaethau partner, i weithredu ar y wybodaeth a dderbynnir. Wrth gwblhau’r arolwg, ‘rydych yn ein helpu i ymdrin â’r pryderon sydd bwysicaf i chi a’r gymuned ‘rydych yn byw ynddi.
Gallwch hefyd ddewis cofrestru ar gyfer Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru – ein system negeseuon cymunedol, sy’n rhad ac am ddim, lle byddwch yna'n derbyn diweddariadau gan eich Tîm Plismona’r Cymdogaethau ar yr hyn sy'n cael ei wneud i ymdrin â'r problemau ‘rydych chi a’r gymuned wedi’n hysbysu amdanynt.
Mae cofrestru efo’r Rhybudd Cymunedol yn broses gyflym, a gallwch wneud drwy glicio’r ddolen isod, sganio’r cod QR neu hyd yn oed wrth ofyn i aelod o’ch Tîm Plismona’r Cymdogaethau lleol i’ch cofrestru. Mae cyngor atal trosedd hefyd yn cael ei gyfathrebu i’n cymunedau lleol drwy’r fforwm, er mwyn lleihau’r tebygolrwydd ohonoch chi’n dioddef trosedd.
Dywedodd Uwcharolygydd Helen Douglas: “Mae ein Timau Plismona’r Cymdogaethau eisiau sicrhau eu bod yn ymdrin â’r pethau sydd bwysicaf i chi a’r gymuned ‘rydych yn byw ynddi.
“Ar ôl lansio’r Rhybudd Cymunedol yn 2022, mae mwy na 15,500 o bobl wedi cofrestru efo’r cynllun, efo’r rhan fwyaf yn nodi bod y cynnwys sy’n cael ei rannu yn berthnasol iddyn nhw.
“Mae Gogledd Cymru’n Siarad yn rhoi cyfle i drigolion ein hysbysu o’r materion sydd bwysicaf i’w cymunedau lleol.
“Mae ein cymunedau yn chwarae rhan hanfodol i’n helpu ni i atal a datgelu trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Ein uchelgais ydy gwneud Gogledd Cymru y lle mwyaf diogel yn y DU i fyw, gweithio ac ymweld, drwy drin pobl yn deg, deall eu pryderon a gweithredu arnyn nhw.
“Dwi’n eich hannog i ymuno efo’r sgwrs, drwy gofrestru efo’r Rhybudd Cymunedol. Cewch wedyn gymryd rhan mewn arolygon cyfnodol Gogledd Cymru’n Siarad. Fel arall, gallwch gymryd yr arolwg yn y Gymraeg yma: www.gogleddcymrunsiarad.co.uk neu yn Saesneg yma: www.northwalestalking.co.uk
Rhannwch efo’ch teulu, eich ffrindiau a’ch cydweithwyr i sicrhau eu bod hwythau yn cael dweud eu dweud.”