Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rhaglen Llysgenhadon Ifanc Gogledd Cymru
Mae pobl ifanc ar draws Gogledd Cymru yn cael eu hannog i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ar faterion plismona drwy wneud cais i ddod yn aelodau o Raglen Llysgenhadon Ifanc Heddlu Gogledd Cymru.
Yn dilyn llwyddiant y rhaglen y llynedd, mae Heddlu Gogledd Cymru unwaith eto yn awyddus recriwtio pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed ac sydd i gyd yn byw yn yr ardal, i hysbysu a helpu'r heddlu ar faterion sy'n ymwneud â phobl ifanc a dweud eu dweud ar blismona a throseddu lle maen nhw'n byw.
Dywedodd PC Mel Cartledge-Davis, Swyddog Ymgysylltu ac Ymyriadau Ieuenctid Heddlu Gogledd Cymru: "'Da ni'n gobeithio recriwtio unigolion a fydd yn rhoi llais grymus i'w cyfoedion ar draws y rhanbarth, ac a fydd yn helpu, yn herio ac yn llywio'r gwaith 'da ni'n ei wneud a fydd yn helpu gwneud penderfyniadau gwell er mwyn diwallu anghenion pobl ifanc ledled Gogledd Cymru".
"Bydd cyfleoedd hyfforddi ynghylch magu hyder, gwaith tîm ac arweinyddiaeth. Bydd y llysgenhadon hefyd yn magu sgiliau a phrofiad gwerthfawr a fydd yn berthnasol ac y gellid eu defnyddio fel rhan o Fagloriaeth Cymru, fel rhan o'u CV neu helpu hefo ceisiadau addysg bellach neu addysg uwch.
"Byddan nhw'n cymryd rhan mewn craffu'r defnydd o rymoedd yr heddlu ynghyd â chwynion a digwyddiadau hefo pobl ifanc – rhoi adborth a gwneud argymhellion i Heddlu Gogledd Cymru.
Ychwanegodd PC Cartledge-Davis: "'Da ni'n awyddus gwneud yn siŵr fod y Rhaglen Llysgenhadon Ifanc yn cynnwys grŵp amrywiol o bobl ifanc sy'n adlewyrchu cyfansoddiad y boblogaeth leol, gan gynnwys y bobl hynny sydd hefo profiad uniongyrchol o'r heddlu a'r system gyfiawnder. Nid ydy cyswllt blaenorol hefo'r heddlu neu euogfarn yn rhwystr i ymgeisio."
Os oes gyno chi ddiddordeb ymgeisio, neu os 'da chi'n adnabod rhywun ifanc a fyddai'n hoffi cymryd rhan, ewch draw i ein dudalen recriwtio er mwyn cwblhau ffurflen gais.
Nodiadau: