Gwyddom fod digwyddiadau o yrru i ffwrdd ‘heb dalu’ yn fwriadol yn cael effaith fawr ar orsafoedd tanwydd, felly byddwn yn eich helpu i atal troseddu yn y ffyrdd canlynol:
- byddwn yn ymweld â gorsafoedd tanwydd yng Ngogledd Cymru
- byddwn yn rhoi arwyddion ataliol mewn cyrtiau blaen yn gofyn, 'Ydych chi wedi talu am eich tanwydd?'
- byddwn yn gweithio gyda chi i fynd ar drywydd digwyddiadau ‘heb dalu’ bwriadol ac adnabod troseddwyr
- byddwn yn hyfforddi gweithwyr gorsafoedd tanwydd i adnabod arwyddion o gamfanteisio troseddol os gwelant rai
- byddwn yn gofyn i chi weithredu fel ein 'llygaid a'n clustiau' i nodi patrymau ymddygiad a cham-fanteisio
- byddwn yn cyfleu'r neges glir bod Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio gyda busnesau i atal troseddu ac i euogfarnu troseddwyr
Pam?
- bydd arwyddion 'peidiwch ag anghofio talu' yn lleihau nifer y rhai diniwed sy’n gyrru i ffwrdd heb dalu
- bydd gwaith partneriaeth yn ein helpu i olrhain troseddwyr a’u cysylltu â throseddau penodol, ac i sicrhau euogfarn
- mae digwyddiadau gyrru i ffwrdd ‘heb dalu’ mewn gorsafoedd tanwydd yn fwriadol yn aml yn gysylltiedig â throseddau difrifol a chyfundrefnol: drwy gydweithio gallwn nodi patrymau a mynd i'r afael â cham-fanteisio troseddol yn ein cymunedau
- bydd gweithwyr mewn gorsafoedd tanwydd yn teimlo'n hyderus ynghylch galw'r heddlu gyda'u hamheuon, a throsglwyddo gwybodaeth a fydd yn helpu i ddiogelu pobl sy'n agored i niwed
Os oes gennych chi gwestiwn am Dangos y Drws i Drosedd neu drosedd meddiangar yng Ngogledd Cymru:
Anfonwch e-bost atom
Os ydych eisiau cysylltu â ni am fater arall neu er mwyn hysbysu am drosedd, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth sgwrs fyw, neu ffonio 101. Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.