Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymgyrch Unite
Ymgyrch Unite ydy ymateb Heddlu Gogledd Cymru i ymdrin â Thrais yn Erbyn Merched a Genethod. Mae’n cynnwys gwaith atal, hyfforddiant i swyddogion a gwneud gwelliannau yn y ffordd rydym yn cynnal ymchwiliadau.
Trias yn Erbyn Merched a Genethod (VAWG)
Beth ydy VAWG?
Unrhyw drais ar sail rhywedd sydd wedi’i anelu at ferch oherwydd ei bod yn ferch neu drais sy’n cael ei ddioddef yn anghymesur gan ferched. Mae’r mwyafrif o VAWG gan ddynion yn erbyn merched a genethod (er gall dynion hefyd ddioddef trais neu gam-drin).
Mae VAWG yn cwmpasu unrhyw drosedd sy’n effeithio merched a genethod
yn anghymesur. Mae hyn yn cynnwys trais a cham-drin domestig, stelcian
ac aflonyddu, trais ar sail anrhydedd (gan gynnwys priodas orfodol, llurgunio
organau cenhedlu merched a’r hyn a adwaenir fel ‘lladd ar sail anrhydedd’),
treisio ac ymosod rhywiol, a throseddau yn ymwneud â ‘pornograffi’ a ‘thynnu
lluniau dan din’. Y troseddau VAWG sydd fwyaf tebygol o fod yn fynych ynghyd a bod yn gysylltiedig â’r economi nos ydy troseddau rhywiol gan gynnwys achosion o ‘sbeicio’, ‘hwtian’ gan achosi aflonyddwch, braw a gofid yn groes i Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 ac ymosod.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymroi i ddileu Trais yn erbyn Merched a Genethod. Ein perwyl ydy gwneud Gogledd Cymru’r lle mwyaf diogel yn y DU i weithio, byw ac ymweld. Byddwch yn dawel eich meddwl y bydd unrhyw adroddiadau i ni yn cael eu trin yn ddifrifol a chyda blaenoriaeth.
Prif Gwnstabl Amanda Blakeman
Mae VAWG yn dod â 11 maes o drais ar sail rhywedd at ei gilydd:
Gall trais domestig fod yn gorfforol, rhywiol, emosiynol, ariannol neu’n seicolegol. Mae’n cynnwys patrwm o ymddygiad rheoledig sy’n deillio o ddyhead cam-driniwr i gynnal grym a rheolaeth dros eu cymar neu aelodau o’r teulu. Nid yw’n cael ei achosi gan broblemau alcohol neu wylltineb.
Gall trais domestig ddigwydd i unrhyw un beth bynnag yw eu cefndir cymdeithasol, oedran, rhywedd, ffydd, ethnigrwydd neu rywioldeb.
Mae Trais Rhywiol yn cynnwys treisio a cham-drin rhywiol. Gall ddigwydd i unrhyw un a gall cymheiriaid, ffrindiau ac aelodau o’r teulu fod yn droseddwyr ynghyd â phobl cwbl ddieithr. Ystyrir unrhyw gyswllt rhywiol heb ganiatâd yn drais rhywiol ac mae’n drosedd. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyffwrdd rhywiol diangen. Gall trais rhywiol ddigwydd yn unrhyw le.
Mae llawer o ferched a genethod yn cael eu gorfodi neu eu twyllo i werthu rhyw a/neu barhau i werthu rhyw. Mae masnachu pobl yn cynnwys recriwtio a chamfanteisio ar ferched a genethod o dramor ac o fewn y DU at ddibenion puteindra (neu gaethwasanaeth domestig).
Mae Camfanteisio Rhywiol yn gysylltiedig â masnachu pobl a phuteindra a bod merched a genethod yn cael eu camfanteisio’n rhywiol drwy fasnachu pobl neu buteindra. Mae camfanteisio rhywiol yn effeithio pobl o unrhyw oedran, rhywedd, hil, gallu neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae camfanteisio rhywiol ar blant a phobl ifanc yn weithgarwch gan unrhyw un sydd gyda grym dros bobl ifanc ac sy’n ei ddefnyddio er mwyn eu cam-drin yn rhywiol. Gall hyn gynnwys ystod eang o weithgarwch camfanteisio, o berthynas sydd i’w gweld yn ‘ganiataol’ a chyfnewid rhyw yn anffurfiol am sylw, lle i aros, anrhegion neu sigaréts, i droseddau difrifol a threfnedig. Mae hefyd yn cynnwys camfanteisio rhywiol gan gangiau.
Mae Llurgunio / Torri Organau Cenhedlu Merched yn cynnwys tynnu organau rhywiol merched yn rhannol neu yn gyfan gwbl neu anaf arall i organau cenhedlu merched am resymau anfeddygol.” Mae hon yn drosedd yn y DU hyd yn oed os ydy’r unigolyn wedi’u llurgunio dramor. Genethod ifanc sy’n cael y driniaeth fel arfer, o fabandod i oddeutu 15 mlwydd oed.
Mae trais ar sail ‘anrhydedd’ neu drosedd ‘anrhydedd’ yn drais a eglurir gan y cam-driniwr fel yn cael ei gyflawni er mwyn gwarchod neu amddiffyn ‘anrhydedd’ y teulu/cymuned. Mae merched ifanc yn fwyaf tebygol o brofi’r math hwn o drais lle synhwyrir eu bod wedi gweithredu tu allan i ymddygiad derbyniol gan gynnwys gwisgo colur, cael cariadon o du allan i’r teulu/ cymuned, beichiogi tu allan i briodas a gwrthod priodas dan orfod.
Mae priodi gorfodol yn un lle nad ydy un o’r pâr neu’r ddau yn caniatáu a heb y gallu i ganiatáu.
Mae priodi gorfodol yn wahanol i briodas wedi’i threfnu - y gwahaniaeth ydy bod unigolion yn dewis priodi mewn priodas wedi’i threfnu hyd yn oed os ydy eu teuluoedd yn chwarae rôl wrth ganfod eu cymar.
Gall rhai merched brofi cam-drin gan eu cymar neu deulu yng nghyfraith am beidio dod â digon o waddol (arian neu nwyddau) gyda nhw pan maent yn priodi.
Mae stelcian yn aflonyddu mynych sy’n achosi braw, gofid neu ddychryn i’r dioddefwr. Gall gynnwys galwadau ffôn, cyfryngau cymdeithasol, negeseuon e-bost, negeseuon testun a llythyrau bygythiol; difrodi eiddo; a dilyn neu ysbïo ar yr unigolyn.
Tynnu lluniau dan din ydy pan mae rhywun yn gosod offer o dan ddillad rhywun arall, gyda’r bwriad o alluogi eu hunain neu rywun arall i weld organau cenhedlu / pen ôl / dillad isaf yr unigolyn mewn amgylchiadau na fyddent fel arall yn eu gweld. Gwneir hyn er mwyn boddhad rhywiol neu er mwyn cywilyddio / dychryn / gofidio’r unigolyn.
Lluniau neu fideos dadlennol neu gignoeth rhywiol o rywun wedi’u cyhoeddi ar y rhyngrwyd, fel arfer gan gyn gymar rhywiol, heb ganiatâd yr un o dan sylw ac yn achosi gofid neu embaras iddynt.