Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru wedi lansio ei Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth newydd, sy’n amlinellu penderfynoldeb partneriaid i wneud popeth o fewn eu gallu, yn unigol a gyda’i gilydd, i ddileu unrhyw fath o hiliaeth ar draws y System Cyfiawnder Troseddol.
Enynnodd digwyddiadau yn 2020, gan gynnwys marwolaeth George Floyd a’r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, ymateb ar draws y byd, gan ein hatgoffa am bwysigrwydd adnabod a chydnabod bod anghydraddoldeb ac anghyfiawnder hiliol yn amlwg ar draws pob agwedd o fywydau pobl. Tynnodd hyn sylw at yr angen gwirioneddol i wasanaethau cyhoeddus ddiffinio’r her a mynegi’n glir ymateb ar y cyd ac ymrwymiad i newid gwirioneddol, ystyrlon a chynaliadwy.
Mewn ymateb, cytunodd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru mai blaenoriaeth allweddol ar gyfer ei ymrwymiad tuag at gydraddoldeb hiliol fyddai hyrwyddo, datblygu a gweithredu Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth penodol a thryloyw ar gyfer y System Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru.
Datblygwyd y cynllun er mwyn ategu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ym mis Mehefin 2022, sy’n cynnwys adran Trosedd a Chyfiawnder, er mwyn cefnogi ymateb system gyfan, un gwasanaeth cyhoeddus, tuag at gydraddoldeb hiliol. Rhoddodd yr ymagwedd hon gyfle i amlinellu sut y byddant yn mynd i’r afael â throseddau casineb a chydlyniant cymunedol, ac ar yr un pryd, esbonio sut y bydd eu cynllun yn gweithio’n ddi-dor â Chynllun Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol Cymru.
O’r cychwyn cyntaf, ymrwymodd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru i wrando ar brofiadau a lleisiau’r rhai o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, eu clywed, a’u cynnwys, er mwyn arwain datblygiad y ddogfen.
Mae hyn wedi gweld y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth yn esblygu dros gyfnod o 18 mis, gan gipio a sefydlu pob cam sydd angen er mwyn sicrhau newid gwirioneddol ar draws y System Cyfiawnder Troseddol. Mae hyn wedi cynnwys dros 600 aelod o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn helpu i gyd-gynhyrchu cynllun sy’n cydnabod y dirwedd unigryw yng Nghymru ac sydd wir yn bodloni anghenion ein cymunedau.
Gyda chefnogaeth Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru, heddiw, mae Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru hefyd yn cyhoeddi cyflwyno Panel Goruchwylio ac Ymgynghori Annibynnol newydd ar gyfer goruchwylio cynnydd y Cynllun. Mae’r Panel yn cynnwys 12 aelod o bob cwr o Gymru, sydd â chefndiroedd proffesiynol amrywiol a phrofiad byw, ar gyfer craffu. Yn hollbwysig, byddant yn dal y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol i gyfrif am gyflenwi’r Cynllun. Bydd y Panel yn chwarae rhan hollbwysig o ran sicrhau bod uchelgeisiau’r cynllun yn cael eu gwireddu, gan ddwyn y newid gofynnol i holl lefelau’r System Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru.
Gan siarad am y Cynllun, dywedodd Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru:
“Rwy’n teimlo’n freintiedig ac yn falch, yn broffesiynol ac yn bersonol, fy mod i wedi arwain y gwaith o ddatblygu’r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth blaengar hwn, ochr yn ochr â’m cydweithwyr, y Prif Gwnstabl Pam Kelly a Chris Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi.
“Rwy’n deall ac yn rhannu rhwystredigaeth pobl o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig o ran y diffyg newid hyd yn hyn, ynghyd â gwadu yn y gorffennol bod angen newid. Gan hynny, rwy’n benderfynol o ddefnyddio’r Cynllun hwn, a’m swydd, i sicrhau nad yw pobl sy’n defnyddio’r System Cyfiawnder Troseddol yn profi unrhyw fath o hiliaeth.
“Roedd fy nghydweithwyr yn y maes cyfiawnder troseddol a minnau’n glir o’r cychwyn y byddai’r cynllun hwn yn cael ei ysgrifennu gyda phobl o leiafrifoedd ethnig ledled Cymru, ac yn cael ei gyflwyno ar eu cyfer. Cynhaliom yr ymrwymiad hwn, gan ymgysylltu â dros 600 o unigolion drwy gydol ei ddatblygiad, ac rwy’n hyderus bod gennym gynllun yn awr sy’n onest, yn dryloyw, ac yn atebol i’n cymunedau.”
Ychwanegodd Amy Rees, Cadeirydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru:
“Gwelodd digwyddiadau yn 2020 bobl ar draws y byd yn dod at ei gilydd i brotestio yn erbyn hiliaeth, â gwahaniaethau o fewn y system cyfiawnder troseddol yn ganolog i’r alwad am newid. Mae hiliaeth yn staen cywilyddus ar wead ein cymdeithas, ac mae angen inni gael gwared arno gyda’n gilydd.
“Ymatebodd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru’n gyflym, gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i gynhyrchu cynllun sy’n ategu eu dyhead ar gyfer Cymru Wrth-hiliol. Mae’r ymrwymiad cyfunol hwn mor bwysig oherwydd gallwn ond dileu hiliaeth o’r System Cyfiawnder Troseddol os wnawn ni ymrwymo i’w dileu o’r gymdeithas gyfan.
“Gwyddwn nad Cynllun Gweithredu Gwrth-hiiliaeth Cymru yw’r cyntaf i wneud datganiadau uchelgeisiol ynghylch mynd i’r afael â hiliaeth, ond o’r cychwyn cyntaf, yr ydym wedi addo i gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig y byddwn yn adeiladu’r cynllun gyda nhw, ac y byddai ei lwyddiant yn cael ei benderfynu ganddyn nhw. Bydd sefydlu’r Panel Goruchwylio ac Ymgynghori Annibynnol yn darparu’r craffu sy’n ein dal i gyfrif, gan sicrhau y gellir gweld a theimlo’r gwahaniaeth ar draws pob lefel o’r System Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru.”
Dywedodd Chantal Patel, Cadeirydd y Panel Goruchwylio ac Ymgynghori newydd:
“Braint a balchder o’r mwyaf i mi yw cael fy mhenodi’n Gadeirydd y Panel Ymgynghorol Annibynnol, ac mae’n dda gennyf ein bod ni’n trin mynd i’r afael â hiliaeth o ddifri, gan gydweithio gydag aelodau o’r gymuned i godi ymwybyddiaeth o anghydraddoldeb hiliol a mynd i’r afael ag ef.
“Mae’n glir bod angen inni gydnabod a mynd i’r afael â’r or-gynrychiolaeth bresennol o bobl o leiafrifoedd ethnig a hiliol yn y System Cyfiawnder Troseddol, a gyda’n gilydd, mae angen inni weithio’n ddiflino i’w thrawsnewid fel ei bod yn bodloni anghenion lleiafrifoedd ethnig yn ogystal â chynrychioli pobl o bob cefndir ethnig.
“Mae fy nghyd-aelodau a minnau’n benderfynol o sicrhau bod y Panel Goruchwylio ac Ymgynghori Annibynnol yn darparu her adeiladol ac onest o gwmpas cyflenwi’r Cynllun er mwyn sicrhau bod newid gwirioneddol yn cael ei wireddu.”