Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT) yn elusen diogelwch cymunedol sy’n cynorthwyo mentrau cymunedol sy’n annog amgylchfyd mwy diogel i bobl Gogledd Cymru. Ers iddo gael ei lansio yn 1998, mae PACT wedi noddi prosiectau llawr gwlad a rhaglenni addysg mawr sy’n dod â phobl a sefydliadau at ei gilydd, gan greu amgylchfyd diogel i bawb yn y pen draw.
Mae grwpiau cymunedol a gwirfoddol yn gallu ymgeisio am gymorth i drefnu prosiectau, mewn partneriaeth â’u tîm plismona lleol, sy’n anelu i leihau trosedd ac ofn o drosedd yn eu cymuned leol.
Mae Clwb Rygbi Bangor wedi cael anrheg Nadolig cynnar wedi'i ddanfon i'w tîm dan 7 oed newydd sef crysau tîm newydd a brynwyd gydag arian PACT.
Y tymor hwn, mae'r clwb wedi dechrau tîm dan 7 oed newydd mewn menter i roi'r cyfle i aelodau iau'r gymuned i fod yn rhan o dîm a chymryd rhan mewn gweithgareddau trefnedig.
Dywedodd Cadeirydd yr Adran Fach: "Bob wythnos rwyf yn gweld o lygad y ffynnon yr effaith y gall bod yn perthyn i dîm ei gael ar blant o oedran cynnar a pha mor hapus mae'r plant wrth chwarae rygbi. Mae rygbi'n magu dewrder, ffitrwydd a chydberthynas gan ddod â bechgyn a genethod o bob cefndir at ei gilydd. Mae'n chwaraeon perffaith oherwydd ei fod wedi'i seilio ar waith tîm a pharch. Mae gan Glwb Rygbi Bangor hanes o ddysgu sgiliau tîm, rhyngweithio cymdeithasol, sgiliau cyfathrebu, parch a hunanddisgyblaeth i blant.
"Mae gan y clwb bron i 200 o blant yn chwarae yn y clwb yn rheolaidd. Mae'r cymorth a roddir gan PACT yn rhoi opsiwn i'r tîm newydd hwn i gymryd rhan mewn rhywbeth newydd neu barhau gyda gwella sgiliau. Gobeithio bydd hyn yn parhau i genedlaethau eraill elwa ohono."
Elusen diogelwch cymunedol yw Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned sy'n cefnogi prosiectau sy'n cael eu harwain gan y gymuned sy'n annog amgylchfyd mwy diogel er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl Gogledd Cymru.
Mae’r gwirfoddolwr ar ran PACT, Sarah Rogers wedi casglu a rhoi rhoddion i apêl sachau cefn Wrecsam ar ran Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned (PACT).
Mae'r apêl sachau cefn wedi ei drefnu ar gyfer gaeaf 2020 a'r nod yw casglu sachau cefn yn llawn dillad cynnes, deunyddiau glanhau a hylendid a rhoddion bach er mwyn goroesi'r gaeaf. Bydd y rhoddion yn cael eu rhoi i'r di-gartref ar draws Wrecsam a Chaer yn ogystal â gwersylloedd ffoaduriaid ar draws Ewrop. Croesawir rhoddion ar gyfer pob oed.
Ceir nifer o flychau ar draws Wrecsam a Chaer i chi gael gollwng eich rhoddion a fydd wedyn yn cael eu dosbarthu i'r di-gartref.
Dywedodd Sarah Harding, gwirfoddolwr PACT: “Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd i bawb. Mae nifer ohonom yn ddigon ffodus i fod â tho uwch ein pennau ac yn gallu mwynhau prydau bwyd wrth ein byrddau. Nid oes neb yn gwybod pryd y gall ein hamgylchiadau newid yn annisgwyl ac ni ddylid cymryd unrhyw beth yn ganiataol.
"Mae hyd yn oed yn fwy pwysig gorffen y flwyddyn hon ar nodyn positif drwy wneud rhywbeth gwerth chweil a gwneud gwahaniaeth i fywyd rhai sy'n llai ffodus na ni."
Mae'r cynllun yn rhedeg tan 20 Rhagfyr ac mae angen gwirfoddolwyr i drefnu'r rhoddion a dosbarthu'r sachau cefn i bobl erbyn y Nadolig.
Os oes diddordeb gennych mewn cymryd rhan cysylltwch drwy e-bost at [email protected]
Wrecsam:
Caer:
Mae SCCH Mark Holland wedi rhoi arian PACT i raglen pontio'r cenedlaethau Cyngor Gwynedd.
Bydd yr arian yn mynd tuag at brosiect Nadolig ym Mhenygroes a fydd yn gweld hyd at 200 o blant lleol yn defnyddio eu sgiliau artistig i wneud anrhegion Nadolig. Mae'r rhain yn cynnwys lluniau wedi'u fframio a roddir i drigolion Cartref Gofal Plas Gwilym.
Nod y prosiect hwn yw pontio'r bwlch rhwng y cenedlaethau a chreu perthynas rhwng pobl ifanc a hŷn yn y gymuned. Gobeithir y bydd y prosiect yn esgor ar brosiectau pontio'r cenedlaethau eraill, gan gynorthwyo i hybu ysbryd a balchder cymunedol yn yr ardal.
Dywedodd Judith Humphreys o Gyngor Gwynedd: “Diolch yn fawr iawn i Heddlu Gogledd Cymru am eu cefnogaeth tuag at brosiect sy'n dod â rhaglen Pontio'r Cenedlaethau Cyngor Gwynedd, Gwasanaethau Ieuenctid Gwynedd, pobl ifanc Ysgol Dyffryn Nantlle a phreswylwyr cartref gofal Plas Gwilym.
“Bydd y grant yn cefnogi cynllun lle bydd pobl ifanc yn creu anrhegion Nadolig ar gyfer preswylwyr Cartref Plas Gwilym. Dyma brosiect sy’n dod â’r cenedlaethau ynghyd mewn modd sydd yn cryfhau gwead y gymuned. Diolch o galon!”
Elusen diogelwch cymunedol yw Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned sy'n cefnogi prosiectau sy'n cael eu harwain gan y gymuned sy'n annog amgylchfyd mwy diogel er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl Gogledd Cymru.
Mae Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned wedi cynorthwyo clwb rygbi gallu cymysg Stingrays Bae Colwyn gyda grant o £1500 er mwyn ariannu cit ac offer tîm newydd. Cyflwynodd David Wynne-Finch, Uchel Siryf Clwyd, y cit i'r clwb yr wythnos ddiwethaf.
Mae Stingrays Bae Colwyn yn glwb rygbi gallu cymysg wedi'i addasu i bobl gydag anableddau ac sy'n 14 oed a hŷn. Hwn yw'r unig glwb gallu cymysg yng Ngogledd Cymru felly daw chwaraewyr o ardal eang, o Lannau Dyfrdwy i Ddolgellau, i chwarae fel rhan o'r tîm.
Mae Undeb Rygbi Cymru yn gefnogol o ran cynnal digwyddiadau a chynorthwyo gyda marchnata'r gêm gallu cymysg, er mae'r Stingrays yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr. Maent yn cynorthwyo gyda chludo a gofalu am yr aelodau fel y gallent gymryd rhan.
Yn flaenorol roedd rhaid i'r tîm orfod dibynnu ar fenthyg eu cit gan dimau eraill. Ond byddant bellach yn gallu ymfalchïo chwarae yn eu crysau newydd, gan gynorthwyo i roi hunaniaeth i'r clwb, hwb i'r hunan hyder a rhoi ymdeimlad o berthyn i gymuned i'w aelodau. Anogir hefyd mwy o bobl i ymuno.
Dywedodd yr Arolygydd Dafydd Curry, a gefnogodd y cais grant: "Mae'r clwb hwn yn adnodd gwerthfawr i oedolion ifanc gydag anableddau sy'n cael trafferth cymryd rhan mewn llawer o bethau cymdeithasol eraill. Rwyf wedi gweld sut mae wedi trawsnewid llawer o'i aelodau.
"Mae'r math hwn o amgylchfyd yn hanfodol i bobl ifanc, yn enwedig y rhai hynny sy'n fregus o ran problemau ymddygiad neu iechyd meddwl a all fel arall fod yn agored i droi at Ymddygiad Gwrthgymdeithasol neu drosedd.
"Yn ddi-os bydd hyn yn cyfeirio rhai pobl ifanc at beidio cael eu denu i'r system cyfiawnder troseddol a bydd yn lleihau galw ar yr heddlu.
"Mae'r clwb yn rhoi amgylchfyd therapiwtig a chynorthwyol iddynt a fydd yn eu galluogi i ddatblygu eu hyder a ffurfio cysylltiadau cadarnhaol gyda rhai eraill yn y tîm a gwirfoddolwyr. Mae'n wych bod PACT Gogledd Cymru yn gallu eu cynorthwyo."
Dywedodd David Wynne Finch, Uchel Siryf Clwyd:
"Roeddwn yn falch o gael gwahoddiad i weld drosof fy hun y gwaith aruthrol a hanfodol mae Stingrays yn ei wneud i gynorthwyo pobl ifanc drwy bêl droed rygbi. Rwyf yn hynod falch fod Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned wedi gallu cynorthwyo'r clwb a chyflwyno'u cit newydd iddynt. Rhaid i fi hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r tîm o wirfoddolwyr a arweinir gan Daf Curry sy'n rhedeg y clwb."
Elusen diogelwch cymunedol yw Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned (PACT) sy'n ceisio a chefnogi prosiectau sy'n annog amgylchfyd mwy diogel er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl Gogledd Cymru.