Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym angen bod yn sicr ein bod ni yn recriwtio pobl o’r radd flaenaf, felly mae ein proses ymgeisio yn cynnwys sawl cam heriol.
Hyd yn oed pe byddech yn llwyddo i gyflawni nhw i gyd nid yw hyn yn gwarantu y byddwch yn cael cynnig swydd gennym. Mae’n rhaid i ni gael cydbwysedd rhwng gofynion gweithredol yr Heddlu a nifer y swyddi gwag.
Darllenwch y nodiadau canllaw sydd o fewn y ffurflen gais (PDF) a gwnewch yn sicr bod y ffurflen wedi’i llenwi’n llawn – os oes unrhyw beth ar goll fydd y broses yn cael ei harafu, neu efallai bydd eich cais yn cael ei wrthod.
Mae gan Heddlu Gogledd Cymru hysbyseb agored ar gyfer trosglwyddai ac yn recriwtio ddwywaith y flwyddyn. Cysylltwch â ni i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys.
Gofynnir am y wybodaeth ganlynol:
Rydym yn awgrymu eich bod yn cadw copi o’r ffurflen wedi’i chwblhau er mwyn cyfeirio ati yn y dyfodol.
Darllenwch y sleidiau hyn yn ofalus.
Dyma yw cam cyntaf y broses ddethol.
Wedi i chi gwblhau eich ffurflen gais byddwn yn adolygu'r wybodaeth ac eich tystiolaeth FfGG.
Os ydych yn llwyddo yn y Gwiriad Addasrwydd Cychwynnol ac mae'r heddlu am recriwtio eich sgiliau arbennig ynghyd â'ch gwybodaeth a phrofiad byddwch yn mynd ymlaen i gael cyfweliad.
Rhowch sylw penodol i’ch sillafu a’ch gramadeg oherwydd bydd hyn yn cael ei asesu hefyd.
Byddwch yn derbyn gwahoddiad i fynd i gyfweliad cychwynnol gallu a gwerthoedd i gael eich asesu yn erbyn Fframwaith Gallu a Gwerthoedd ar lefel priodol i'ch rheng.
Bydd y cyfweliad yn para hyd at 45 munud a bydd yn seiliedig ar ar Fframwaith Gallu a Gwerthoedd (PDF - Saesneg yn unig) ac eich ymchwil i Heddlu Gogledd Cymru.
Rydym yn hyblyg o ran yr iaith a ddefnyddir yn y cyfweliad. Bydd angen i chi roi gwybod i ni os byddwch eisiau siarad yn Gymraeg neu Saesneg neu gyfuniad o'r ddau os yw hynny'n haws i chi. Nid yw'r cyfweliad yn brawf o'ch sgiliau Cymraeg.
Os ydych yn llwyddo yn y broses gyfweld, byddwch yn symud ymlaen i gam Cynnig Amodol y broses.
Mae'r adrannau canlynol yn amlinellu'r gwiriadau cyn cyflogi a fydd yn digwydd fel rhan o'r broses recriwtio trosglwyddai.
Bydd y rhai sy'n llwyddiannus yn y gwiriadau cyn cyflogi yn cael cynnig ffurfiol ac yn symud ymlaen at ddyddiad derbyn.
Bydd dewisiadau lleoliad yn cael eu hystyried. Serch hynny, nodwch tra bydd eich arbenigedd yn eich rôl gyfredol yn cael eu hystyried wrth leoli swyddi rhaid i ni hefyd ateb galw gweithredol ac felly ni allwn warantu eich lleoliad o ddewis.
Os nad ydych yn gallu derbyn y lleoliad cyntaf sy'n cael ei gynnig i chi, mae'n bosib y bydd lleoliad arall yn cael ei ystyried ond ni ellir gwarantu hyn. Os nad ydych yn gallu derbyn lleoliad ar ôl hyn bydd eich cais yn cael ei ddal yn ôl.
Yma yn Heddlu Gogledd Cymru rydym yn annog ein staff a'n swyddogion i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd.
Gofynnwn felly i bob recriwt swyddog heddlu newydd ddangos sgiliau sylfaenol yn y Gymraeg (lefel 2).
Bydd yr adolygiad yn digwydd yn anffurfiol gyda siaradwr Cymraeg hynaws. Rydym yn cynnig cymorth ac arweiniad i'ch cynorthwyo i gyrraedd y lefel angenrheidiol.
Mae gennym hefydadnoddau dysgu ar-lein a all eich cynorthwyo chi gyda'ch dysgu. Dalier sylw ei fod yn adolygiad ar lafar - nid oes prawf ysgrifenedig.
Os ydych yn siaradwr Cymraeg rhugl, neu wedi mynychu ysgol Gymraeg, ni fydd angen i chi gwblhau'r adolygiad. Bydd hyn yn cael ei gadarnhau yn ystod y broses.
Byddwch yn derbyn e-bost gan ein system fetio i gwblhau ffurflenni fetio fel rhan o'n gwiriadau. Sicrhewch eich bod yn cwblhau'r wybodaeth ar unwaith er mwyn sicrhau nad oes oedi
Byddwn yn cysylltu â'ch heddlu cyfredol i gael geirda ganddynt. Ni fyddwn yn cysylltu gyda nhw heb eich caniatâd.
Gofynnir i chi gyfathrebu gydag eich heddlu cyfredol am eich olion bysedd a sampl DNA er mwyn iddo gael ei drosglwyddo draw atom ni a'i storio at Gronfa Ddata Dileu'r Heddlu. Bydd gofyn i chi ddod i Bencadlys yr Heddlu yn ystod y cyfnod cyn cyflogi i ymgymryd â phrawf cyffuriau.
Nid yw plismona erioed wedi bod yn waith hawdd. Bydd gofyn i chi ymdrin ag amrywiol sefyllfaoedd a fydd yn cynnwys gorchwylion heriol yn gorfforol.
Byddwch angen nerth, ystwythder a stamina i ymdrin yn effeithiol â sefyllfaoedd ynghyd ag amddiffyn eich hun a phobl eraill. Byddwch hefyd angen bod yn heini i drin offer yr heddlu'n ddiogel a gweithio sifftiau.
Mae'r prawf ffitrwydd yn ffordd i ni sicrhau eich bod yn ddigon heini i ymdrin â gofynion y swydd.
Dysgwch mwy am beth yw’r prawf (PDF).
Byddwch wedi derbyn holiadur hanes meddygol a ffurflen optegydd. Mae'n rhaid i'ch meddyg teulu a'ch optegydd lenwi'r holiadur a'r ffurflen golwg – mae'n bosib y byddwch yn gorfod talu am hyn a gall gymryd hyd at 4 wythnos iddynt eu dychwelyd.
Wedi i'r broses recriwtio gael ei chwblhau ac i'r gwiriadau gael eu clirio, byddwn yn dechrau ar y dyddiad derbyn perthnasol. Bydd yr wythnosau cyntaf yn cynnwys hyfforddi, a byddwn yn ystyried eich hyfforddiant unigol.
Dychwelwch eich ffurflen gais wedi cwblhau at:
Adran Recriwtio
Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru
Glan-y-Don
Bae Colwyn
LL29 8AW
Neu e-bostiwch [email protected]