Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn awyddus i recriwtio'r Trosglwyddedigion canlynol:
Am fwy o wybodaeth ebostiwch, e-bostiwch Hannah Roberts at: [email protected]
Yn ogystal ag ymuno â sefydliad deinamig a blaengar bydd yn gyfle i chi weithio mewn ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol. Gyda chymysgedd o gymunedau gwledig a dinesig byddwch yn wynebu amrywiaeth eang o wahanol heriau o ddydd i ddydd.
Mae Gogledd Cymru yn un o’r mannau mwyaf diogel i fyw yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn gwasanaethu 676,000 o bobl mewn ardal sy’n ymestyn dros 6,300 cilomedr sgwâr. Fel sefydliad o safon uchel mae Heddlu Gogledd Cymru yn mynd ati’n barhaus i wella’r gwasanaeth a ddarperir i’n cymunedau amrywiol.
Edrychwch ar ein pecyn gwybodaeth Heddlu Gogledd Cymru (PDF).
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ardal sy’n amrywiol o ran diwylliant ac er mwyn sicrhau bod ein gwasanaeth yn cynrychioli’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu fe wahoddir ceisiadau gan yr holl grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
Yn ychwanegol at y profion recriwtio arferol – cyfweliad, ffitrwydd, meddygol, diogelwch ac ati ac yn unol â Chynllun Iaith Gymraeg yr Heddlu, bydd yr holl benodiadau yn amodol ar allu arddangos sgiliau iaith Gymraeg Sylfaenol a chyrraedd gallu lefel 2.
Ystyr hyn yw gallu deall hanfod sgwrs yn Gymraeg, gallu cyfleu gwybodaeth sylfaenol a rhoi cyfarwyddiadau yn Gymraeg. Er mwyn eich cefnogi chi i wneud hyn mae'r Heddlu wedi cynhyrchu pecyn hunan ddysgu sydd ar gael drwy fynd i Adran Adnoddau Dysgu Iaith Gymraeg.
Rydym yn cydnabod, er bod amrywiaeth ein staff yn gwella, nad ydym yn gwbl gynrychioliadol eto ac rydym yn ceisio mynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn drwy roi cefnogaeth Gweithredu Cadarnhaol.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ewch at ein tudalen gweithredu cadarnhaol neu fel arall cysylltwch â'r tîm gweithredu cadarnhaol yn [email protected].