Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Un o'r swyddi mwyaf heriol sy'n bodoli yw bod yn swyddog heddlu, yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol.
Beth am wneud y cwis 'ydy plismona yn iawn i mi' i weld os yw rôl yn yr heddlu yn addas i chi?
Rydym yn recriwtio pobl i astudio ar gyfer gradd neu ddiploma graddedig gan dderbyn hyfforddiant i fod yn swyddog heddlu ar yr un pryd. Dewch i wybod mwy am y rhaglen swyddog fyfyriwr.
Drwy ein cwrs hyfforddi cynhwysfawr byddwch yn dysgu:
Byddwch yn derbyn cyflog cychwynnol o £29,907 ac yn gweithio sifftiau o 40 awr yr wythnos, o ganlyniad:
Bydd eich cyfnod hyfforddiant yn dibynnu ar ba lwybr mynediad y byddwch yn ymuno er bod pob llwybr yn dilyn yr un fframwaith yn y flwyddyn gyntaf. Mae'r hyfforddiant wedi ei rannu'n nifer o flociau gorfodol gyda dull cymysg o ddysgu. Mae'r modiwlau yn rhyngweithiol gyda sesiynau holi ac ateb yn ogystal â chwarae rôl a sesiynau ymarferol i'ch cynorthwyo i ddysgu. Byddwn yn rhoi digon o gefnogaeth academaidd gan hyfforddwyr heddlu a darlithwyr prifysgol.
Mae gan bob llwybr 22 wythnos o hyfforddiant yn y dosbarth a byddwch yn dysgu am nifer o agweddau o blismona a chael hyfforddiant ym maes Trosedd, Traffig a dyletswyddau Plismona Cyffredinol.
Cwrs Gyrru
Nid oes rhaid bod trwydded yrru lawn gennych pan fyddwch yn gwneud eich cais ond rhaid i chi basio eich prawf a chael trwydded yrru lawn cyn y gallwn gynnig lle i chi. Ar ôl y dysgu yn y dosbarth, cewch wahoddiad i fynychu cwrs gyrru lle byddwch yn dysgu sgiliau crefft y ffordd fawr.
Seremoni Cwblhau Hyfforddiant
Yma byddwch yn derbyn eich tystysgrif gan Brif Swyddog. Mae'n foment arbennig i chi a'ch cyfoedion i rannu eich llwyddiant gyda'ch gilydd a gyda ffrindiau a theulu.
Tiwtora
Wedi i chi gael eich gosod yn eich lleoliad, byddwch yn cael eich mentora gan diwtor swyddog am 12 wythnos. Byddwch yn defnyddio'r hyn yr ydych wedi’i ddysgu ac yn adeiladu ar sgiliau newydd.
Cewch weld y gofynion cymhwysedd ar wefan y Coleg Plismona, neu o fewn Dogfen PDF meini prawf cymhwysedd ar gyfer rôl swyddog heddlu (Saesneg yn unig).
Bydd hyd eich cyfnod prawf yn dibynnu ar eich llwybr mynediad i Heddlu Gogledd Cymru.
Bydd eich cyfnod fel swyddog ar brawf yn llawn profiadau newydd a heriol. Bydd llawer i ddysgu ond byddwn yn eich cefnogi pob cam o'r ffordd.
Drwy gydol eich cyfnod prawf byddwch yn dychwelyd i'r dosbarth, naill ai yn Heddlu Gogledd Cymru neu ym Mhrifysgol Bangor i ddysgu sgiliau newydd a chwblhau gwaith cwrs ac aseiniadau academaidd. Bydd disgwyl i chi adolygu'r pynciau yn eich amser eich hun hefyd.
Byddwch yn cael dau gyfnod o wyliau pythefnos o hyd yn ystod eich hyfforddiant. Ar wahân i hynny, ni fyddwch yn cael gwyliau yn ystod y cyfnod cychwynnol hwn. Ym mlwyddyn 2 a 3 bydd gennych fwy o ryddid i ddewis pryd yr hoffech gael seibiant er ni fyddwch yn cael cymryd gwyliau yn ystod eich cyfnod o ddysgu ffurfiol.
Mae mwy o lwybrau i ddod yn swyddog heddlu nawr ar gael – dewch i wybod mwy am y llwybrau mynediad gwahanol sydd ar gael.
Unwaith y byddwch wedi pasio’ch cyfnod prawf, mi fydd gennych nifer o opsiynau.
Parhau fel Cwnstabl
Gallwch barhau gyda’r rôl hon – mae hynny’n holl iawn gyda ni. Fel y gwyddoch, ar ôl dwy flynedd, mae’n rôl mor amrywiol fel nad oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath – does dim perygl y byddwch chi’n diflasu!
Ennill sgiliau ychwanegol
Mi allech chi hefyd ennill sgiliau a chymwysterau ychwanegol, gan barhau i fod yn Gwnstabl. Mae yna gyfleoedd i ddysgu am bynciau amrywiol megis casglu tystiolaeth, cysylltu â phrotestwyr neu ddefnyddio gwn Taser, ac yna gallwch ddefnyddio’r sgiliau hynny ochr yn ochr â’ch gwaith bob dydd. Yn dibynnu ar eich cyfuniad o sgiliau, mi allech chi ychwanegu Swyddog Cyswllt Teuluol, Cynghorwr Tactegol, Swyddog Chwiliadau neu amryw o rolau eraill i’ch cofnod proffesiynol.
Dringo’r rhengoedd
Mi allech chi fod yn ysu i osod her i chi’ch hun trwy symud ymlaen i fod yn Rhingyll. Os felly, mae angen ichi fynd ati i astudio. Mae Fframwaith Dyrchafiadau Cenedlaethol yr Heddlu yn broses pedwar cam ar gyfer cwnstabliaid sydd am gael dyrchafiad, sy’n cynnwys arholiad cyfreithiol tair awr ac asesiad sy’n seiliedig ar waith. Os byddwch chi’n pasio bob un o’r pedwar cam, yna yn ogystal â chael dyrchafiad, gallwch ychwanegu cymhwyster proffesiynol ym maes rheolaeth yr heddlu at eich CV.
Symud i rôl arbenigol
A oes gennych chi ddiddordeb arbennig yr hoffech chi ganolbwyntio arno? Cadwch olwg am swyddi gwag mewn unedau arbenigol fel y CID, Plismona Ffyrdd, Drylliau Tanio neu Seiberdroseddu. Mae yna gystadlu brwd am y llefydd prin hyn, felly ystyriwch wneud cais am secondiad proffesiynol ymlaen llaw i ddysgu mwy cyn gwneud penderfyniad.