Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Pan fyddwch yn gwneud cais i Heddlu Gogledd Cymru fel Swyddog Heddlu byddwch yn cwblhau sawl cam. Disgwylir i bob ymgeisydd lwyddo ar bob cam o'r broses i gael eu recriwtio fel Swyddog Heddlu.
Rydym yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal ac rydym wedi ymroi i ddenu, cefnogi a datblygu cynrychiolaeth weithlu'r cymunedau yr ydym yn eu plismona a'u gwasanaethu. Rydym yn ceisio sicrhau fod pob arfer personél yn cynnwys recriwtio yn cael eu gweithredu'n gyson ac yn deg ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff sy'n rhan o'r broses recriwtio rannu'r ymrwymiad hwn.
Felly, drwy gydol y broses recriwtio, mae'r aelodau staff ac aseswyr sy'n rhan o'r broses yn cael eu hyfforddi i'r safon uchaf, yn sicrhau bod egwyddorion y Ddeddf Cydraddoldeb yn cael eu dilyn. Cefnogir hyn drwy ein hyfforddiant Safonau Ymarfer a Rhagfarn Ddiarwybod sy'n cael ei gyflwyno i'n holl aseswyr.
Mae cymorth Gweithredu Positif ar gael i grwpiau o bobl sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli o ran rolau Swyddogion Heddlu. Mae hyn yn cynnwys pobl Ddu, Asiaidd neu o gefndiroedd Ethnig Lleiafrifol eraill, pobl anabl, pobl LHDT+, pobl o grwpiau lleiafrifol crefyddol a merched.
Mae llinellau amser recriwtio o ymgeisio i benodiad yn amodol ar wiriadau cyn cyflogaeth a dyddiadau dechrau sydd ar gael. Ar ddiwedd pob cam o'r broses cewch wybod a ydych wedi bod yn llwyddiannus neu beidio ynghyd a ydych yn gymwys i symud ymlaen i'r cam nesaf. Gwnawn drafod y dyddiadau dechrau sydd ar gael gyda chi fel y gallwch drefnu'n unol â hynny.
Mae'n bwysig eich bod yn ystyried os hoffech wneud cais am drefniadau y bydd yn gymorth i gwblhau'r broses ddethol. Er enghraifft, yng nghyswllt anabledd, dyslecsia, anawsterau dysgu, beichiogrwydd, menopos, crefydd neu ffydd, anafiadau ayb.
Bydd unrhyw gais ar gyfer addasiadau rhesymol yn cael ei ystyried a'i drefnu cyn belled ag y sydd yn bosib. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei gadw'n gyfrinachol. Os oes angen addasiadau rhesymol arnoch, cysylltwch â'r Tîm Recriwtio ar [email protected]
Mae'n bosib eich bod yn gymwys ar gyfer Gweithredu Positif sy'n gallu rhoi cefnogaeth drwy gydol y broses gais a dethol. Ewch i'r dudalen Gweithredu Positif i ganfod mwy.
Beth allwch chi ei wneud cyn ymgeisio
Gall y broses ymgeisio gymryd sawl mis i'w chwblhau. Fodd bynnag, mae digon y gallwch ei wneud i baratoi ar gyfer y broses a bod yn barod:
Mae eich iechyd a maeth yn bwysig ac nid ar gyfer y broses ymgeisio yn unig. Mae'r rôl yn heriol yn gorfforol, ac ni ddylech danbrisio pa mor bwysig yw hi i chi fod yn bwysau iach a bod â lefel dda o ffitrwydd.
Byddwch yn cael eich gwahodd am asesiad meddygol wyneb yn wyneb fel rhan o wiriadau cyn cyflogi, lle byddwch, fel rhan o'r adolygiad, yn cael gwirio eich pwysau a lefel y braster yn eich corff. Mae angen i'ch BMI fod rhwng 18-30 sef safon y Coleg Plismona. Rydym hefyd yn edrych ar ganran braster y corff.
Mae colli pwysau neu yn hytrach meinwe braster o dan eich rheolaeth a bydd yn dangos eich ymrwymiad. Gyda deiet iach a chytbwys ac ymarfer corff rheolaidd, gellir colli pwysau'n diogel mewn ychydig fisoedd.
Os nad ydych o fewn yr ystod BMI yn ystod y penodiad, ni fyddwn yn gallu bwrw ymlaen â'ch cais. Mae gan y GIG lawer o wybodaeth am BMI a byw'n iach y byddem yn eich annog i ymweld â hi cyn i chi wneud cais os ydych y tu allan i'r ystodau hyn ar hyn o bryd. Byddai'n drueni mynd i'r asesiad meddygol wyneb yn wyneb a pheidio â gallu symud ymlaen pan fyddwch wedi rhoi cymaint o waith caled ac ymdrech i mewn i'ch cais.
Nid yw plismona erioed wedi bod yn waith hawdd. Bydd gofyn i chi ymdrin ag amrywiol sefyllfaoedd a fydd yn cynnwys gorchwylion heriol yn gorfforol.
Byddwch angen nerth, ystwythder a stamina i ymdrin yn effeithiol â sefyllfaoedd ynghyd ag amddiffyn eich hun a phobl eraill. Byddwch hefyd angen bod yn heini i drin offer yr heddlu'n ddiogel a gweithio sifftiau.
Mae'r prawf ffitrwydd yn ffordd i ni sicrhau eich bod yn ddigon heini i ymdrin â galwadau'r swydd.
Mae'r prawf ffitrwydd yn cynnwys rhediad gwennol aml-ran, a elwir hefyd yn 'brawf blipio', sy'n brawf ffisegol o'ch capasiti aerobig (stamina). Mae'n golygu rhedeg rhwng dau bwynt sy'n 15 metr ar wahân ("gwennol"). Mae cyflymder pob gwennol wedi'i gysoni â thâp sain wedi'i recordio ymlaen llaw sy'n blipio ar gyfnodau penodol - ac yn cyflymu yn ystod y prawf.
Mae ein swyddogion yn cyflawni'r prawf hwn bob blwyddyn. Peidiwch â pharatoi ar gyfer y cais yn unig, mae plismona'n ffordd o fyw ac rydych chi am fod yn ffit ar gyfer pob sifft. Mae dal dihirod yn golygu y bydd angen i chi redeg ar eu hôl!
Dysgwch fwy am yr hyn mae'r prawf yn ei gynnwys (PDF)
Byddwch yn cael holiadur meddygol i'w gwblhau. Bydd gofyn i chi gwblhau a dychwelyd hyn o fewn saith diwrnod, mae'n ddefnyddiol cael eich holl wybodaeth feddygol yn barod ar gyfer pan fyddwch yn ei llenwi.
Dewch a'r canlynol gyda chi i'r asesiad meddygol wyneb yn wyneb:
Byddai'n ddefnyddiol pe bai gennych unrhyw adroddiadau arbenigol neu wybodaeth meddyg eich bod yn paratoi'r rhain yn barod ar gyfer eich apwyntiad meddygol. Po fwyaf o wybodaeth sydd gan y tîm y cyflymaf y gallant ddatblygu eich ffeil.
Rydym ddim yn recriwtio ar hyn o bryd
Rydym yn cynnal sesiynau rheolaidd yn dangos i chi beth yw rôl PC, beth yw’r broses ymgeisio a pha gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli. Ewch i’n tudalen ddigwyddiadau i ganfod mwy.
Mae ymgeiswyr llwyddiannus wedi darganfod bod mynychu'r sesiynau ymgyfarwyddo ar-lein wedi eu helpu i ddysgu mwy am yr hyn sydd ei angen yn y profion, yr asesiadau ar-lein ac yn y cyfweliad. Rhowch y cyfle gorau i chi eich hunan i lwyddo.
Gallwch gwblhau'r ffurflen gais ar unrhyw declyn sydd â'r rhyngrwyd gyda chamera (gliniadur, llechen neu ffôn). Er mwyn sicrhau cydnawsedd llawn gyda'r llwyfan ar-lein, dylai'r canlynol gael ei osod:
Os nad oes gennych gymhwyster lefel 3 (mwy o wybodaeth yma Y Lefelau Cymhwysterau: Cymru, Lleogr a Gogledd Iwerddon - GOV.UK (www.gov.uk)), bydd angen i chi gwblhau prawf rhifyddeg a phrawf resymu ar lafar. Dim ond ar gyfrifiadur gellir gwneud y profion hyn.
Os nad oes gennych gyfrifiadur, cysylltwch â [email protected] a gallwn drefnu i chi fynd i'r swyddfa ym Mae Colwyn i wneud y profion hyn. Bydd hyn yn digwydd ar sail apwyntiad yn unig.
Os byddwch yn llwyddo yn y profion hyn, byddwch yn symud ymlaen i gwblhau'r ffurflen gais ar-lein.
Gan nad oes rhaid i chi gwblhau'r cais i gyd mewn un sesiwn, os gwnaethoch y prawf rhifyddeg a'r prawf llafar ar gyfrifiadur gallwch gadw eich rhaglen a gwneud y gweddill ar dabled neu ffôn.
Bydd rhan gyntaf o'r broses yn gofyn cwestiynau er mwyn penderfynu os ydych yn gymwys i wneud cais.
Os ydych yn gymwys, fe gewch eich tywys drwy'r broses ymgeisio. Yn gyntaf, fe fydd rhai profion ar-lein. Bydd y rhain yn cynnwys Holiadur Dull Ymddygiad a Phrawf Barnu Sefyllfa. Sicrhewch eich bod â digon o amser cyn dechrau'r profion.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am y profion hyn yn y dogfennau arweiniad hyn:
Os nad oes gennych gymhwyster Lefel 3 neu uwch, rhaid i chi hefyd lwyddo prawf seicometreg (Rhesymu Llafar a Chyfrifyddu). Bydd hyn yn profi eich gallu academaidd i Lefel 3. Os byddwch yn llwyddo yn y profion hyn, byddwch yn symud ymlaen i gwblhau'r ffurflen ar-lein.
Nid oes rhaid i chi gwblhau'r holl ffurflen mewn un sesiwn. Gallwch gadw eich cynnydd wrth i chi fynd ymlaen. Pan fyddwn yn derbyn ein cais, byddwn yn gwirio eich addasrwydd a'ch ymateb ac os yw eich cais yn llwyddiannus byddwch yn cael eich gwahodd i fynd i ganolfan asesiad ar-lein.
Bydd y cais yn gofyn am gymhwysedd
Yn ystod y cam cymhwysedd byddwn yn sicrhau eich bod yn ateb pob maen prawf a grybwyllwyd yn flaenorol cyn parhau gyda'ch cais. Bydd y rhain yn cynnwys:
Os yw eich cais yn ateb y meini prawf cymhwysedd a'ch bod wedi lanlwytho'r dogfennau neu'r lluniau cywir, bydd eich cais yn symud ymlaen i gam nesaf y broses recriwtio.
Bydd angen gwybodaeth a dogfennau penodol arnoch pan fyddwch yn gwneud cais felly mae'n syniad da paratoi'r rhain yn barod:
Cewch wybod mwy am feini prawf cymhwysedd ar Wefan y Coleg Plismona.
Mae Fframwaith Cymhwysedd a Gwerthoedd (CVF) yn gosod yr ymddygiad y disgwylir gan unrhyw un sy'n gweithio ym maes plismona.
Beth yw proses asesu ar-lein y Coleg Plismona?
Mae proses asesu ar-lein y Coleg Plismona yn broses ar-lein ar gyfer recriwtio swyddogion heddlu. Mae'n gyfres o gamau yn cynnwys ymarferion sy'n profi cymwysterau a gwerthoedd allweddol sy'n bwysig ar gyfer swyddogion heddlu.
Beth mae proses asesu ar-lein Heddlu Gogledd Cymru yn ei gynnwys?
Proses gam wrth gam yw'r asesiad ar-lein sy'n cynnwys tri ymarfer.
Mae'r broses fel a ganlyn:
Nid oes angen gwybodaeth plismona neu wybodaeth flaenorol o'r rôl i gwblhau'r ymarferion. Gellir cael gwybodaeth bellach o'r proffil rôl swyddog heddlu ar wefan y Coleg Plismona.
Wedi i chi lwyddo yn eich cais, byddwn yn anfon yr holl fanylion sydd angen arnoch i gwblhau'r asesiad ar-lein.
Cewch wybod mwy am y broses asesiad ar-lein ar wefan y Coleg Plismona.
Byddwn yn ysgrifennu atoch pan fyddwn yn derbyn canlyniadau'r asesiad ar-lein ac os ydych yn llwyddiannus byddwch yn derbyn gwahoddiad i gael cyfweliad.
Byddwch yn cwrdd â phobl eraill sy'n gweithio i Heddlu Gogledd Cymru ac mae'n gyfle da i ni gwrdd â chi. Mae hyn i'n cynorthwyo i ddeall mwy amdanoch chi fel unigolyn ac am eich moeseg a'ch gwerthoedd.
Bydd y cyfweliad yn parhau am tua 45 munud ac mae'n seiliedig ar:
Rhowch wybod i ni os dymunwch gael eich cyfweld yn Gymraeg neu Saesneg neu gyfuniad o'r ddau os yw hynny'n haws i chi.
Llongyfarchiadau os llwyddoch i gyrraedd y cam hwn. Rydym nawr yn symud i'r cam fetio a chyn-gyflogaeth. Gall y rhan hon o'r broses gymryd dipyn o amser yn ddibynnol ar wahanol ffactorau fel archwiliadau meddygol a fetio. Fodd bynnag, gwnawn eich diweddaru wrth i chi symud ymlaen.
Ar ôl eich cyfweliad fe wnawn eich gwahodd i'r gweithdy 'Y camau nesaf ar ddod yn Swyddog Heddlu'. Bydd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am y cam cyn cyflogaeth, ein rhaglen hyfforddiant ac fe geir mewnbwn gan ein tîm Gweithredu Positif. Gallwch benderfynu os yw eu cymorth yn rhywbeth y buasech yn ei werthfawrogi. Byddwn hefyd yn gallu rhoi rhyw syniad i chi o'ch dyddiad dechrau.
Byddwch yn cwblhau ffurflen yn dilyn eich cyfweliad o ran gwybodaeth diogelwch a fetio. Bydd ein hadran fetio yn cynnal y gwiriadau cefndirol perthnasol. Gwneir penderfyniad ynghylch a ellir caniatáu fetio.
Os ydy'r tîm fetio angen mwy o wybodaeth fe wnânt gysylltu â chi yn ystod y cam hwn o'r broses.
Yn y cam hwn, fe wnawn gysylltu â'ch cyflogwyr blaenorol dros y 3 blynedd diwethaf ynghyd â'ch canolwyr personol/addysgiadol. Mae'n bwysig fod y wybodaeth ar eich ffurflen gais yn gywir ac wedi'i diweddaru. Adolygir unrhyw salwch a ddatgenir gan gyflogwr blaenorol gan yr Adran Iechyd Galwedigaethol yn unol â pholisi Rheoli Absenoldebau Heddlu Gogledd Cymru.
Byddwn ond yn cysylltu â'ch cyflogwr presennol gyda'ch caniatâd chi – bydd yn un o’r camau olaf yn y broses.
Yma yn Heddlu Gogledd Cymru rydym yn annog ein staff a’n swyddogion i gyd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith.
Felly gofynnwn i recriwtiaid newydd i ddangos sgiliau sylfaenol yn y Gymraeg (cymhwysedd lefel 2).
Bydd yr adolygiad yn digwydd mewn modd anffurfiol gyda siaradwr Cymraeg ystyrlon, ac rydym yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad i’ch helpu cyflawni’r lefel gofynnol ar gyfer rôl.
Mae gennym hefyd adnoddau dysgu a all eich helpu gyda’ch dysgu. Nodwch mai adolygiad llafar yw hwn ac nid oes prawf ysgrifenedig.
Os ydych yn siaradwr Cymraeg rhugl neu os aethoch i ysgol Gymraeg yna ni fydd rhaid i chi gwblhau’r adolygiad. Bydd hwn yn cael ei wirio yn ystod y broses.
Fe wnawn eich gwahodd chi i Bencadlys yr Heddlu, Bae Colwyn am eich asesiadau biometreg. Mae hyn yn cynnwys samplau DNA a rhoi olion bysedd a wneir gan staff hyfforddedig Heddlu Gogledd Cymru. Ceir hefyd prawf cyffuriau a wneir gan gwmni allanol.
Nid yw plismona erioed wedi bod yn waith hawdd. Bydd gofyn i chi ymdrin ag amrywiol sefyllfaoedd a fydd yn cynnwys gorchwylion heriol yn gorfforol.
Byddwch angen nerth, ystwythder a stamina i ymdrin yn effeithiol â sefyllfaoedd ynghyd ag amddiffyn eich hun a phobl eraill. Byddwch hefyd angen bod yn heini i drin offer yr heddlu'n ddiogel a gweithio sifftiau.
Mae'r prawf ffitrwydd yn ffordd i ni sicrhau eich bod yn ddigon heini i ymdrin â galwadau'r swydd.
Dysgwch mwy am beth yw’r prawf (PDF, Saesneg yn unig).
Bydd gofyn i chi lenwi holiadur hanes meddygol. Ar ôl i'n Huned Iechyd Galwedigaethol asesu'r holiadur, byddwch yn cael eich gwahodd am feddygol wyneb i wyneb. Bydd gofyn i chi ddod â chrynodeb meddygol eich meddyg teulu, sydd ar gael o'ch meddygfa.
Byddai'n ddefnyddiol pe bai gennych unrhyw adroddiadau arbenigol neu wybodaeth meddyg eich bod yn paratoi'r rhain yn barod ar gyfer eich apwyntiad meddygol. Po fwyaf o wybodaeth sydd gan y tîm y cyflymaf y gallant ddatblygu eich ffeil.
Caiff BMI ei asesu fesul achos yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o hanes meddygol llawn.
Safonau Meddygol Cymeradwy (PDF)
Safonau Golwg (Gov.uk)
Llongyfarchiadau, mae'r broses bellach ar ben. Byddwn yn ysgrifennu atoch yn cadarnhau eich penodiad a'ch dyddiad dechrau yn y swydd. Rydym yn anelu i roi 1 mis o rybudd o'ch dyddiad dechrau.
Cyn eich dyddiad dechrau, bydd disgwyl i chi;