Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nid oes angen gradd arnoch i fod yn Swyddog Heddlu.
Ar y dudalen hon, fe wnawn eich tywys chi drwy’r llwybrau mynediad i blismona gan gynnwys ein rhaglen dysgu a datblygu cychwynnol newydd yr heddlu.
Llwybrau mynediad i blismona – cyflog dechreuol £29,907 - £48,231 (blwyddyn 7)*
1. Rhaglen Mynediad Swyddogion Heddlu (PCEP) **NEWYDD**
Nid oes gofyn i chi feddu gradd neu astudio ar gyfer gradd yn ystod hyfforddiant. Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i chi fod wedi cyflawni cymhwyster Lefel 3 (Lefel A neu rywbeth cyfatebol) eisoes neu fod wedi llwyddo’r asesiad gallu ar-lein fel rhan o’ch cais ar gyfer rôl swyddog heddlu. Byddwch yn mynychu dysgu mewn ystafell ddosbarth a dysgu ymarferol am oddeutu 22 wythnos. Ar ôl hyfforddi, byddwch yn ymuno hefo timau Plismona Lleol lle byddwch yn parhau hefo’ch dysgu a’ch datblygu wrth ymgymryd â dyletswyddau heddlu o ddydd i ddydd. Mae hon yn rhaglen ddwy flynedd.
2. Mae Prentisiaeth Gradd Cwnstabliaid Heddlu (PCDA) yn brentisiaeth gradd broffesiynol 3 blynedd
Ymunwch fel swyddog a dilynwch brentisiaeth ym maes arfer plismona proffesiynol – byddwch yn ennill arian wrth i chi ddysgu.
Fel arfer mae'r llwybr hwn yn cymryd tair blynedd yn gweithio a dysgu. Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn cwblhau eich cyfnod prawf a chael eich gradd.
I fod yn gymwys rhaid i chi fod wedi llwyddo mewn cymhwyster Lefel 3 (Lefel A neu gyffelyb) neu fod wedi cwblhau asesiad cymhwyster ar-lein fel rhan o'ch cais ar gyfer rôl swyddog heddlu.
3. Rhaglen Mynediad i Ddeiliaid Gradd (DHEP) – Y cyfnod prawf yw 2 flynedd
Os oes gennych radd mewn unrhyw bwnc gallwch ymuno a dilyn rhaglen waith, gyda chefnogaeth ddysgu y tu allan i'r gwaith. Fel arfer mae'r llwybr hwn yn cymryd dwy flynedd a bydd y dysgu yn cael ei gydnabod ar ffurf diploma graddedig ym maes arfer plismona proffesiynol ar ôl i chi gwblhau eich cyfnod prawf.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Bangor yn cyflwyno cymwysterau plismona ac rydym yn recriwtio a thalu pobl i astudio ar gyfer gradd neu ddiploma graddedig gan hyfforddi i fod yn swyddog heddlu ar yr un pryd.
4. Gradd Plismona Proffesiynol (PPD) – Cyfnod prawf 2 flwyddyn
Os ydych chi eisiau astudio yn gyntaf, gallwch wneud Gradd Plismona Broffesiynol (PPD) am dair blynedd ar eich traul eich hun ac yna gwneud cais i'n heddlu ni. Yma yng Ngogledd Cymru rydym yn gallu cynnig y cyfle i holl raddedigion ymgeisio ar unrhyw amser a byddwch yn ymuno â chydweithwyr o lwybrau mynediad eraill yn yr ystafell ddosbarth.
Tra mae ein hyfforddiant ystafell ddosbarth ychydig yn hirach nag y disgwyliwyd yn wreiddiol, mae hyn yn rhoi amser ar gyfer adolygiadau 1-2-1 o’ch anghenion hyfforddiant. Mae’n rhoi cyfleoedd am hyfforddiant gloywi ar ddysgu o flaen llaw er mwyn sicrhau eich bod yn hyderus wrth ymuno â’ch rota.
Rydym yn cydnabod fod pobl yn ymuno â ni o bob cefndir gyda phrofiadau amrywiol a chymwysterau addysgiadol. Rydym am barhau i groesawu hyn fel y gall unrhyw un sy'n awchu am wasanaethu'r cyhoedd gael gyrfa gwerth chweil fel swyddog heddlu.
Ers mis Medi 2019 mae'r opsiwn hefyd i bobl astudio am Radd Cyn Ymuno mewn Arfer Plismona Proffesiynol drwy'r ffordd draddodiadol o fynd i'r Brifysgol er mwyn cwblhau'r radd cyn ymgeisio i fod yn Swyddog Heddlu. Bydd pobl sy'n graddio gyda'r radd hon o 2022 ac sy'n dewis ymuno â Heddlu Gogledd Cymru fel Swyddog Heddlu hefyd yn ymgymryd â hyfforddiant academaidd ac ymarferol i ddatblygu sgiliau penodol.
Os hoffech wybod mwy am y cymwysterau ewch i wefan y Coleg Plismona.
*Yn weithredol o 1 Medi 2024
Mae swyddogion yr heddlu yn gwneud penderfyniadau anodd sy'n effeithio ar y cyhoedd bob dydd. Maent yn wynebu problemau cymhleth, yn aml mewn sefyllfaoedd peryglus, gyda galwadau cynyddol gan ymchwiliadau digidol a phobl fregus.
Nid oedd y rhaglen hyfforddi recriwtio bresennol ar gyfer swyddogion ar ddechrau eu gyrfa wedi'i chynllunio gyda'r gofynion hyn mewn golwg.
Mae'r rhaglen newydd yn cydnabod bod cwnstabliaid yn gweithredu ar lefel lle maent yn cymryd cyfrifoldeb personol am benderfyniadau mewn amgylcheddau cymhleth, nad oes modd eu rhagweld.
Mae swyddogion sy'n gweithredu ar y lefel honno wedi dysgu yn y swydd ac wedi gwneud hyfforddiant ychwanegol, ond nid ydynt wedi cael unrhyw gydnabyddiaeth ffurfiol am lefel yr arbenigedd y maent wedi'i gyrraedd.
Rydym wedi gweithio gyda'r holl brif sefydliadau ym maes plismona i ddatblygu'r rhaglenni hyfforddi recriwtio newydd. Bydd y rhain yn rhoi'r cyfle gorau i swyddogion prawf gyrraedd lefel yr arbenigedd a geir mewn swyddogion sy'n gwasanaethu.
Bydd yr empathi, y tosturi a'r synnwyr cyffredin sydd eu hangen mewn plismona yn cael eu cefnogi, nid eu disodli gan y rhaglenni newydd, a bydd yn caniatáu i swyddogion gael cydnabyddiaeth am gymhlethdod eu swydd.
Gwnaiff Heddlu Gogledd Cymru ofalu am yr holl ffioedd prifysgol a sicrhau hefyd fod gennych amser wedi'i neilltuo i chi gwblhau'r gwaith gradd/diploma.
Cewch. Byddwch yn swyddog heddlu gwarantedig a chewch eich talu fel swyddog llawn amser drwy gydol eich cyfnod astudio.
£29,907 yw'r cyflog cychwynnol, ac mae'n cynyddu wrth i chi fynd drwy eich cyfnod Prawf.
Cafodd yr hyfforddiant presennol a ymgymerir gan swyddogion heddlu ei adolygu gan y Coleg Plismona a ganfuwyd i fod ar safon lefel 6 (lefel gradd).
Fodd bynnag, mae swyddogion ar brawf ar hyn o bryd ond yn derbyn cymhwyster lefel 3 ar gyfer cwblhau'r lefel uchel o waith hwn. Gan y byddwch wedi llwyddo drwy ein proses recriwtio mae hyn yn golygu fod gennych y gallu i lwyddo i gwblhau'r gwaith academaidd a geir gyda'r hyfforddiant. Byddwch yn cael y cymhwyster yn ogystal â chymhwyso fel Swyddog Heddlu.
Byddaf yn cael fy ngalw'n Brentis?
Byddwch yn Swyddog Heddlu ar Brawf, beth bynnag fo'r cymhwyster rydych yn ei astudio ar ei gyfer.
Bydd ond bydd rhaid i'r radd gyfateb i gymhwyster Lefel 6/Gradd yn y DU.
Gallwch ymweld â’r ENIC, Canolfan Wybodaeth Genedlaethol y DU er mwyn cydnabod a gwerthuso cymwysterau a sgiliau rhyngwladol er mwyn gwybod cymaroldeb eich cymhwyster.
Maent yn cynnig gwasanaeth i chi ddangos eich lefel o gymhwyster cyflogaeth, astudiaeth, cofrestriad proffesiynol astudiaeth neu reswm arall.
Byddwch a chewch. Ynghyd â bod yn swyddog gwarantedig gyda Heddlu Gogledd Cymru, byddwch yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor ac fe gewch gerdyn myfyriwr.