Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymgeisiwch rŵan i fod yn Swyddog Heddlu!
Fel swyddog heddlu eich gwaith fydd lleihau trosedd a’r ofn o drosedd a magu hyder ymysg pobl leol bod yr heddlu yn deall ac yn barod i ddelio â materion sydd o bwys iddynt.
Ein Swyddogion yw wyneb a llais Heddlu Gogledd Cymru. Maent ar lawr gwlad, yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r cyhoedd a sefydliadau wrth wneud gwahaniaeth i’r gymuned leol. Maent yn dod o gefndiroedd gwahanol ond mae gan bob un yr un nod – cadw'n cymunedau'n ddiogel.
Daw swyddogion i'r gwaith bob dydd heb wybod beth sydd o'u blaenau – ond mae'n swydd sy'n werth chweil. Bydd gennych rôl allweddol yn cefnogi dioddefwyr a thystion a chynnig sicrwydd i unigolion sydd wedi dioddef troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd llawer o bobl yn troi atoch am arweiniad a gwarchodaeth rhag profiadau o'r fath. Er mwyn cynnig hyn yn effeithiol bydd angen i chi ddangos hyder, gweld pethau o'u safbwynt nhw a theilwra eich dulliau i ateb eu hanghenion a'u gofidiau.
Plismona yw un o'r swyddi mwyaf amrywiol sy'n bodoli. Mae'r gwaith yn amrywio o ateb galwad 999 ac achub bywyd, i stopio traffig, atal cam-drin domestig, nodi achosion o gaethwasiaeth fodern, canfod pobl fregus neu fod y cyntaf i gyrraedd trychineb fel damwain, corff marw, anhrefn cymdeithasol neu ymosodiad terfysgol. Beth bynnag a ddaw i'ch rhan, eich gwaith unigryw fydd gwneud gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel yn y DU.
Rydym yn chwilio am bobl sy'n adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, a phobl a all ddod â'u profiadau amrywiol sy'n fodlon diogelu ein strydoedd.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i wneud ein gwasanaeth heddlu yn fwy amrywiol ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae rhaglen gynnydd y llywodraeth wedi rhoi cyfle unigryw i gyflawni hyn. Rydym wedi bod ar waith yn y gymuned yn ceisio cyrraedd grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ac unrhyw un gyda nodweddion sydd wedi eu diogelu. I gael gwybod mwy am y gefnogaeth a roddwn, ewch i dudalen ein Tîm Gweithredu Positif.